Coedwig Beddgelert, ger Porthmadog
Coedwig dawel yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri
Mae Cwm Idwal ym mhen gogleddol Parc Cenedlaethol Eryri
Mae’r maes parcio ar gau.
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy’n rheoli’r maes parcio, y toiledau a’r cyfleusterau ar gyfer ymwelwyr – ewch i wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y cyfleusterau ymwelwyr.
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor ond, o dan y cyfyngiadau coronafeirws presennol yng Nghymru, bwriedir i’r rhain gael eu defnyddio gan bobl sy’n byw yn lleol yn unig.
Fe’ch cynghorir – yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru – i beidio â gyrru i unrhyw un o’n safleoedd i wneud ymarfer corff, oni bai fod gennych reswm dilys, megis cyflwr iechyd neu broblemau symudedd.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Yn 1954, dynodwyd Cwm Idwal fel y Warchodfa Natur Genedlaethol gyntaf yng Nghymru, a heddiw mae’n fan poblogaidd gydag ymwelwyr sy’n ymddiddori mewn cerdded, dringo, pysgota a daeareg.
Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Chyfoeth Naturiol Cymru’n cydweithio i reoli Cwm Idwal.
Gall ymwelwyr weld tystiolaeth glir o’r modd y cafodd y dirwedd hon ei chreu yng Nghwm Idwal.
Crëwyd y plygiadau a’r ffawtiau o ganlyniad uniongyrchol i’r grymoedd terfysglyd a wthiodd y mynyddoedd hyn i fyny 450 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Cafodd y clogwyni a’r cribau – yn ogystal ag amffitheatr enfawr Cwm Idwal ei hun – eu cerflunio a’u cafnu gan effeithiau Oes yr Iâ, mewn cyfnod llawer mwy diweddar.
Ym mhobman o’ch cwmpas mae’r hyn a adawyd ar ôl gan y rhewlif anferth a lenwai’r gofod hwn ar un adeg – dyffrynnoedd crog Cwm Cneifion a Chwm Clyd; y clogfeini llathredig enfawr; y marian ar lan Llyn Idwal; y llethrau sgri mawreddog, a’r nodwedd fwyaf rhyfeddol o’r cyfan, sef y creigiau danheddog ar lwyfandir copa’r Glyderau.
Mae hyd yn oed y planhigion sy’n tyfu yma wedi goroesi o gyfnod Oes yr Iâ.
Ar y silffoedd creigiog, y tu hwnt i gyrraedd y geifr gwyllt, mae yna lu o blanhigion Arctig alpinaidd prin yn tyfu, yn cynnwys y gludlys mwsoglog, lili’r Wyddfa, mantell-Fair y mynydd a’r tormaen porffor.
Mae mynediad agored ar gyfer pobl sy’n ymweld â’r warchodfa.
Mae llwybr cylchol sy’n dilyn llwybrau troed cyhoeddus o amgylch Llyn Idwal. Gellir cyrraedd y llwybr hwn o’r maes parcio, i’r chwith o’r ganolfan ymwelwyr, ar hyd llwybr serth a chreigiog. Nid oes arwyddion ar gyfer y daith hon sydd tua 3.5 milltir o hyd.
Ceir nifer o lwybrau cerdded a llwybrau sgrialu dros greigiau (mynediad mwy garw) eraill, sy’n arwain i fyny at y cribau uchaf.
Mae Cwm Idwal yn fan poblogaidd ar gyfer mynydda a gweithgareddau awyr agored eraill. Mae’n fynedfa i gadwyni mynyddoedd y Carneddau a’r Glyderau.
Noder, os gwelwch yn dda:
Y ganolfan ymwelwyr yw’r lle delfrydol i ddechrau ymweliad â Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cwm Idwal.
Yno, mae arddangosfeydd rhyngweithiol ar sgriniau cyffwrdd, a sgrin ffilm sy’n dangos gwahanol olygfeydd o’r warchodfa.
Mae toiledau yno.
Noder nad oes staff yn gweithio yn y ganolfan ymwelwyr ond bod swyddfa warden ar y safle a sgrin electronig allanol sy’n dangos rhagolygon y tywydd.
Mae yna giosg lluniaeth ysgafn sy’n gwerthu byrbrydau poeth ac oer, ac mae hwn ar agor ar yr un adeg a’r ganolfan ymwelwyr fel arfer.
Agorwyd y ganolfan ymwelwyr yn 2014. Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy’n berchen arni, a chaiff ei rheoli gan Bartneriaeth Cwm Idwal (Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, a Chyfoeth Naturiol Cymru).
Mae’r maes parcio, y toiledau, a’r holl gyfleusterau ymwelwyr yn y fan yma’n cael eu gweithredu gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri – ewch i wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Mae Cwm Idwal yn Warchodfa Natur Genedlaethol.
Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.
Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.
Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.
Sylwch:
Yn ystod y flwyddyn, mae'r dirwedd yn newid yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cwm Idwal.
Yn dibynnu ar ba adeg y byddwch yn ymweld â'r safle, rydych hefyd yn debygol o weld gwahanol enghreifftiau o fywyd gwyllt.
Parhewch i ddarllen i gael gwybod beth y gallwch ei weld yma yn ystod y tymhorau gwahanol.
Yn ystod y gwanwyn, bydd Lili'r Wyddfa, sef planhigyn prin, yn blodeuo, yn ogystal â blodau mynyddig eraill.
Mae adar mudol megis mwyeilch y mynydd a'r gynffonwen yn ymgartrefu yng Nghwm Idwal yn ystod yr haf.
Mae'r hydref yn arwain at ddyddiau byrrach ac amrywiaeth o liwiau gweundirol.
Yn ystod misoedd oeraf ddiwedd y gaeaf hyd at ddechrau'r gwanwyn, mae blodau'r dormaen glasgoch yn lliwio'r dirwedd aeafol.
Darllenwch y wybodaeth ar frig y dudalen hon i ganfod a oes newidiadau i'r amserau agor.
Mae’r ganolfan ymwelwyr ar agor rhwng 8.30 y bore a 5 y prynhawn.
Mae’r toiledau ar agor 24 awr y dydd.
Mae Cwm Idwal 10 milltir i’r gorllewin o Fetws-y-coed, ar yr A5.
Mae'r safle hon yn ymestyn ar draws ffiniau Sir Gwynedd a Sir Conwy.
Mae llwybr beicio 85 Sustrans yn mynd o Fangor i faes parcio Cwm Idwal.
Y cyfeirnod grid OS yw SH 649 604.
Y prif faes parcio ar gyfer Cwm Idwal yw maes parcio Llyn Ogwen, a reolir gan Barc Cenedlaethol Eryri. Trowch oddi ar yr A5 wrth yr arwydd ar gyfer yr hostel ieuenctid.
Codir tâl am barcio yn y maes parcio hwn.
Mae yna hefyd barcio anffurfiol i’w gael mewn cilfannau ar hyd yr A5, i’r de o’r maes parcio.
Y gorsafoedd trên agosaf yw Betws-y-coed a Bangor.
Mae’r bws S6 yn teithio ar hyd yr A470 rhwng Bangor a Betws-y-coed.
Am fanylion ynghylch trafnidiaeth gyhoeddus, ewch i www.cymraeg.traveline.cymru
Ffôn: 0300 065 3000
Ebost: ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk