Coedwig Beddgelert, ger Beddgelert
Coedwig enfawr yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri
Mainc Lifio yw'r man cychwyn ar gyfer llwybr cerdded byr a dau lwybr beicio mynydd o fri.
Mae’r llwybr cerdded yn cynnwys nodweddion hanesyddol ac mae golygfeydd dros Ddyffryn Conwy.
Mae’r llwybrau beicio mynydd yn cynnwys Gwydir Mawr sy’n glasur go iawn a llwybr Gwydir Bach sy’n fyr a chryno.
Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Mae’r daith gerdded hanesyddol fer hon yn cynnwys rhai golygfannau yn rhoi cipolwg ar hen dref farchnad Llanrwst.
Enwyd y daith gerdded hon ar ôl un o ddwy Fonesig Fair o’r teulu Wynn a brynodd y tir ac a adeiladodd yr Ystâd Gwydir hanesyddol.
Mae’r daith gerdded yn cynnwys dau gerflun gan artistiaid lleol, un yn gofeb i hen Neuadd Tref Llanrwst.
Mae arwyddbyst i’w cael ar bob un o’n llwybrau beicio mynydd o’r dechrau i’r diwedd ac maent wedi’u graddio’n ôl eu hanhawster.
Ceir panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr – dylech ei ddarllen cyn cychwyn ar eich taith.
Gwydir Bach yw chwaer fach y brawd mawr, Gwydir Mawr.
Ar ôl dwy ddringfa serth, fyddwch yn haeddu ‘r ddisgynfa orau, o bosib, ar y llwybr cyfan, i gyd ynghlwm mewn un darn cryno.
Mae Gwydir Mawr yn un o’r llwybrau beicio mynydd gwreiddiol, ac mae’n glasur go iawn!
Mae’r dringfeydd mawr, disgynfeydd mawr, trac sengl gwych a golygfeydd godidog yn ei wneud yn llwybr i’w gofio.
Nawr yn cynnwys adran dwy gilomedr newydd sbon gyda chymysgedd o lwybr traddodiadol cloddiwyd â llaw a nodweddion llwybr llif modern.
Gallwch ddechrau Gwydir Mawr o faes parcio Hafna hefyd.
Mae Mainc Lifio ym Mharc Coedwig Gwydir.
Lleolir Parc Coedwig Gwydir yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri ac mae'n amgylchynu pentref Betws-y-coed.
Gwaith cloddio plwm a sinc oedd prif nodwedd yr ardal ac mae gwaddol hen dai peiriant, tomenni sbwriel a chronfeydd dŵr yn nodweddiadol o'r goedwig a geir heddiw.
Mae sawl un o'r mwyngloddiau pwysicaf wedi cael eu hadfer yn rhannol a'u gwneud yn ddiogel i ymwelwyr.
Mae llwybrau ag arwyddbyst yn dechrau o Fetws-y-coed a sawl feysydd parcio eraill Cyfoeth Naturiol Cymru:
Mae Parc Coedwig Gwydir yn ffurfio rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:
Ymhen amser bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cysylltiedig a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru ac yn dod â buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
I gael rhagor o wybodaeth am Goedwig Genedlaethol Cymru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
Mae Mainc Lifio filltir i'r gorllewin o Lanrwst.
Mae yn Sir Conwy.
Mae Mainc Lifio ar fap Arolwg Ordnans (AO) OL 17.
Cyfeirnod grid yr AO yw SH 790 609.
Cymerwch y B5106 o Lanrwst tuag at Fetws-y-coed.
Ar ôl troi i'r chwith wrth yr arwydd brown a gwyn ar gyfer Castell Gwydir, trowch i'r dde yn syth i ddilyn isffordd.
Cymerwch y ffordd goedwig gyntaf ar y chwith gyda’r arwydd Sawbench/Mainc Lifio.
Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Llanrwst.
Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae parcio’n ddi-dâl.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.