Coedwig Beddgelert, ger Beddgelert
Coedwig enfawr yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Morfa Dyffryn yn un o’r systemau twyni tywod pwysicaf yng Nghymru oherwydd ei thywod noeth a chynefinoedd bywyd gwyllt.
Mae twyni fel y rhain gyda’u hardaloedd tywod noeth yn dod yn gynyddol brin.
Mae’r gwynt yn symud ac yn ailffurfi’r twyni yn gyson ac maent yn cynnig cartref i blanhigion ac anifeiliaid prin a hynod arbenigol.
Yn ogystal â'r twyni tywod enfawr, mae ardaloedd glan y môr, morfa heli a glaswelltir, a phob un o'r cynefinoedd hyn yn gartref i amrywiaeth anhygoel o fywyd gwyllt.
Ynghyd â Gwarchodfa Natur Genedlaethol Morfa Harlech i’r de, mae'r ddwy warchodfa yn ffurfio ardal ddi-dor bron o dwyni tywod ar hyd yr arfordir.
Mae Morfa Dyffryn yn Warchodfa Natur Genedlaethol.
Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn safleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.
Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.
Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.
Mae’r tirlun arfordirol trawiadol hwn yn un o’n trysorau naturiol cyfoethocaf ac yn gartref i ystod eang o blanhigion ac anifeiliaid, a’r cyfan wedi’u haddasu’n benodol i fywyd ar ymyl y môr.
Efallai bod y twyni’n edrych yn llwm a digroeso i ni, ond mewn gwirionedd maent yn gartref i rai planhigion ac anifeiliaid arbenigol iawn sy'n dibynnu ar yr amgylchedd rhyfedd hwn er mwyn goroesi.
Mae’r ardaloedd gwastad rhwng y twyni yn wlyb iawn yn ystod y gaeaf ac yn aml yn aros yn llaith ymhell i mewn i’r haf.
Mae’r rhain yn datblygu arddangosfa liwgar o flodau gwyllt sy’n golygu bod Morfa Dyffryn yn lle gwych i löynnod byw a phryfed. Mae rhywogaethau di-asgwrn cefn sy'n brin yn genedlaethol neu drwy’r Deyrnas Unedig i’w gweld yma.
Mae’r glaswelltiroedd tywodlyd yn cynnig yr amodau tyfu perffaith ar gyfer rhai ffyngau twyni tywod trawiadol ac unigryw
Mae'r twyni tywod yn cynnal poblogaethau sylweddol o adar magu, ac mae hwn yn lle pwysig ar gyfer mamaliaid, ymlusgiaid ac amffibiaid hefyd.
Mae'r ysgyfarnog yn magu yn yr ardal, mae cilfachau, corsydd a phyllau’n gartref i nadroedd y gwair ac mae madfallod dŵr cribog i’w cael yma.
Dyma rai o’r pethau y gwelwch chi yn ystod y gwahanol dymhorau.
Mae hwn yn amser da i weld llawer o'r planhigion blodeuol sy'n tyfu yng nglaswelltir a llaciau’r twyni tywod.
Mae’r safle hwn yn gartref i sawl math o flodyn gwyllt, cen a mwsogl sy’n brin ac anghyffredin yn genedlaethol. Gallwch weld tegeirianau gwylltion hyfryd megis caldrist y gors yn tyfu ochr yn ochr â thegeirian y fign yn ogystal â’r tegeirian rhuddgoch.
Mae llu o flodau gwylltion eraill lliwgar i’w mwynhau o'r gwanwyn cynnar ymlaen. Bydd y Glustog Fair a’r ganrhi goch yn blodeuo’n gynnar a nifer o rywogaethau arfordirol eraill gan gynnwys tagaradr, y trilliw gwyllt a physen-y-ceirw yn blodeuo’n ddiweddarach.
Efallai hefyd y gwelwch chi glust-y-llygoden arfor, y tywodlys dail teim, llaethlys Portland llaethlys a pheisgwellt y twyni.
Mae cornchwiglod yn nythu yma ac mae’r cwtiad torchog hefyd yn magu ar ardaloedd o raean.
Daw’r misoedd cynhesach ag amrywiaeth eang o blanhigion blodeuol i laswelltir a llaciau’r twyni tywod. Mae'r rhain yn cynnwys trilliw y twyni, rhwyddlwyni, teim, penigan y forwyn a thegeirianau.
Gallwch hefyd weld clystyrau o blanhigion eithaf prin fel y galdrist felynwerdd a’r glesyn-y-gaeaf deilgrwn – mis Gorffennaf neu fis Awst yw'r amser gorau i weld y rhain.
Mae’r haf hefyd yn amser prysur i lawer o infertebratau fel gwenyn turio a chwilod.
Edrychwch am loÿnnod byw fel copor bach, y fantell paun, a gweirlöyn y perthi neu wyfynod sy’n hedfan yn y dydd fel teigrod y benfelen a’r coedwyr.
Mae glaswelltiroedd sychach y twyni’n gynefin da ar gyfer ffyngau ac fe welwch gasgliad trawiadol o ffyngau yma.
Dim ond yng nglaswelltiroedd twyni sydd wedi sefydlu ers amser maith fel y rhain ym Morfa Dyffryn y gwelwch chi gorseren ddaear.
Efallai hefyd y gwelwch chi capiau cwyr amryliw, ffyngau cwrel a phastwn, tafodau’r ddaear ac ambarelo’r bwgan.
Mae fflatiau tywod a morfa heli’r aber yn diroedd bwydo pwysig i adar dŵr yn ystod y gaeaf.
Fe welwch chi adar hirgoes ar y traeth ac, os edrychwch chi allan i’r môr, efallai y gwelwch chi wyachod a throchyddion sy’n gaeafu.
Mae rhywogaethau prin eraill o adar fel y frân goesgoch a’r boda tinwyn yn ymweld â’r warchodfa o dro i dro yn ystod y gaeaf.
Ceir dau lwybr cerdded o faes parcio Benar drwy’r warchodfa i’r traeth.
Mae’r llwybr pren o’r maes parcio’n mynd yn syth i’r traeth.
Mae’r llwybr o’r maes parcio’n mynd drwy’r llaciau i’r traeth agored.
Ar ddiwrnod clir gallwch fwynhau golygfeydd o Ben Llŷn a chipolwg o Ynys Enlli o’r darn hwn o arfordir Meirionnydd.
Mae gan lwybr pren le i weld yr olygfa a mainc picnic ac mae meinciau picnic ym maes parcio.
Mae toiledau ym maes parcio (yn eiddo i Barc Cenedlaethol Eryri ac at agor yn dymhorol).
Cofiwch fod rhan o’r warchodfa yn draeth noethlymuno dynodedig a cheir arwyddion priodol.
Cadwch eich cŵn ar dennyn yn ystod tymor magu adar Mawrth – Gorffennaf; mae cwtiaid torchog yn nythu ar y traeth ac adar eraill yn y twyni ac ar y morfa hel.
Mae’r llwybr pren yn wastad ac eang ac yn addas i gadeiriau olwyn.
Ceir toiledau hygyrch yn y maes parcio.
Mae’r ddau gyfleuster yn eiddo i Barc Cenedlaethol Eryri.
Mae'r toiledau ar agor 1 Ebrill - 31 Hydref.
Sylwch os gwelwch yn dda:
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Morfa Dyffryn 5 milltir i’r gogledd o Abermaw (rhwng pentrefi Llanaber a Dyffryn Ardudwy).
Mae yn Sir Gwynedd.
Ewch ar yr A496 o Abermaw i Harlech. Ar ôl pentref Tal-y-bont, ).rowch i’r chwith gyda’r arwydd brown i Ystâd Glan-môr Dyffryn at draeth Benar. Mae maes parcio Benar ar ddiwedd y lôn un trac hwn (Ffordd Benar) ar ôl yr Ystâd Glan-môr Dyffryn.
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Morfa Dyffryn ar fap Arolwg Ordnans (AR) OL 18.
Y cyfeirnod grid OS yw SH 572 227.
Mae'r orsaf drenau agosaf yn Nyffryn Ardudwy sydd filltir i ffwrdd.
Mae gwasanaeth bws o’r de (Abermaw) a’r gogledd (Harlech) ar hyd yr A496.
Am ragor o wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae maes parcio Benar yn cael ei reoli gan Barc Cenedlaethol Eryri a chodir tâl am barcio.
Mae rhesel feiciau yn y maes parcio.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.