Coedwig Dyfi - Foel Friog, ger Machynlleth

Beth sydd yma

Croeso

Lleolir Foel Friog ymysg tirwedd ryfeddol Coedwig Dyfi.

Mae ger pentref Aberllefenni ac mae’n hawdd dod o hyd iddo o’r A487.

Darganfyddwch y derw hynafol, adfeilion fferm a golygfeydd godidog ar lwybr cerdded cylchol i gopa Pen y Bryn.

Mae sawl bwrdd picnic mewn ardal laswelltog eang ar lan yr afon ger y maes parcio.

Llwybr cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Pen y Bryn

  • Gradd: Anodd
  • Pellter: 2 milltir/3.2 cilomedr
  • Amser: 1½ awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Yn aml mae’r llwybrau yn llai na 50cm o led mewn mannau, ar arwyneb anwastad, heb ei wneud, ble gallwch chi ddisgwyl mwd, creigiau a gwreiddiau coed. Mae rhai rhannau o'r llwybr yn arbennig o lithrig ar ôl glaw neu pan fyddant wedi'u gorchuddio â dail. Mae mainc wrth yr olygfan.

Dilynwch yr arwyddbyst coch i groesi Afon Ddulas yna dringwch i fyny’r bryn ar lwybr serth, trwy’r goedwig dderw i adfail Pen y Bryn.

O’r fan hon fe welwch chi olygfeydd godidog o Foel Crochan a Godre Fynydd.

Bydd mainc wrth yr olygfan i gael egwyl haeddiannol iawn wrth edrych ar y golygfeydd syfrdanol.

Ymlaen wedyn ar hyd pen y bryn cyn disgyn yn serth tua’r maes parcio.

Coedwig Dyfi

Mae Foel Friog wedi’i leoli yng Nghoedwig Dyfi.

Mae Coedwig Dyfi rhwng tref Machynlleth a Dolgellau a gorwedd yng nghysgod Cadair Idris.

Mae’r coetiroedd yn glynu wrth lethrau serth cadwyni o fynyddoedd Tarren a Dyfi gydag afonydd Dysynni, Dulas a Dyfi yn torri trwyddynt wrth anelu tua’r gorllewin i’r môr gerllaw.

Arferai’r ardal gyfan fod yn frith o fwyngloddiau llechi llwyddiannus, yn cyflogi cannoedd o bobl.

Roedd llechi gorenedig yn cael eu cludo i’r arfordir trwy system o dramyrdd a threnau stêm i’w hallforio.

Mae’r trenau sy’n weddill bellach yn cludo ymwelwyr ar draws yr ardal wledig.

Llywbrau cerdded eraill yng Nghoedwig Dyfi

Rhowch gynnig ar ein llwybrau ag arwyddbyst am flas o hanes a diwylliant yr ardal a chewch weld yr afonydd yn rhaeadru a’r coed mawreddog.

Yn ogystal â Foel Friog, mae llwybrau cerdded yng nghoetiroedd eraill Cyfoeth Naturiol Cymru yng Nghoedwig Dyfi:

Parc Cenedlaethol Eryri

Mae'r rhan fwyaf o Goedwig Dyfi wedi’i leoli yn Parc Cenedlaethol Eryri.

Eryri yw’r Parc Cenedlaethol mwyaf yng Nghymru ac mae’n gartref i drefi a phentrefi hardd a’r mynydd uchaf yng Nghymru.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy’n gofalu amdano.

I gael mwy o wybodaeth am ymweld ag Eryri, ewch i wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Coedwig Genedlaethol Cymru

Mae Coedwig Dyfi yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:

  • creu ardaloedd o goetir newydd
  • gwella coetiroedd presennol
  • adfer coetiroedd hynafol unigryw Cymru

Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Gwybodaeth am hygyrchedd

Mae’r cyfleusterau’n cynnwys:

  • parcio ar gyfer deiliaid bathodyn glas
  • mainc bicnic hygyrch ar lan yr afon

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Trefnu digwyddiad ar ein tir

Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.

Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.

Sut i gyrraedd yma

Mae Foel Friog 6½ milltir o Fachynlleth.

Cod post

Y cod post yw SY20 9RR.

Sylwer: efallai na fydd y cod post hwn yn eich arwain at y maes parcio os byddwch yn defnyddio sat nav neu ap llywio.

Rydym yn awgrymu eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau isod neu’n defnyddio’r Google map ar y dudalen hon lle ceir pin ar safle’r maes parcio.

Cyfarwyddiadau

Cymerwch yr A487 o Fachynlleth tuag at Ddolgellau.

Yng Nghorris, trowch yn sydyn i’r dde gan ddilyn yr arwyddion am Aberllefenni.

Parhewch am oddeutu 1½ milltir ac mae’r maes parcio ar y dde, yn union cyn arwydd pentref Aberllefenni.

What3Words

Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.

Arolwg Ordnans

Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio yw SH 769 093 (Explorer Map OL 23 neu 215).

Cludiant cyhoeddus

Y prif orsaf reilffordd agosaf yw Machynlleth.

Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.

Llwybr Beicio Cenedlaethol Sustrans

Mae Llwybr Beicio Cenedlaethol Sustrans, Rhif 8, yn mynd i Foel Friog.

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Sustrans.

Parcio

Mae’r maes parcio yn rhad ac am ddim.

Mae rhwystr cyfyngu uchder ger mynedfa'r maes parcio ac ni all cerbydau sy'n uwch na 2.1 metr/6 troedfedd 8 modfedd fynd i mewn i'r maes parcio.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Taflen Coedwig Dyfi PDF [4.8 MB]

Mannau eraill yng Gogledd Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf