Coedwig Beddgelert, ger Porthmadog
Coedwig dawel yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri
Darganfod hen waith copr yng nghefn gwlad sydd â llwybr hygyrch tuag at olygfan uwchben yr hen offer cloddio
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor ond, o dan y cyfyngiadau coronafeirws presennol yng Nghymru, bwriedir i’r rhain gael eu defnyddio gan bobl sy’n byw yn lleol yn unig.
Fe’ch cynghorir – yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru – i beidio â gyrru i unrhyw un o’n safleoedd i wneud ymarfer corff, oni bai fod gennych reswm dilys, megis cyflwr iechyd neu broblemau symudedd.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Mae Glasdir ym Mharc Coed y Brenin.
Mae’r daith gerdded trwy hen chwarel gopr Glasdir yn cychwyn o faes parcio Glasdir.
Ceir yno safle picnic a barbeciw ar lannau Afon Las.
Lawrlwythwch ragor o wybodaeth am Glasdir
Mae maes parcio ychwanegol ar gyfer ymwelwyr anabl yn unig i’w gael ym Mhont Llam yr ewig.
Ceir yno fwrdd picnic hygyrch, ac mae llwybr hygyrch yn cychwyn oddi yno tuag at olygfan uwchben yr hen waith copr.
Lawrlwythwch ragor o wybodaeth am Bont Llam yr Ewig
Ceir arwyddion ar gyfer y daith gerdded gymedrol o barc Glasdir.
Ceir arwyddion ar gyfer y daith hygyrch o faes parcio Pont Llam yr Ewig.
Arhoswch ar y llwybrau os gwelwch yn dda, gall hen weithiau ac adeiladau mwyngloddio fod yn beryglus, ac mae ymylon serth i’r ceunentydd.
Uchafbwyntiau: Dewch o hyd i hen waith copr yn cuddio mewn lleoliad heddychlon.
Pellter: 1¼ milltir, 1.9 cilomedr
Gradd: cymedrol
Disgrifiad y llwybr: Mae’r llwybr coch yn aml yn llai na 1m o led mewn mannau, ar arwyneb garw, anwastad, ble gallwch ddisgwyl gweld mwd, creigiau a gwreiddiau coed. Ceir sawl set o risiau ar y dringfeydd a disgynfeydd serth drwy’r hen weithfeydd.
Mwy o wybodaeth: cerdyn llwybr a llwybr sain
Uchafbwyntiau: Dewch o hyd i hen waith copr yn cuddio mewn lleoliad heddychlon.
Pellter: ½ milltir, 800m
Gradd: Hygyrch
Disgrifiad y llwybr: Mae’r llwybr hygyrch ag arwyddbyst glas yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn. Mae’n 1.5m o led, yn wastad a chanddo arwyneb da gyda mannau pasio bob 50m a mannau gorffwys bob 150m.
Mwy o wybodaeth: cerdyn llwybr a llwybr sain
Ymwelwyr anabl yn unig gaiff ddefnyddio maes parcio Pont Llam yr Ewig.
Mae’r llwybr hygyrch tuag at yr olygfan uwchben y gwaith copr yn cychwyn o faes parcio Pont Llam yr Ewig.
Sylwch:
Mae maes parcio Glasdir a maes parcio Pont Llam yr Ewig oddi ar yr A470, ger pentref Ganllwyd.
Mae yn Sir Gwynedd.
Cyfeirnod grid yr AO Glastir yw SH 737 225.
Cyfeirnod grid yr AO Pont Llam yr Ewig yw SH 743 226.
Mae'r maes parcio am ddim.
Lawrlwythwch fap o’r lleoliad.
O'r de: Cymerwch yr A470 i'r gogledd o Ddolgellau. Tua 200 metr ar ôl mynd heibio i Westy Tŷ'n y Groes, trowch i'r dde gan ddilyn yr arwyddion twristiaeth brown i Dŷ'n y Groes. Dilynwch y ffordd darmac heibio i safle picnic Tŷ'n y Groes am ychydig dros gilomedr. Mae maes parcio Glasdir ar y dde ac ar draws y ffordd mae safle picnic.
O'r gogledd: Cymerwch yr A470 i'r de tuag at Ddolgellau. Ar ôl mynd drwy bentref Ganllwyd, trowch i'r chwith gan ddilyn yr arwyddion twristiaeth brown i Dŷ'n y Groes. Dilynwch y ffordd darmac heibio i safle picnic Tŷ'n y Groes am ychydig dros gilomedr. Mae maes parcio Glasdir ar y dde ac ar draws y ffordd mae safle picnic.
Dilynwch y cyfeiriadau i gyrraedd maes parcio Glasdir. Pan gyrhaeddwch faes parcio Glasdir, parhewch ar hyd y ffordd darmac, trowch yn sydyn i'r chwith i fyny'r rhiw serth, trowch i'r dde wrth y groesffordd ar gopa'r bryn a bydd maes parcio Pont Llam yr Ewig i bobl anabl yn unig ar y dde dros y bont garreg.
Mae'r gorsafoedd trên agosaf yn y Bermo (llinell Arfordir Cambria) a Blaenau Ffestiniog (llinell Blaenau Ffestiniog-Llandudno).
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i www.cymraeg.traveline.cymru
Mae'r parc coedwig yn cynnig profiad coetir cyflawn i ymwelwyr ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Ceir amrywiaeth o lwybrau ag arwyddbyst sydd at ddant pawb ac yn addas ar gyfer pob lefel o ffitrwydd ym mharc y goedwig. Yn eu plith mae llwybrau beicio mynydd, llwybrau i'r teulu, llwybrau rhedeg a llwybrau geogelcio a chyfeiriadu o'r radd flaenaf.
Yn ogystal â'r llwybrau cerdded sy'n dechrau yma o faes parcio Glasdir, dyma feysydd parcio gyda chyfleusterau ar gyfer ymwelwyr ym Mharc Coed y Brenin:
Canolfan Ymwelwyr Parc Coed y Brenin
Ffôn: 01341 440747
E-bost: coedybrenin@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk