Coedwig Beddgelert, ger Porthmadog
Coedwig dawel yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri
Dechrau'r Llwybr Llosgyfynydd garw
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor ond, o dan y cyfyngiadau coronafeirws presennol yng Nghymru, bwriedir i’r rhain gael eu defnyddio gan bobl sy’n byw yn lleol yn unig.
Fe’ch cynghorir – yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru – i beidio â gyrru i unrhyw un o’n safleoedd i wneud ymarfer corff, oni bai fod gennych reswm dilys, megis cyflwr iechyd neu broblemau symudedd.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Maes parcio Pont Cae'n y Coed yw man cychwyn y Llwybr Llosgyfynydd sy'n datgelu hanes daearegol hynod ddiddorol Coed y Brenin.
Mae'r gylchdaith saith milltir hon yn mynd drwy rywfaint o dirwedd fwyaf garw'r parc.
Mae'r maes parcio ger pont dros afon Mawddach a cheunant.
Lawrlwythwch mwy o wybodaeth am Bont Cae'n y Coed.
Ceir arwyddbyst ar hyd y llwybr cerdded ac mae'n dechrau o'r maes parcio.
Uchafbwyntiau: Dewch i ddarganfod hanes daearegol diddorol Coed y Brenin. Mwynhewch olygfeydd ysblennydd o fynyddoedd cyfagos Meirionnydd.
Gradd: Anodd
Pellter: 6¾ milltir, 10.8 cilomedr
Disgrifiad y llwybr: Ar y llwybr cylchol heriol hwn, byddwch chi’n ymweld â sawl nodwedd allweddol yn y goedwig, gan gynnwys y gors gopr a phwynt uchaf parc y goedwig – Moel Hafod Owen. Cofiwch ddarllen y pum panel gwybodaeth i’ch helpu i archwilio hanes folcanig trawiadol Coed y Brenin.
Mae’r llwybr yn dilyn cyfuniad o ffyrdd y goedwig a llwybrau serth a chul sy’n aml yn llai na 50cm o led mewn mannau, ar arwyneb garw, anwastad, ble gallwch ddisgwyl gweld mwd, creigiau a gwreiddiau coed ar hyd peth o’r tir garwaf dan draed yn y goedwig gyfan.
Mae grisiau i’w cael ar y ddringfa serth i ben Moel Hafod Owen ble gwelwch fainc ar y copa i gael picnic haeddiannol wrth fwynhau’r olygfa.
Os hoffech gael blas ar antur go iawn, gwnewch yn siŵr eich bod yn paratoi’n dda ar gyfer diwrnod hir yn y goedwig.
Sylwch:
Mae maes parcio Pont Cae'n y Coed oddi ar yr A470, ger pentref Ganllwyd.
Mae yn Sir Gwynedd.
Cyfeirnod grid yr AO yw SH 733 251.
Mae'r maes parcio am ddim.
Lawrlwythwch fap o’r lleoliad.
O'r de: Cymerwch yr A470 i'r gogledd o Ddolgellau. Ar ôl mynd drwy bentref Ganllwyd, trowch i'r dde ar ôl yr ysgol. Dilynwch y ffordd fach hon dros bont garreg a pharhewch ar hyd y ffordd ar y dde gydag afon Mawddach islaw. Mae'r maes parcio ar y dde tua chwarter milltir i ffwrdd.
O'r gogledd: Cymerwch yr A470 i'r de o Ganolfan Ymwelwyr Parc Coed y Brenin. Ar ôl cyrraedd pentref Ganllwyd trowch i'r chwith yn syth ar ôl yr arwydd terfyn cyflymder 40mya. Dilynwch y ffordd fach hon dros bont garreg a pharhewch ar hyd y ffordd ar y dde gydag afon Mawddach islaw. Mae'r maes parcio ar y dde tua chwarter milltir i ffwrdd.
Mae'r gorsafoedd trên agosaf yn y Bermo (llinell Arfordir Cambria) a Blaenau Ffestiniog (llinell Blaenau Ffestiniog-Llandudno).
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i www.cymraeg.traveline.cymru
Mae parc coedwig Coed y Brenin yn cynnig profiad coetir cyflawn i ymwelwyr ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Ceir amrywiaeth o lwybrau ag arwyddbyst sydd at ddant pawb ac yn addas ar gyfer pob lefel o ffitrwydd ym mharc y goedwig. Yn eu plith mae llwybrau beicio mynydd, llwybrau i'r teulu, llwybrau rhedeg a llwybrau geogelcio a chyfeiriadu o'r radd flaenaf.
Yn ogystal â'r llwybrau sy'n dechrau o Bont Cae'n y Coed, ceir llwybrau cerdded ag arwyddbyst o leoedd hyn ym Mharc Coed y Brenin:
Canolfan Ymwelwyr Parc Coed y Brenin
Ffôn: 01341 440747
E-bost: coedybrenin@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk