Coedwig Beddgelert, ger Beddgelert
Coedwig enfawr yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri
Maes parcio Tyddyn Gwladys yw'r porth i safleoedd enwog Rhaeadr Mawddach a Phistyll Cain.
Mae'r llwybr cylchol hwn hefyd yn mynd heibio'r gwaith aur Gwynfynydd a gaeodd ym 1999.
Yn y maes parcio, ceir byrddau picnic o dan goed mawr wrth ymyl afon droellog Mawddach.
Ceir arwyddbyst ar hyd y llwybr cerdded ac mae'n dechrau o'r maes parcio.
Mae’r llwybr yn dilyn ffyrdd y goedwig bron i gyd, ag un darn o drac preifat garw iawn cyn i chi gyrraedd y rhaeadrau ac un llethr serth ond byr 20%/1 mewn 5 ar ôl eu gadael.
Nid oes grisiau na chamfeydd ac mae’r llwybr yn addas ar gyfer cadeiriau gwthio plant bach a sgwteri symudedd.
Mae dwy fainc ac un bwrdd picnic ar y llwybr hwn, ynghyd â dwy giât gyda lleoedd pasio 80cm o led.
Gallwch lawrlwytho llwybr sain a chlywed am hanes Gweithfa Powdwr Gwn Tyddyn Gwladys.
Darganfyddwch hanes Gweithfa Powdwr Gwn Tyddyn Gwladys, a hanesion y bobl weithiodd yno, gyda’n llwybr sain mp3.
Mae wedi’i gynllunio i'w ddefnyddio ar Lwybr y Rhaeadrau a llwybr y Mwyngloddiau Aur o faes parcio Tyddyn Gwladys.
Mae pyst wedi'u rhifo ar y llwybr cerdded sy'n dweud wrthych pryd i chwarae pob rhan.
Gan y gall signal ffonau symudol fod yn gyfyngedig mewn ardaloedd gwledig, rydym yn argymell eich bod yn lawrlwytho'r llwybr sain cyn eich ymweliad.
Gallwch hefyd lawrlwytho ffeil PDF o'r sgript.
I lawrlwytho'r llwybr sain ewch i lwybrau sain a chwedlau gwerin.
Mae Coed y Brenin yn cynnig profiad coetir cyflawn i ymwelwyr ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Ceir amrywiaeth o lwybrau ag arwyddbyst sydd at ddant pawb ac yn addas ar gyfer pob lefel o ffitrwydd ym mharc y goedwig. Yn eu plith mae llwybrau beicio mynydd, llwybrau i'r teulu, llwybrau rhedeg a llwybrau geogelcio a chyfeiriadu o'r radd flaenaf.
Yn ogystal â'r llwybrau cerdded sy'n dechrau yma yn Nhyddyn Gwladys, dyma feysydd parcio gyda chyfleusterau ar gyfer ymwelwyr ym Mharc Coed y Brenin:
Mae Parc Coedwig Coed y Brenin yn ffurfio rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:
Ymhen amser bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cysylltiedig a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru ac yn dod â buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
I gael rhagor o wybodaeth am Goedwig Genedlaethol Cymru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
Sylwch:
Mae maes parcio Tyddyn Gwladys oddi ar yr A470, ger pentref Ganllwyd.
Mae yn Sir Gwynedd.
Cyfeirnod grid yr AO yw SH 734 262.
Ewch ar hyd yr A470 o Ddolgellau i gyfeiriad Betws-y-coed.
Cyn gadael pentref Ganllwyd, trowch i’r dde ar hyd ffordd fach ac ewch dros bont garreg.
Dilynwch yr arwyddion tuag at Dyddyn Gwladys am 1¼ milltir a bydd y maes parcio ar y dde (byddwch yn mynd heibio’r maes parcio bach ar gyfer Cae’n y Coed ar y ffordd).
Mae'r gorsafoedd trên agosaf yn y Bermo (llinell Arfordir Cambria) a Blaenau Ffestiniog (llinell Blaenau Ffestiniog-Llandudno).
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i www.cymraeg.traveline.cymru
Mae'r maes parcio am ddim.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Canolfan Ymwelwyr Parc Coed y Brenin
Ffôn: 01341 440747