Coedwig Beddgelert, ger Porthmadog
Coedwig dawel yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri
Copaon gwych a llynnoedd rhewlifol ysblennydd ym Mharc Cenedlaethol Eryri
O ran mawredd a harddwch, prin yw’r llefydd sy’n gallu cymharu â Chadair Idris, mynydd godidog yn ne Parc Cenedlaethol Eryri.
Mae rhwydwaith o lwybrau’n arwain i fyny ac o gwmpas Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cadair Idris, gan gyfarfod ar y copa ym Mhenygadair.
Ar dywydd teg, fe welwch olygfeydd godidog draw dros y môr a’r rhan fwyaf o Gymru o ben y mynydd rhyfeddol hwn, o Ben Llŷn yn y gogledd-orllewin i Fannau Brycheiniog yn y de-ddwyrain.
Yn ôl llên gwerin, cawr oedd Idris; a Chadair Idris oedd lle’r arferai wylio’r sêr.
Tybir mai rwbel o’r adeg pan arferai Idris a’r cewri eraill frwydro a thaflu cerrig at ei gilydd yw’r clogfeini anferth ar lethrau isa’r mynydd.
Yn ôl y sôn os ydych yn ddigon ffodus i fod dal yn fyw ar ôl treulio noson ar y copa, bydd y profiad naill ai’n eich troi’n wallgof neu’n fardd.
Mae’r ffilm yn ddwyieithog. Mae’r fersiwn Gymraeg yn dod yn gyntaf ac mae’r fersiwn Saesneg yn dilyn ar ôl 7 munud.
Ceir pedwar llwybr cerdded ag arwyddbyst.
Mae dau o’r rhain yn dilyn llwybrau gwastad yn y parcdir, a arferai fod yn rhan o ystâd teulu Idris ac a reolir bellach gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Gellir cyfuno’r ddau lwybr hwn i wneud llwybr hirach.
Mae’r ddau lwybr arwyddbost arall yn fyr ond yn dringo’n serth o’r ganolfan ymwelwyr i fyny i’r Warchodfa Natur Genedlaethol.
(⅓ milltir/0.6km, hygyrch)
Mae’r llwybr hwn yn dechrau o’r maes parcio ac mae’n mynd yr holl ffordd o gwmpas y llyn. Edrychwch am adar fel bronwen y dŵr a’r siglen lwyd, sy’n magu ar lan y llyn, a’r ysgol bysgod ger y bompren, sy’n helpu eogiaid i gyrraedd y nentydd. Meinciau picnic ar hyd y llwybr.
(½ milltir/0.8km, hygyrch)
Mae’r llwybr cylchol hwn ychydig yn hirach ac mae’n mynd drwy’r parcdir i’r ganolfan ymwelwyr. Chwiliwch am yr adfail ble cynhyrchwyd Dŵr Mwynol a chwrw sinsir Idris am y tro cyntaf.
(460 troedfedd/140m un ffordd, cymedrol)
Mae Taith y Ceunant yn dechrau heibio i’r ganolfan ymwelwyr ac yn dilyn rhan o lwybr serth Minffordd i’r Fforest Law Geltaidd, â golygfeydd ar draws y ceunant.
(⅓ milltir/0.6km un ffordd, egnïol)
Mae Llwybr Pont Nant Cadair yn dilyn yr un llwybr â Taith y Ceunant. Yna mae’n bwrw ymlaen i lethrau isaf y mynydd agored.
Mae rhwydwaith o lwybrau’n arwain i fyny ac o gwmpas Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cadair Idris, gan gyfarfod ar y copa ym Mhenygadair.
Mae’r llwybrau wedi eu diffinio’n dda gan amlaf ac yn hawdd i’w dilyn ond gall droi’n niwlog yn sydyn iawn a’r cyngor yw cario map a chwmpawd bob amser.
Mae lloches ar ben y Gadair os yw'r tywydd yn troi'n ddrwg.
Hyd yn oed yn yr haf gall y tymheredd ar y copa fod sawl gradd yn is nag yn y maes parcio islaw. Mae cymylau isel yn aml yn gorchuddio’r copa felly gall fod yn llaith ac yn oer.
Cofiwch y canlynol:
Y llwybr byrraf i fyny Cadair Idris yw’r serthaf hefyd. Nid oes arwyddbyst ar y ddringfa egnïol iawn hon ac mae’n dechrau heibio i’r ganolfan ymwelwyr. Dim ond cerddwyr profiadol â dillad ac esgidiau addas, a map, ddylai fentro ar y llwybr hwn
Sylwch:
Os ydych yn lwcus, efallai y gwelwch hebogiaid tramor yn hela uwchben y clogwyni, neu gael cip ar fwyalchen y mynydd yn yr hafnau creigiog.
Mae tinwennod y garn yn dychwelyd i’r mynydd hefyd, a gellir clywed siff-siaffod a thelorion yr helyg yn canu o amgylch y ganolfan ymwelwyr wrth droed y warchodfa. Mae nifer o blanhigion y goedwig -fel y briallu a blodyn y gwynt- yn blodeuo, a'r blagur yn ysu i agor ar y coed derw.
Yn ystod yr haf mae tri o adar nodweddiadol ein coedydd derw yn dychwelyd: y gwybedog brith, telor y coed a’r tingoch, yn ogystal â gwenoliaid a gwenoliaid y bondo sy’n nythu weithiau dan fondo'r ganolfan ymwelwyr.
Ar y clogwyni yn gynnar yn yr haf, mae’r planhigion arctig-alpaidd ar eu gorau. Nid yw rhai o’r rhain i’w gweld yn unlle arall ymhellach i’r de yng Nghymru.
Mae cornfanadl blewog, sy’n brin yn lleol, yn eu blodau hefyd. Cadair Idris yw ei leoliad mwyaf gogleddol! Yn nes ymlaen caiff rhai llethrau eu gorchuddio gan rug porffor, gyda fflachiadau o flodau melyn eithin mân i’w gweld yma ac acw. Mae’r corsydd yn disgleirio gyda gwlithlys gludiog, ynghyd â llafn y bladur a thegeirianau brych y rhos, tra mae gweision y neidr yn cadw llygad barcud ar eu plwyf.
Yn y ganolfan ymwelwyr, mae ystlumod pedol lleiaf yn dychwelyd i’w clwydfan yn y to. Caiff lluniau byw o’r ystlumod prin yma eu dangos yn yr arddangosfa, a gwelir hwy'n magu eu rhai bach yn ystod mis Gorffennaf.
Mae canopi trwchus y goedwig law Geltaidd yn gwisgo’i liwiau tymhorol trawiadol ac mae toreth o ffyngau’n ymddangos ar lawr y goedwig.
Wrth i'r glaw chwyddo Nant Cadair mae'r lleithder yn cynyddu yn y ceunant dan gysgod y coed gan gynnig amodau delfrydol i amrywiaeth o fwsoglau a llysiau’r afu hynod brin.
Gyda llai o ymwelwyr ar y mynydd, mae’n gyfle da i archwilio’r Warchodfa Natur Genedlaethol. Chwiliwch am flodau cain y clychlys dail eiddew a’r teim gwyllt. O dro i dro mae brain coesgoch yn ymweld â’r llethrau glaswelltog i chwilio am bryetach gyda’u pigau crwm coch trawiadol.
Mae rhai glöynnod byw fel y mantell paun, yn dal i fentro allan ar ddiwrnodau braf, ynghyd ag ambell gacynen lus Bombus monticola, sy'n rywogaeth mynyddig gweddol brin, efo pen ôl coch llachar!
Mae’r gaeaf yn amser da i werthfawrogi daeareg drawiadol Cadair Idris.
Mae Cwm Cau yn nodweddiadol o’r hyn a ddigwyddodd yn ystod yr oes iâ diwethaf. Mae Llyn Cau -un o lynnoedd naturiol dyfnaf Cymru- wedi'i amgylchynu bron, gyda chlogwyni serth, mil o droedfeddi o uchder mewn un man.
Dywedir ei fod yn ddiwaelod a bod anghenfil yn llechu ynddo’n rhywle! Efallai na welwch chi byth mo’r creadur dirgel hwn, ond os byddwch yn lwcus iawn efallai y gwelwch garlwm yn ei gôt aeaf wen yn hela’i brae ynghanol y sgri.
Mewn mannau eraill ar y Warchodfa, gallwch weld cliwiau eraill yn ymwneud â gorffennol daearegol y safle, fel lafa clustog ac wynebau creigiau llyfn, wedi’u herydu gan y llif rhew araf ei symudiad.
Mae Canolfan Ymwelwyr Cadair Idris a Thŷ Te Cadair 250 metr o’r maes parcio ac mae llwybr Minffordd i’r copa’n pasio heibio iddynt.
Mae’r ganolfan ymwelwyr yn cynnwys arddangosfa o fywyd gwyllt, daeareg a'r chwedlau am Warchodfa Natur Genedlaethol Cadair Idris.
Mae’r arddangosfa’n cynnwys:
Cyfoeth Naturiol Cymru sydd piau’r ganolfan ac mae’n cael ei rhedeg mewn partneriaeth â staff Tŷ Te Cadair.
Mae’r ganolfan ymwelwyr a’r ystafell de ar agor yn dymhorol – gweler Tŷ Te Cadair am yr amseroedd agor.
Dilynwch ein tudalen Facebook i gael y newyddion i gyd.
Mae'r ganolfan ymwelwyr wedi derbyn achrediad Sicrwydd Ansawdd Atyniad i Ymwelwyr gan Croeso Cymru. Dyfernir Nod Sicrwydd Ansawdd Croeso Cymru i atyniadau sydd wedi eu hasesu’n annibynnol yn erbyn safonau cenedlaethol Cynllun Sicrhau Ansawdd Atyniadau Ymwelwyr.
Mae’r cyfleusterau’n cynnwys:
Mae’r ganolfan ymwelwyr a’r ystafell de ar agor yn dymhorol – gweler Tŷ Te Cadair am yr amseroedd agor.
Mae’r toiledau yn y ganolfan ymwelwyr ar agor pan fydd y ganolfan ar agor.
Mae’r toiledau yn y maes parcio’n cael eu rhedeg gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac ar agor bob dydd (nid 24 awr).
Gellir hefyd trefnu ymlaen llaw i agor y ganolfan ymwelwyr ar gyfer grwpiau addysg, clybiau a chymdeithasau. Cofiwch gysylltu â rheolwr y warchodfa drwy’r manylion cyswllt isod.
Mae’r prif fynediad i Warchodfa Natur Genedalethol Cadair Idris drwy faes parcio Dôl Idris sydd rhwng Dolgellau a Machynlleth oddi ar yr A487.
Y cyfeirnod grid OS yw SH 732 115.
Lleolir maes parcio Dôl Idris wrth gyffordd y B4405 a’r A487.
Mae’r maes parcio’n cael ei redeg gan Barc Cenedlaethol Eryri a rhaid talu am barcio.
Mae’r orsaf drên agosaf yn Nhywyn.
Mae bysus rhifau 30, 32 a 34 [Dolgellau-Tywyn-Machynlleth] yn rhedeg ar yr A487 ac yn stopio wrth y gyffordd â’r B4405. Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i www.traveline-cymru.info
Ffôn: 0300 065 3000
Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.