Parc Coed y Brenin - Gardd y Goedwig

Dewis o lwybrau drwy goed o bob cwr o'r byd yn ardd y goedwig, y mae un yn addas ar gyfer pob gallu

Beth sydd yma

Mae’r safle hwn a’r cyfleusterau ymwelwyr ar agor - rhagor o fanylion ar gael ar y we-dudalen hon.

 

Diweddariad Coronafeirws

 

Mae cyfyngiadau cornonafeirws lleol mewn grym mewn rhai rhannau o Gymru.

 

Mae ein safleoedd yn parhau i fod ar agor mewn ardaloedd lle ceir cyfyngiadau lleol ond ni ddylech deithio o'r tu allan i'r ardal i ymweld â nhw - mae’r safle hwn yn Sir Gwynedd.

 

Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.

 

Mae angen ichi wisgo masg wrth fynd i mewn i un o'n hadeiladau. Gallwch gofrestru drwy ap y GIG wrth fynd i mewn i un o'n hadeiladau – sganio'r cod QR ar boster Covid-19 y GIG ar y safle.

 

Croeso

Mae gardd y goedwig o fewn Parc Coedwig Coed y Brenin.

Mae’n gartref i goed o bob rhan o’r byd. Ceir yna ffeithiau diddorol am rai o’r coed hyn ar arwyddion arbennig yn yr ardd.

Ceir maes parcio bach ychwanegol at ddefnydd ymwelwyr anabl gyda mynediad i’r llwybr hygyrch.

Llwybrau cerdded

Mae’r llwybr cerdded hawdd ag arwyddion o brif faes parcio.

Mae’r llwybr hygyrch ag arwyddion o faes parcio at ddefnydd ymwelwyr anabl.

Llwybr Darganfod Gardd y Goedwig

Uchafbwyntiau: Dewch i brofi coed o bob cwr o’r byd a darganfod ffeithiau diddorol amdanynt.

Pellter: ½ milltir 0.6 cilomeder

Gradd: Hawdd

Disgrifiad y llwybr: O brif faes parcio dilynwch yr arwyddbyst gwyrdd i lawr i’r bont dros Afon Babi.

Ymwelwch â’r olygfan ac yna ewch ling-di-long ar hyd cyfres o lwybrau anffurfiol gan gadw llygad am y pyst gwybodaeth am y coed a’r storfeydd sain chwedloniaeth.

Croesir yr ardd blith draphlith â chyfres o lwybrau ffurfiol ac anffurfiol 1m o led, rhai’n serth ac anwastad.

Nid oes dim grisiau na chamfeydd.

Mwy o wybodaeth: cerdyn llwybr, pyst gwybodaeth am y coed a straeon sain (offer weindio)

Llwybr Hygyrch Gardd y Goedwig

Uchafbwyntiau: Dewch i brofi coed o bob cwr o’r byd a darganfod ffeithiau diddorol amdanynt.

Pellter: ¼ milltir, 350m

Gradd: Hygyrch

Disgrifiad y llwybr: Ar gyfer y llwybr hygyrch, dilynwch yr arwyddbyst glas o faes parcio hygyrch dros y bont a thrwy ran isaf gardd y goedwig.

Yn yr olygfan, sy’n edrych dros y rhaeadr, gwrandewch ar stori Pont Llam yr Ewig.

Mae’r daith hygyrch yn llwybr gwastad 2m o led ag arwyneb da sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn gyda mannau gorffwys o leiaf bob 100m.

Nid oes dim grisiau na chamfeydd.

Mwy o wybodaeth: cerdyn llwybr, pyst gwybodaeth am y coed a straeon sain (offer weindio)

Gwybodaeth hygyrchedd

Mae maes parcio at ddefnydd ymwelwyr anabl yn unig.

Mae llwybr hygyrch Gardd y Goedwig yn cychwyn o faes parcio at ddefnydd ymwelwyr anabl.

Cau a dargyfeirio

Sylwch:

  • Weithiau, rhaid inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er eich diogelwch tra byddwn yn mynd i’r afael â gwaith cynnal a chadw neu weithrediadau coedwig
  • O dro i dro, efallai y bydd yn rhaid inni gau safle mewn tywydd eithafol, fel gwyntoedd cryfion neu eira a rhew, oherwydd y perygl posibl i ymwelwyr a staff
  • Cofiwch ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a welwch ar y safle, a gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro sydd mewn grym

Sut i gyrraedd

Lleoliad

Mae meysydd parcio Gardd y Goedwig oddi ar yr A470, ger pentref Ganllwyd.

Mae yn Sir Gwynedd.

Cyfeirnod grid mesydd parico yr AO yw SH 744 225.

Mae'r maes parcio am ddim.

Cyfarwyddiadau i meysydd parcio 

O'r de: Cymerwch yr A470 i'r gogledd o Ddolgellau. Tua 200 metr ar ôl mynd heibio i Westy Tŷ'n y Groes, trowch i'r dde gan ddilyn yr arwyddion twristiaeth brown i Dŷ'n y Groes. Dilynwch y ffordd darmac heibio i safle picnic Tŷ'n y Groes am ychydig dros gilomedr. Wrth groesffordd ychydig ar ôl maes parcio Glasdir trowch i'r chwith i fyny'r rhiw. Trowch i'r dde wrth y groesffordd nesaf a chroeswch bont fechan (Pont Llam yr Ewig). Mae maes parcio ymwelwyr anabl ar y chwith, ac mae prif faes parcio tua 150 metr i fyny’r rhiw, ar y chwith.

O'r gogledd: Cymerwch yr A470 i'r de tuag at Ddolgellau.  Ar ôl mynd drwy bentref Ganllwyd, trowch i'r chwith gan ddilyn yr arwyddion twristiaeth brown i Dŷ'n y Groes. Dilynwch y ffordd darmac heibio i safle picnic Tŷ'n y Groes am ychydig dros gilomedr. Wrth groesffordd ychydig ar ôl maes parcio Glasdir trowch i'r chwith i fyny'r rhiw. Trowch i'r dde wrth y groesffordd nesaf a chroeswch bont fechan (Pont Llam yr Ewig).Mae maes parcio ymwelwyr anabl ar y chwith, ac mae prif faes parcio tua 150 metr i fyny’r rhiw, ar y chwith.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Mae'r gorsafoedd trên agosaf yn y Bermo (llinell Arfordir Cambria) a Blaenau Ffestiniog (llinell Blaenau Ffestiniog-Llandudno).

Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Darganfod Parc Coed y Brenin

Mae Parc Coed y Brenin yn cynnig profiad coetir cyflawn i ymwelwyr ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Ceir amrywiaeth o lwybrau ag arwyddbyst sydd at ddant pawb ac yn addas ar gyfer pob lefel o ffitrwydd ym mharc y goedwig. Yn eu plith mae llwybrau beicio mynydd, llwybrau i'r teulu, llwybrau rhedeg a llwybrau geogelcio a chyfeiriadu o'r radd flaenaf.

Yn ogystal â'r llwybrau cerdded sy'n dechrau yma yng Ngardd y Goedwig, dyma feysydd parcio gyda chyfleusterau ar gyfer ymwelwyr ym Mharc Coed y Brenin:

  • Canolfan Ymwelwyr Parc Coed y Brenin - y porth i barc y goedwig a'r man cychwyn ar gyfer amrywiaeth o lwybrau cerdded, rhedeg a beicio mynydd. Hefyd ceir caffi, siop redeg a siop feiciau
  • Pont Cae’n y Coed – dechrau'r Llwybr Llosfygynydd garw
  • Tyddyn Gwladys – safle picnic wrth afon droellog Mawddach a phorth i'r llwybr Rhaeadrau a Gwaith Aur
  • Glasdir  - safle picnic gyda llwybr cerdded drwy’r hen gloddfa gopr a llwybr hygyrch i olygfan uwchben y gweithfeydd
  • Tŷ'n y Groes– ardal bicnic glan-yr-afon a'r porth i lwybr glan-yr-afon pob gallu a llwybr mynydd garw â golygfeydd gwych dros Eryri

Manylion cyswllt

Canolfan Ymwelwyr Parc Coed y Brenin

01341 440747

coedybrenin@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng Gogledd Orllewin Cymru