Coedwig Beddgelert, ger Beddgelert
Coedwig enfawr yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri
Efallai y byddwn yn cau'r maes parcio a chyfleusterau eraill ar fyr rybudd wrth i ni wneud gwaith adfer oherwydd difrod yn sgil stormydd diweddar. Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan arwyddion neu staff lleol, gan gynnwys lle mae llwybrau wedi eu dargyfeirio neu eu cau, a byddwch yn wyliadwrus o'r perygl o goed neu ganghennau sy’n cwympo.
Mae Coedwig Cwrt ar gyrion Gwarchodfa Natur Genedlaethol y Rhinog.
Mae dau lwybr cerdded wedi’u harwyddo o faes parcio’r goedwig.
Mae’r ddau lwybr cerdded yn arwain i raeadr Pistyll Gwyn, ac mae’r llwybr hirach hefyd yn cynnig blas o wylltir y Rhinog.
Mae'r mynediad i’r maes parcio ar hyd is-ffordd â chlwyd oddi ar yr A470, ac mae’r troad i’r is-ffordd hon ar ran syth a chyflym o’r A470- darllenwch yr adran “sut i gyrraedd yma” yn ofalus cyn cychwyn.
Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Mae’r llwybr yn dringo’n raddol ochr yn ochr â’r afon i fyny sawl rhes fer o risiau er mwyn cyrraedd y rhaeadr, lle cewch seibiant haeddiannol ar fainc sy’n edrych yn ôl i lawr y dyffryn.
Mae’r llwybr yn dychwelyd i’r maes parcio ar hyd ffordd goedwig.
Mae’r llwybr hwn yn mynd heibio rhaeadr Pistyll Gwyn cyn gadael y goedwig a chyrraedd Gwarchodfa Natur Genedlaethol y Rhinog.
Mae’r darn trwy’r warchodfa yn cynnig blas o wylltir y Rhinog gyda’r grug trwchus yn ysgubo heibio i’ch coesau a llawer o glogfeini yn dangos wrth i chi ddringo tuag at Fwlch Drws Ardudwy.
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Rhinog ynghanol cadwyn o fynyddoedd sy’n ymestyn o Afon Dwyryd tua’r gogledd, i’r Fawddach yn y de.
Mae’n cynnwys rhan helaeth o’r Rhinog Fawr a hanner Rhinog Fach – dau o fynyddoedd enwocaf y Rhinogydd.
Crëwyd y bylchau dyfnion trwy’r Rhinogydd – Bwlch Drws Ardudwy a Bwlch Tyddiad – gan rew Oes yr Iâ. Mae’r ‘Grisiau Rhufeinig’, sef llwybr merlod canoloesol, y tu draw i Fwlch Tyddiad. Dyma’r llwybr mwyaf poblogaidd i groesi’r Warchodfa.
Rhwng y clogwyni uchel, mae’r dirwedd yn greigiog a garw, a’r grug a llus yn tyfu’n dal. A gan fod llai o bobl yn dod yma na mynyddoedd eraill Parc Cenedlaethol Eryri, mae naws anghysbell a gwyllt i’r safle.
Oherwydd ehangder a chyflwr ardderchog y grug sy’n tyfu yma, dynodwyd y safle yn Warchodfa Biogenetig – yr unig un yng Nghymru. Mae’n rhan o rwydwaith Ewropeaidd o gynefinoedd arbennig a ddewiswyd i warchod amrywiaeth genetig yr amgylchedd naturiol.
Mae’r tirlun a’r bywyd gwyllt yn amrywio yn ôl yr adeg o’r flwyddyn – cadwch olwg am y rhain:
Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.
Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.
Mae Coedwig Cwrt a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Rhinog wedi’i leoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Eryri yw’r Parc Cenedlaethol mwyaf yng Nghymru ac mae’n gartref i drefi a phentrefi hardd a’r mynydd uchaf yng Nghymru.
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy’n gofalu amdano.
I gael mwy o wybodaeth am ymweld ag Eryri, ewch i wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.
Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.
Sylwer:
Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.
Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.
Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.
Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.
Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.
Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.
Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.
Rydym yn argymell eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau hyn neu’n defnyddio’r map Google isod lle mae pin yn nodi’r lleoliad.
Mae Coedwig Cwrt 11 milltir i’r gogledd o Ddolgellau.
Cymerwch yr A470 i’r gogledd o Ddolgellau i gyfeiriad Porthmadog a pharhewch heibio’r troad i Ganolfan Ymwelwyr Coed y Brenin.
Ar ôl mynd heibio’r troad i’r ganolfan ymwelwyr, parhewch ar yr A470 am ddwy filltir arall.
Yna trowch i’r chwith i’r is-ffordd – gweler y llun isod o’r troad o’r A470 i’r is-ffordd.
Mae clwyd ar yr is-ffordd y bydd angen i chi ei hagor os ydyw ar gau. Gadewch y glwyd fel y daethoch o hyd iddi.
Dilynwch yr is-ffordd am ddwy filltir nes cyrraedd y maes parcio.
Sylwer:
Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio yw SH 684 302 (Explorer Map OL 18).
Y cod post yw LL41 4YE. Sylwer bod y cod post hwn yn cwmpasu ardal eang ac ni fydd yn mynd â chi yn uniongyrchol i’r fynedfa.
Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.
Y prif orsafoedd rheilffordd agosaf yw'r Bermo (llinell Arfordir Cambria) a Blaenau Ffestiniog (llinell Blaenau Ffestiniog-Llandudno).
Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae’r maes parcio yn rhad ac am ddim.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.