Coedwig Beddgelert, ger Porthmadog
Coedwig dawel yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri
Gwlypdir o bwys rhyngwladol sydd â chyfoeth o fywyd gwyllt
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Er gwaethaf ei enw, cors galchog yw Cors Bodeilio mewn gwirionedd.
Ar ôl East Anglia, mae mwy o gorsydd calchog yng Nghymru nag unman arall yn y DU.
Mae Cors Bodeilio yn un o’r tair cors galchog ar Ynys Môn sydd wedi cael eu henwi fel Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol.
Mae’n warchodfa natur ryngwladol bwysig oherwydd ei siglen unigryw (ardal wlypdir o blanhigion byw sy’n ffurfio mawn, heb orchudd coedwig).
Mae dŵr o’r creigiau calchfaen sy’n amgylchynu Corsydd Ynys Môn yn llawn mwynau, ac yn creu amodau perffaith ar gyfer amrywiaeth o blanhigion ac anifeiliaid prin
Dilynwch ein teithiau cerdded ag arwyddbyst dros y llwybr pren i'r gwlypdir i gael golygfeydd gwych a'r cyfle i weld y bywyd gwyllt ac arddangosfa o flodau gwyllt yn y gwanwyn a'r haf.
Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybrau.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Mwynheuwch weld a chlywed adar y gwlyptir yn y gwely cyrs.
Mae yna fywyd gwyllt i'w weld neu glywed drwy’r amser, bob adeg o'r flwyddyn.
Mwynheuwch y sioe o flodau gwyllt ar y dolydd yn y gwanwyn a’r haf.
Llefydd yw Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol sydd ag enghreifftiau gwych o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearyddol.
Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.
Mae tair o’r corstiroedd ar Ynys Môn wedi cael eu henwi fel Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol:
Darganfod mwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol
Darganfod mwy am Brosiect LIFE Corsydd Môn a Llŷn
Mae’r planhigion yng Nghors Bodeilio yn cefnogi ystod o drychfilod, sydd yna’n denu nifer fawr o adar y gwlyptir.
Tegeirian y clêr sy’n ennill y wobr fan hyn. Mae’n degeirian prin eithriadol yng Nghymru - gyda math melyn hyd yn oed prinnach wedi’i ganfod yma.
Mae wyth tegeirian arall yma gan gynnwys tegeiria-y-gors culddail, tegeirian pêr y gors, caineirian a chaldrist y gors.
Ymhlith y rhywogaethau ffen nodweddiadol mae’r gorsfrwynen lem a’r hesgen ylfinfain Mae planhigion eraill yn ffynnu yma megis y gorsfrwynen ddu, helygen Mair a’r frwynen flaendon.
Rhaid mai’r seren yw’r gele feddyginiaethol brin - yr unig gele Brydeinig gyda dannedd a all frathu trwy groen dynol.
Yn ogystal ceir pryfed prin, chwilod dŵr, gwyfynod ac 19 math o löyn byw.
Yr hawsaf o’r cwbl i’w gweld yw’r gweision neidr a’r mursennod (9 rhywogaeth) sy’n hofran ac yn gwibio ar draws ddyfroedd agored y gors.
Mae’r warchodfa yn llawn bwrlwm yn y gwanwyn a’r haf gyda chân adar fel telor y cyrs a thelor yr hesg, bras y cyrs, y troellwr bach a chlochdar y cerrig - gallwch weld hyd at 130 o rywogaethau adar yma! Hwyrach y gwelwch hefyd y gornchwiglen a’r gylfinir, neu hyd yn oed y gïach cyffredin.
Mae Cors Bodeilio 11 milltir i'r gogledd orllewin o Fangor.
Mae yn Sir Fôn.
Mae cors Bodeilio ar fap yr Arolwg Ordnans (OS) 263.
Cyfeirnod grid yr AO yw SH 506 773.
Dilynwch yr A4087 o Fangor, tuag at y Goetre.
Ymunwch â'r A5 tuag at Bont Britannia.
Ar ôl ½ milltir, cymerwch yr A5025 gan ddilyn yr arwyddion i Fenllech.
Parhewch am 5 milltir nes cyrraedd Pentraeth.
Yn y pentref, cymerwch y chwith cyntaf ger y swyddfa bost a chwith eto tuag at yr ysgol.
Dilynwch y ffordd gul hon am 1 ¼ milltir ac mae'r maes parcio ar y dde.
Mae'r orsaf drên agosaf ym Mangor neu yn Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch (sef stop ar gais).
I gael manylion am drafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae'r maes parcio yn rhad ac am ddim.