Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Gwarchodfa Natur a Choedwig Genedlaethol Niwbwrch

Dewch i ddarganfod y dirwedd unigryw hon sydd wedi'i ffurfio gan wynt a môr

Cerdded ar Ynys Llanddwyn

Beth sydd yma

Llwybr Hygyrch
Newid babanod
Barbeciw
Cŵn
Marchogaeth
Natur
Cyfeiriannu
Parcio
Parcio (hygyrch)
Parcio (codir tâl)
Picnic
Rhedeg
Toiledau
Llwybr cerdded

Croeso

Cwningar Niwbwrch yw un o'r systemau twyni mwyaf a’r harddaf ym Mhrydain.

Cafodd y twyni, y corsydd arfordirol, y glannau tywodlyd a chreigiog eu ffurfio dros filoedd o flynyddoedd gan y gwynt a'r môr ac maent yn gartref i amrywiaeth syfrdanol o blanhigion ac anifeiliaid.

Ym 1955, Cwningar Niwbwrch ac Ynys Llanddwyn oedd y mannau arfordirol cyntaf yng Nghymru i gael eu dynodi’n Warchodfa Natur Genedlaethol. Darllenwch fwy am y Warchodfa Natur Genedlaethol.

Plannwyd y Coed pinwydd Corsica sy'n rhan o Goedwig Niwbwrch rhwng 1947 a 1965 er mwyn darparu pren ac i sefydlogi'r twyni tywod symudol.

Heddiw mae'n ardal boblogaidd ar gyfer hamddena ac yn gartref i fywyd gwyllt, yn enwedig gwiwerod coch.

Mae Moryd Cefni a'r pyllau y tu ôl i arglawdd Pen Cob yn noddfa i adar a bywyd gwyllt arall ac oddi yma ceir golygfeydd ar draws y foryd dros ehangder o gors arfordirol, tywod agored a môr.

Beth i'w wneud yma

Dwy ferched yn cerdded mewn goedwigGallwch gerdded yn unrhyw fan ar y traethau ac ar y rhwydwaith o lwybrau troed neu gallwch ddilyn un o'n llwybrau cerdded sydd wedi’u cyfeirbwyntio.

Mae yna hefyd Lwybr Pos Anifeiliaid ar gyfer ymwelwyr iau, dau lwybr beicio sy'n addas i deuluoedd, llwybr ffitrwydd a llwybr rhedeg wedi’i gyfeirbwyntio.

Mae saith maes parcio yng Nghoedwig Niwbwrch a'r Warchodfa Natur Genedlaethol - darllenwch fwy am barcio ceir.

Darllenwch fwy am y Warchodfa Natur Genedlaethol

Llwybrau cerdded

Llwybrau cerdded wedi’u cyfeirbwyntio sy’n cychwyn o sawl un o'n meysydd parcio yn Niwbwrch.

Lawrlwythwch fap y maes parcio

Llwybr Saint, Tywod a Môr

Dwy fenyw yn cerdded ar Ynys LlynDechrau: Maes parcio’r Traeth

Pellter: 4½ milltir/7 cilomedr

Amser: 3 awr

Lefel: Cymedrol

Nodwch, os gwelwch yn dda:

Gall Ynys Llanddwyn gael ei hamgylchynu’n llwyr gan y môr ar lanw uchel

dylech wirio amserau’r llanw cyn cychwyn ar hyd y llwybr hwn. Gwiriwch amserau’r llanw ar wefan y BBC.

gall yr ynys fod yn agored iawn a dylech fod yn barod am dywydd gwael

Antur deuluol yw hon sy’n arwain i’r goedwig, y twyni a'r ynys.

Mae’r Llwybr ‘Saint, Tywod a Môr’ yn rhoi cipolwg ar nodweddion daearegol a diwylliannol unigryw Niwbwrch, ynghyd â’i hanes a chwedl Santes Dwynwen.

Gallwch ymlwybro draw i ynys Ynys Llanddwyn ar lanw isel.

Llwybr sain

Dewch i ddysgu mwy am hanes lleol a chwedl Santes Dwynwen ar ein llwybr sain MP3 ‘Saint, Tywod a Môr.’

Rhennir y llwybr sain yn adrannau sy'n cyfateb i byst wedi'u rhifo ar hyd y llwybr cerdded.

Llwybr Pos Natur/Anifeiliaid

Llwybr Pos NaturDechrau: Maes parcio’r Traeth

Pellter: 1 filltir/1.5 cilomedr

Amser: 1 awr

Lefel: Hawdd

Codwch becyn gweithgareddau teulu o’r dosbarthwr a gadewch i'r plant arwain y ffordd wrth i chi chwilio am yr anifeiliaid a'r cliwiau ar hyd y llwybr.

Mae'r llwybr yn dechrau o faes parcio'r traeth ac yn parhau ar rannau o ffordd garegog y goedwig a rhai llwybrau tywodlyd ac anwastad cyn dychwelyd i'r maes parcio.

Llwybr Treftadaeth y Tywysogion a Phinwydd

Dwy fenyw yn cerdded mewn goedwigDechrau: Maes parcio Cwningar

Pellter: 3¼ milltir/5.3 cilomedr

Amser: 2 awr

Lefel: Cymedrol

Mwynhewch y daith gylchol hon trwy goedwig, twyni a thir fferm. 

Llwybr y Wiwer Goch

llyn bywyd gwylltDechrau: Maes parcio Llyn Parc Mawr

Pellter: 1½ milltir/2.4 cilomedr

Amser: 1 awr

Lefel: Hawdd

Ar y llwybr fe welwch Sara'r wiwer goch a'i ffrindiau ac fe ddewch i wybod mwy am eu bywyd yn y goedwig o'n paneli gwybodaeth.

Ar y ffordd fe welwch rai golygfeydd gwych o'r llyn bywyd gwyllt a'r goedwig binwydd.

Taith Gerdded Trem yr Aber

Yr aberDechrau: Maes parcio Pen Cob

Pellter: 1¾ filltir/3 cilomedr

Amser: 1 awr

Lefel: Hawdd

Cerddwch trwy'r goedwig ac ar hyd aber Afon Cefni gyda'i amrywiaeth fawr o fywyd gwyllt.

O'r ddwy wylfa sydd gennym, ceisiwch weld y gweilch di-ddal yn hela am bysgod yn yr haf, neu edrychwch ar hyd y morfa heli am ei hamrywiaeth o blanhigion e.e. y gorsen gyffredin, glaswellt brodorol talaf Prydain a ddefnyddid ar gyfer gosod toi gwellt.

Taith Gerdded y Twyni

Menyw ar y twyniDechrau: Maes parcio Braint neu Faes parcio Llyn Rhos Ddu

Pellter: 3½ milltir/5.6 cilomedr

Amser: 2-3 awr

Lefel: Cymedrol

Mwynhewch y golygfeydd o'r Cwningar, draw tua'r mynyddoedd ac ar hyd yr arfordir ynghyd â'r arddangosfa anhygoel o flodau gwyllt.

Llwybrau beicio

Dyn a phlentyn ar lwybr beicioMae ein dau lwybr beicio wedi’u cyfeirbwyntio yn ddelfrydol ar gyfer y teulu i gyd.

Her Natur Bikequest

Dechrau: Maes parcio’r Traeth

Pellter: 5 milltir/8 cilomedr

Lefel: Ffordd goedwig

Codwch becyn gweithgareddau teulu o’r dosbarthwr yn y maes parcio.

Yna dilynwch y nodwyr llwybr a chwiliwch am y paneli gwybodaeth er mwyn ateb cwestiynau'r her natur.

Llwybr Beicio Corsica

Dechrau: Maes parcio’r Traeth

Pellter: 6¼ milltir/10km

Lefel: Ffordd goedwig neu debyg

Mae'r llwybr cylchol hwn sydd wedi'i gyfeirbwyntio yn dilyn ffyrdd y goedwig yn bennaf a cheir yma olygfeydd o'r aber.

Mae'n ymweld ag ardaloedd o goedwig gymysg, o goed pinwydd aeddfed i goedwigoedd helyg gwlyb, ac mae’n mynd heibio i byllau, creigiau anarferol a blodau gwyllt.

Llwybr rhedeg

Yn 2011, daeth Pencampwriaeth Rhedeg Mynyddoedd a Phellter Eitha’r Gymanwlad i Ogledd Cymru a chynhaliwyd y ras llwybr Pellter Eithaf 55 cilomedr yn Niwbwrch.

Heddiw gallwch redeg (neu gerdded!) rhan o lwybr y ras swyddogol.

Llwybr Rhedeg y Gymanwlad

Dechrau: Maes parcio’r Traeth

Pellter: 6½ milltir/10.4 cilomedr

Amser rhedeg: 1 awr

Amser cerdded: 3 awr

Lefel: Caled

Mae'r llwybr rhedeg sydd wedi'i gyfeirbwyntio o faes parcio'r traeth, yn arwain trwy'r goedwig heddychlon, twyni helaeth y Gwningar ac ymlaen i ynys Ynys Llanddwyn.

Mae'r llwybr yn cynnwys ffyrdd caregog y goedwig, llwybrau cul ar dywod gyda gwreiddiau coed agored, tywod a graean rhydd, glaswelltir anwastad a thir creigiog.

Llwybr Ffitrwydd

Plant yn defnyddio'r Lwybr FfitrwyddAmcan y Llwybr Ffitrwydd yw gwella eich ffitrwydd a'ch iechyd tra'ch bod chi'n mwynhau harddwch y goedwig.

Dechrau: Maes parcio Traeth Cwningar

Pellter: 1¾ milltir/2.7 cilomedr

Amser: 2 awr

Lefel: Hawdd

Mae 11 o orsafoedd ymarfer corff, ac mae dwy ohonynt yn hygyrch i gadair olwyn.

Mae gan bob gorsaf ymarfer banel cyfarwyddiadau a mainc i orffwys arni gerllaw.

Cyfeiriannu

Arwydd cyfeiriannuProfwch eich sgiliau darllen mapiau trwy gyfeiriannu rhwng y pyst marcio pren (a elwir yn "rheolyddion" gan gyfeiriadurwyr) ar un o'r tri chwrs cyfeiriannu parhaol yng Nghoedwig Niwbwrch.

Mae'r cyrsiau'n addas ar gyfer dechreuwyr sydd yn deall map a chyfeirianwyr profiadol a chi sydd i benderfynu pa mor fuan rydych chi'n cwblhau cwrs.

Mae'r cyrsiau wedi'u graddio i safonau Ffederasiwn Cyfeiriannu Prydain ac fe'u lluniwyd gan Gyfeirianwyr Eryri.

Mae pob un o’r tri llwybr yn cychwyn i'r gogledd-ddwyrain o'r brif ardal barcio ac yn gorffen yn y llannerch i'r de-ddwyrain o'r brif ardal barcio.

Cwrs Oren

Pellter: 2.5 cilomedr

Lefel: canolig

Mae'r cwrs Oren yn ganolig o ran anhawster ac mae'n addas ar gyfer dechreuwyr sy'n gallu darllen map.

Mae 9 rheolydd i ymweld â nhw ar y cwrs.

Cwrs gwyrdd

Pellter: 5 cilomedr

Lefel: called iawn

Mae'r cwrs Gwyrdd yn gofyn am gyfeiriannu anodd yn dechnegol ac mae'n addas ar gyfer cyfeirianwyr profiadol.

Mae 12 rheolydd i ymweld â nhw ar y cwrs.

Cwrs glas

Pellter: 6.7 cilomedr

Lefel: called iawn

Mae'r cwrs Glas yn gofyn am gyfeiriannu technegol ac mae'n addas ar gyfer cyfeirianwyr profiadol.

Mae 18 rheolydd i ymweld â nhw ar y cwrs.

Mwy o wybodaeth

Marchogaeth

Marchogaeth mewn goedwigMynnwch flas ar Niwbwrch ar gefn ceffyl ar un o'n dau lwybr â chyfeirnod sy’n arwain o faes parcio Pen Cob.

Sylwch:

  • Mae angen trwydded gan Gyfoeth Naturiol Cymru arnoch i farchogaeth yng Nghoedwig Niwbwrch.
  • Dim ond ym maes parcio Pen Cob y caniateir parcio blychau cario ceffylau.

Sut i gael trwydded marchogaeth

Gallwch gael trwydded wythnosol (£4) neu hawlen flynyddol (£10).

Rhaid anfon eich prawf o yswiriant atebolrwydd cyhoeddus trydydd parti, sydd o leiaf yn £3m.

Caniatewch o leiaf dri diwrnod gwaith er mwyn prosesu'ch cais, os gwelwch yn dda.

Lawrlwythwch ffurflen gais

Os yw'n well gyda chi dalu ar-lein cysylltwch â'n Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid, os gwelwch yn dda ar 0300 065 3000 (dydd Llun - dydd Gwener, 9am-5pm) neu e-bostiwch Niwbwrchhorsepermits@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Llwybrau marchogaeth

Llywbr y Postmon

Dechrau: Maes parcio Pen Cob

Pellter: 6¾ milltir/11km

Amser: 2-4 awr

Lefel: Hawdd

Mwynhewch ardal hardd ac unigryw Coedwig Niwbwrch ar gefn ceffyl.

Llwybr y Coetir

Dechrau: Maes parcio Pen Cob

Pellter: 7½ milltir/12km

Amser: 2-4 awr

Lefel: Hawdd

Darganfod golygfeydd, bywyd gwyllt a threftadaeth ar hyd y llwybr.

Gwarchodfa Natur Genedlaethol

creigiau ar draeth NiwbwrchMae’r Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn safleoedd sy’n cynnwys rhai o'r enghreifftiau gorau oll o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.

Mae twyni Cwningar a thraeth Niwbwrch ac Ynys Llanddwyn yn Warchodfa Natur Genedlaethol sydd hefyd yn cynnwys ardaloedd mawr o forfa heli a gwastadeddau tywod arfordirol.

Mae'r twyni uchel a'r pantiau twyni sy’n gorlifo’n dymhorol (llaciau yw’r new arnynt) yn y fan hon yn ganlyniad i'r dirwedd sy'n datblygu’n barhaus ac a luniwyd gan filoedd o flynyddoedd o stormydd, llanwau a natur.

Mae Ynys Llanddwyn yn fan sy'n gyforiog mewn treftadaeth, llên gwerin, daeareg a bywyd gwyllt.

Mae'r creigiau ar yr ynys lanw hon ymhlith yr hynaf yng Nghymru - cadwch olwg am y brigiadau nodedig o lafa gobennydd sydd ar y traeth.

Dewch i ddarganfod mwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.

Beth sydd i'w weld yn y Warchodfa Natur Genedlaethol

TwyniMae'r twyni tywod yn gymysgedd gyfoethog o bantiau llaith, glaswelltir a choetir twyni ifanc o helyg a bedw.

Mae’r twyni a arferai symud, wedi ‘sefydlogi’ yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac wedi’u gorchuddio â phlanhigion o ganlyniad i lygredd aer, patrymau tywydd newidiol a llai o gwningod ac anifeiliaid pori.

Golyga hyn ostyngiad enfawr yn y tywod noeth, cynefin sy'n hanfodol i oroesiad rhai o'n planhigion a'n pryfed prinnaf, fel llysiau’r afu petalog a gwenynen durio’r gwanwyn.

Er mwyn mynd i’r afael â hyn, rydym wedi dechrau ail-greu ardaloedd o dywod noeth ar hyd y morlin gan ddefnyddio peiriannau mawrion ac mae llawer o’r twyni’n cael eu pori â merlod a gwartheg er mwyn cadw llystyfiant y twyni yn fyr ac yn gyfoethog o flodau gwyllt. Arferai cwningod wneud hyn nes bod mycsomatosis yn peri i'w niferoedd ostwng.

clustog FairYn ystod misoedd yr haf mae’r twyni wedi’u gorchuddio gan filoedd o flodau lliwgar ac yn eu plith ceir tegeirianau prin ac maen nhw’n fwrlwm o bryfetach ac adar. Gwrandewch am gân yr ehedydd yn uchel uwchlaw’r warchodfa a thrydar y llwydfronnau, clochdar y cerrig a’r llinosiaid yn y twyni a'r coetir agored.

Yn ystod yr hydref a dechrau'r gaeaf mae’r pibydd coesgoch a'r corgwtiad yn ymuno â’r adar gwyllt mudol e.e. gwyddau Brent, hwyaden yr eithin a’r chwiwell ar y morfa heli a'r aber. Mae adar fel yr hwyaid llostfain, chwiwellod, corhwyaid a’r cornchwiglod, sy’n dod yma i ddianc rhag gaeafau llymach yr Arctig, yn ymweld â'r pyllau y tu ôl i arglawdd y Cob.

Gwiwerod coch

Gwiwer gochLlyn Parc Mawr yw un o'r lleoedd gorau yn Niwbwrch i weld un o'n mamaliaid prinnaf, y wiwer goch.

Erbyn canol y 1990au roedd gwiwerod coch bron wedi diflannu o'r goedwig ond fe'u hailgyflwynwyd yn 2004 o Sw Mynydd Cymru.

Rydym yn rheoli'r goedwig gan roi ystyriaeth iddyn nhw ac i’r bywyd gwyllt arall – mae gwiwerod coch yn hoff o’r gymysgedd o goed pinwydd a’r rhywogaethau eraill rydym yn eu tyfu yma er mwyn darparu bwyd a lloches iddyn nhw.

Rhowch gynnig ar ein Taith Gerdded ‘Llwybr y Wiwer Goch’ sydd wedi’i chyfeirnodi o faes parcio Llyn Parc Mawr ac ymwelwch â'n golygfan ar lan y llyn i brofi naws yr ardal unigryw hon a'i bywyd gwyllt.

Chwedl Santes Dwynwen

capel DwynwenMae Ynys Llanddwyn yn gartref i adfeilion eglwys hynafol sydd wedi'i chysegru i Dwynwen, nawddsant cariadon Cymru.

Ystyr Llanddwyn yw ‘eglwys Santes Dwynwen’ ac mae stori Santes Dwynwen, nawddsant cariadon Cymru, yn gysylltiedig â’r ynys.

Roedd Dwynwen yn ferch i frenin o'r 5ed ganrif. Dywedir iddi gilio i Landdwyn ar ôl syrthio mewn cariad ac fe sefydlodd glostir crefyddol yma.

Dros y blynyddoedd, daeth yr ynys hardd hon yn gyrchfan boblogaidd i bererinion a heddiw mae pobl ledled Cymru yn dathlu Dydd Santes Dwynwen ar 25 Ionawr.

Gallwch ddysgu mwy am chwedl Dwynwen ar ein llwybr sain y gallwch ei lawrlwytho i'w ddefnyddio ar y llwybr cerdded ‘Saint, Tywod a Môr’.

Cyfleusterau i ymwelwyr

Mae fan hufen iâ a fan arlwyo ym maes parcio'r Traeth ar yr amserau hyn:

  • 11am-4pm bob penwythnos rhwng 1 Ebrill a 30 Medi
  • 11am-4pm bob dydd yn ystod gwyliau haf yr ysgol

Nodwch, os gwelwch yn dda, bod yr amserau hyn yn amodol ar y tywydd.

Mae'r toiledau ym maes parcio'r Traeth ar agor rhwng 9am a 4pm yn y gaeaf (GMT) a rhwng 8am a 6pm yn yr haf (BST).

Ymweliadau ysgol

Byddwn yn dyrannu lle parcio ger maes parcio'r Traeth ar gyfer ymweliadau ysgol ar fws neu goets.

Cysylltwch â permissionsnorth@naturalresourceswales.gov.uk ychydig wythnosau cyn yr ymweliad fel y gallwn drefnu hebrwng eich bws neu goets i'r llecyn parcio.

Cyfyngiadau tymhorol ar gŵn

Gallwch fynd â'ch ci am dro ar hyd nifer o lwybrau'r goedwig ond cofiwch fod cyfyngiadau tymhorol ar gŵn ar draeth y faner las a’r ynys.

Cadwch gŵn ar dennyn, os gwelwch yn dda, yn enwedig:

  • o fis Mawrth - Gorffennaf pan fydd Cwtiaid Torchog Cudd yn nythu ar y traeth
  • o ddiwedd yr hydref i'r gaeaf o gwmpas Pen Cob a'r aber pan fydd hi’n hawdd tarfu ar adar gaeafu

Cadwch at y cyfyngiadau tymhorol i gŵn ar draeth Llanddwyn (1 Mai - 30 Medi) ac Ynys Llanddwyn (1 Ebrill - 30 Medi).

Lawrlwythwch ragor o wybodaeth am y cyfyngiadau i gŵn

Gwybodaeth am hygyrchedd

Ymhlith y cyfleusterau mae:

  • parcio i bobl anabl (am ddim i ddeiliaid bathodyn glas)
  • toiledau hygyrch (ym maes parcio'r Traeth)
  • dwy o’r gorsafoedd ymarfer corff ar y Llwybr Ffitrwydd o fewn cyrraedd cadair olwyn

Canllawiau diogelwch

Yn ogystal â bod yn gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr, mae Niwbwrch yn dal i fod yn goedwig weithredol.

Mae'n bosibl y bydd rhai ardaloedd ar gau, er diogelwch, pan fydd coed yn cael eu cwympo neu bren yn cael ei symud.

Rydym am i chi gael ymweliad pleserus a diogel â Niwbwrch, felly darllenwch y canllawiau isod, os gwelwch yn dda.

Peidiwch â chyffwrdd ag unrhyw falurion milwrol - gallai ffrwydro!

Rhowch wybod i'r Heddlu am unrhyw wrthrychau amheus trwy ffonio 999

Peidiwch â chloddio tyllau na thwneli yn y twyni tywod - gall tywod ddisgyn a'ch mygu

Peidiwch â bwydo da byw na mynd atyn nhw

Gwisgwch esgidiau cryf

Cariwch ddillad gwrthwynt a thop cynnes bob amser mewn tywydd cyfnewidiol

Dim gwersylla - mae meysydd gwersylla swyddogol gerllaw

Dim tanau agored

Cadwch at y llwybrau a’r traciau mynediad sydd wedi’u cyfeirbwyntio er mwyn diogelu natur

Peidiwch â mentro allan i'r aber oherwydd gall y llanw sy'n dod i mewn eich torri i ffwrdd yn gyflym

Byddwch yn ymwybodol o fwd a thywod suddo meddal

Gall Ynys Llanddwyn fod yn agored iawn ac mewn llanw uchel gall gael ei hamgylchynu gan ddŵr. Byddwch yn barod am dywydd gwael a gwiriwch amseroedd y llanw ar wefan y BBC

Weithiau bydd angen i ni gau neu ddargyfeirio llwybrau, er diogelwch i chi, wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gyflawni gweithrediadau yn y goedwig. Dilynwch unrhyw gyfarwyddiadau ac arwyddion dargyfeirio dros dro, os gwelwch yn dda.

Weithiau, bydd rhaid i ni gau'r safle mewn tywydd eithafol, fel gwyntoedd cryfion neu eira a rhew oherwydd y perygl posib o anaf i ymwelwyr neu staff.

Amserau agor

Mae'r meysydd parcio ar agor rhwng 9am a 4pm yn y gaeaf (GMT) a rhwng 8am a 6pm yn yr haf (BST).

Mae'r toiledau ym maes parcio'r Traeth ar agor ar yr un pryd â'r meysydd parcio.

Sut i gyrraedd yma

Mae Coedwig Niwbwrch a'r Warchodfa Natur Genedlaethol wedi’u lleoli hanner milltir i'r de o bentref Niwbwrch ar Ynys Môn oddi ar yr A4080.

Mae ar fap 263 yr Arolwg Ordnans (AO).

Parcio ceir

Mae saith maes parcio.

  • Ar gyfer Coedwig Niwbwrch defnyddiwch y meysydd parcio hyn: Y Traeth, Airman, Cwningar neu Llyn Parc Mawr.
  • Ar gyfer Cwningar Niwbwrch defnyddiwch faes parcio Braint neu faes parcio Llyn Rhos Ddu.
  • Ar gyfer Ynys Llanddwyn defnyddiwch faes parcio’r Traeth.
  • Ar gyfer Aber Cefni a Phen Cob defnyddiwch faes parcio Pen Cob neu faes parcio Llyn Parc Mawr

Lawrlwythwch fap y mesydd parcio.

Maes parcio’r Traeth, maes parcio Airman a maes parcio Cwningar

Codir tâl dyddiol parcio o £5, sydd i’w dalu i gynorthwyydd y maes parcio yn y ciosg wrth gyrraedd.

Gallwch dalu gydag arian parod neu daliad digyswllt.

Mae parcio ceir am ddim i ddeiliaid bathodyn glas.

Mae maes parcio’r Traeth yn llenwi'n gyflym yn ystod y tymor brig, yn enwedig ar ddiwrnodau heulog; gall y traffig fod yn drwm iawn felly byddwch yn amyneddgar, os gwelwch yn dda.

Cyfeirnod grid yr AO

Maes parcio’r Traeth: SH 405 634

Maes parcio Airman: SH 413 645

Maes parcio Cwningar: SH 407 640

Maes parcio Parc Llyn Mawr, Braint, Llyn Rhos Ddu a Phen Cob

Mae'r meysydd parcio hyn yn rhad ac am ddim.

Cyfeirnod grid yr AO

Maes parcio Llyn Parc Mawr SH 413 670

Maes parcio Braint SH 431 643

Maes parcio Llyn Rhos Ddu SH 426 647

Maes parcio Pen Cob SH 411 671

Tocyn parcio am dymor

Gallwch brynu tocyn parcio ceir blynyddol am £30 oddi wrth gynorthwyydd y maes parcio yn y ciosg wrth gyrraedd.

Dim ond yn bersonol y gallwch chi brynu'r tocyn tymor o'r ciosg.

Gallwch dalu gydag arian parod neu daliad digyswllt.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Mae'r gorsafoedd trên mawr agosaf ym Mangor a Chaergybi.

Mae arosfan trên, ar gais a heb ei staffio, ar gael ym Modorgan, sydd tua phedair milltir o bentref Niwbwrch.

I gael manylion am drafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Manylion cyswllt

Ffôn: 0300 065 3000 (Llun-Gwener, 9am-5pm)

E-bost: enquiries@naturalresourceswales.gov.uk

Lawrlwythiadau

 

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.