Coedwig Beddgelert, ger Porthmadog
Coedwig dawel yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri
Tri llwybr cerdded o amgylch y llyn ac un o'r golygfeydd gorau yn y gogledd
Mae Llwybr Crafnant i Geirionydd ar gau.
Mae Llwybr Afon Crafnant ar gau.
Mae llwybr Golygfa Crafnant ar agor hyd at yr olygfan.
Coronavirus update
Our sites and most visitor facilities are open but, under the current coronavirus restrictions in Wales, this is intended only for the use of people who live locally.
You are strongly advised – in line with current Welsh Government regulations – not to drive to any of our sites to exercise unless you have specific health or mobility issues.
We have changed the normal route for some of our trails to help you maintain social distancing – please follow signs on site.
Lleolir Parc Coedwig Gwydir yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri.
Ers Oes Fictoria, mae cenedlaethau o ymwelwyr wedi cerdded ar hyd y llwybrau coetir ac wedi pysgota yn nyfroedd clir yr afonydd yma.
Heddiw, mae llwybrau cerdded ag arwyddbyst yn galluogi ymwelwyr i ddarganfod y dirwedd hon o lynnoedd, coedwigoedd a mynyddoedd a dysgu am ei hanes mwyngloddio.
Ceir llwybr beicio mynydd hefyd (sydd wedi'i raddio'n goch gan ei fod ond yn addas i feicwyr medrus), gardd goedwig a llwybr cerdded ag arwyddbyst i Raeadrau enwog y Wennol.
Rhwng 1850 a 1919, gwaith cloddio plwm a sinc a oedd yn dominyddu'r ardal. Mae gwaddol hen dai peiriant, tomenni sbwriel a chronfeydd dŵr yn nodweddiadol o'r goedwig a geir heddiw.
Cafodd bron pob llyn yn y goedwig ei greu i wasanaethu'r mwyngloddiau.
Mae sawl un o'r mwyngloddiau pwysicaf wedi cael eu hadfer yn rhannol a'u gwneud yn ddiogel i ymwelwyr.
Heddiw, wrth i chi ddarganfod bryncynnau, llynnoedd a phorfeydd coediog ucheldirol, bydd yn anodd i chi ddychmygu mai tirwedd ddiwydiannol adfeiliedig oedd yr ardal hon ers talwm.
Mae Parc Coedwig Gwydir yn cwmpasu ardal sy'n fwy na 72 cilomedr sgwâr (28 milltir sgwâr) ac mae'n amgylchynu pentref Betws-y-Coed.
Mae llwybrau cerdded ag arwyddbyst yn dechrau o'r rhannau canlynol o Barc Coedwig Gwydir:
Llwybr y Marin, llwybr beicio mynydd gradd coch â dringfeydd mawr a disgyniadau trac unigol yn unig, yn dechrau o Fainc Lifio.
Mae Llyn Crafnant yn dri chwarter milltir o hyd a saif mewn dyffryn prydferth lle mae ymyl ogleddol Coedwig Gwydir yn cwrdd â llethrau isaf mynyddoedd Carneddau.
Wrth ran uchaf Llyn Crafnant, ceir un o'r golygfeydd gorau yn y gogledd, ar draws y llyn i'r mynyddoedd uwchlaw.
Cronfa ddŵr yw Llyn Crafnant mewn gwirionedd. Arferai gyflenwi dŵr i dref gyfagos Llanrwst.
Hen air Cymraeg am arlleg yw'r "craf" yn yr enw Crafnant.
Hyd yn oed heddiw mae dyffryn afon Crafnant yn arogli o arlleg gwyllt pan fo'n blaguro.
Lleolir maes parcio a thoiledau Cyfoeth Naturiol Cymru ychydig cyn i'r ffordd gyrraedd y llyn.
Y maes parcio yw man cychwyn tri llwybr cerdded ag arwyddbyst, y mae un ohonynt yn llwybr pob gallu.
Ceir caffi wrth ymyl y llyn (perchenogion preifat) (ar agor rhwng y Pasg a diwedd yr haf) lle gall ymwelwyr logi cychod.
Noder: ni chaniateir defnyddio cychod preifat na nofio.
Gallwch hefyd gerdded o'r fan hyn i lyn cyfagos Llyn Geirionnydd.
Sylwch:
Ceir arwyddbyst ar hyd yr holl lwybrau cerdded ac maent yn dechrau o'r maes parcio.
½ milltir/0.6 cilomedr
Mae Llwybr Afon Crafnant yn mynd ar hyd ymyl afon Crafnant drwy ardaloedd o goed coniffer enfawr, coed bedw ifanc a llennyrch glaswellt agored. Ceir meinciau ar hyd y ffordd ac mae'r graddiant hawdd a'r arwyneb mân yn golygu ei fod yn addas i gadeiriau olwyn.
3¼ milltir, 5 cilomedr
Mae Cylchdaith Llyn Crafnant yn mynd o amgylch y llyn. Mae'n dechrau ar ffordd darmac cyn ymuno â ffordd goedwig sy'n cofleidio ochr y dŵr. Yr uchafbwynt yw'r olygfa dros y dŵr i'r creigiau uchel ar ben Dyffryn Crafnant.
3 milltir, 4.8 cilomedr
Mae llwybr Golygfa Crafnant yn dechrau drwy ddringo ffordd goedwig yn hir ac yn raddol i fainc bren lle ceir golygfeydd ysblennydd o Eryri - llynnoedd, mynyddoedd a choedwig. Yna mae'r llwybr yn mynd ar hyd llwybr coedwig ac yn ymuno â ffordd darmac wrth ymyl Llyn Crafnant i ddychwelyd i'r maes parcio.
Mae Llwybr Afon Crafnant yn addas i bawb. Mae ganddo raddiant hawdd ag arwyneb mân ac mae'n addas i gadeiriau olwyn. Ceir meinciau ar hyd y llwybr.
Ymhlith y cyfleusterau mae:
Mae'r toiledau ar agor drwy'r amser.
Mae'r caffi wrth ymyl y llyn sy'n llogi cychod (perchenogion preifat) ar agor o'r Pasg tan ddiwedd yr haf.
Mae Llyn Crafnant 4 milltir i'r gorllewin o Lanrwst oddi ar y B5106.
Mae yn Sir Conwy.
Mae'r maes parcio am ddim.
Cymerwch y B5106 o Gonwy neu Fetws-y-Coed i Drefriw, yna dilynwch yr arwyddion i Lyn Crafnant.
Mae Llyn Crafnant ar fap Arolwg Ordnans (AR) OL 17.
Cyfeirnod grid yr AO yw SH 756 618.
Yr orsaf drên agosaf yw Llanrwst.
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i www.cymraeg.traveline.cymru
Ffôn: 0300 065 3000
E-bost: ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk