Rhoi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol

Problemau gyda'n llinellau ffôn

 

Rydym yn cael problemau ysbeidiol gyda'n gwasanaeth ffôn Cymraeg a'n llinell dalu (opsiwn 3).

 

Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth Cymraeg, dewiswch opsiwn 2 ar gyfer Saesneg. Gall ein cynghorwyr ddal i’ch helpu yn Gymraeg.

 

Os ydych chi'n ffonio ynglŷn â thaliad neu anfoneb, anfonwch e-bost at online@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

 

Rydym yn gweithio i drwsio'r problemau hyn cyn gynted ag sydd bosibl.

I’n helpu i ymchwilio’n effeithiol, cofiwch gynnwys:

  • beth welsoch chi
  • ble digwyddodd (hanfodol)
  • pryd y digwyddodd
  • a yw’n dal i ddigwydd nawr
  • unrhyw luniau neu fideos (arbennig o ddefnyddiol)

Rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch er mwyn i ni allu ymateb yn effeithiol.


neu ffoniwch 0300 065 3000 24 awr o'r diwrnod


Beth sy’n digwydd ar ôl i ni dderbyn eich adroddiad

Rydyn ni’n atal ac yn lleihau llygredd drwy flaenoriaethu’r digwyddiadau mwyaf difrifol, ar sail y risg i’r amgylchedd, i bobl ac i fywyd gwyllt.

Nid oes angen ymweld â’r safle ar gyfer pob adroddiad o lygredd. Rydyn ni’n defnyddio tystiolaeth, barn arbenigol a data i benderfynu ar y ffordd orau o ymateb.

Nid ydym yn darparu adborth unigol ar bob adroddiad digwyddiad ond mae pob adroddiad a dderbyniwn yn cael ei asesu'n arbenigol.

Efallai y byddwn yn cysylltu â chi’n uniongyrchol i gael rhagor o wybodaeth.


Digwyddiadau i’w hadrodd i’ch awdurdod lleol

  • tipio sbwriel cartref neu symiau bach o wastraff masnachol yn anghyfreithlon
  • iechyd amgylcheddol
  • niwsans drwy sŵn domestig
  • arogleuon o safleoedd domestig neu fasnachol bach
  • llosgi gwastraff domestig neu ardd
  • plâu domestig
  • allyriadau mwg o gerbydau
  • cynnal a chadw ffyrdd
  • anifeiliaid marw


Digwyddiadau i’w hadrodd i’ch cwmni cyfleustodau 

  • gollyngiadau nwy
  • prif bibell ddŵr wedi byrstio
  • afliwio neu annormaleddau o ran arogl neu flas dŵr yfed
  • llifogydd o bibellau domestig wedi byrstio neu orlif o ddraeniau priffyrdd
  • toriad yn y cyflenwad trydan neu ddŵr
  • draeniau a charthffosydd domestig wedi’u blocio
Diweddarwyd ddiwethaf