Coedwig Beddgelert, ger Beddgelert
Coedwig dawel yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri
Coetir derw Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coedydd Maentwrog yw’r hyn sy’n weddill o goedwig law Geltaidd enfawr a ymestynai ar hyd ochr orllewinol Prydain ac Iwerddon ar un adeg.
Mae'r glawiad uchel a'r chwistrell o'i nentydd byrlymus serth yn cynnal amgylchedd llaith sydd bron yn barhaol o dan y canopi coed, gan gefnogi coedwig law dymherus brin.
Mae llawer o'r mwsoglau, llysiau'r afu a'r cennau ar foncyffion y coed a’r creigiau'n goroesi mewn ardaloedd llaith yn unig – mae rhai mor brin nes eu bod o bwysigrwydd rhyngwladol.
Mae'r coetir hefyd yn lle gwych i bryfed sy'n darparu bwyd i'r ystlumod sy'n clwydo ac yn bridio yma, gan gynnwys yr ystlum pedol lleiaf prin
Gallwch ddilyn llwybr cylchol drwy’r coetir o faes parcio Coed Llyn Mair neu gerdded i Orsaf Tan y Bwlch ar Reilffordd Ffestiniog.
Mae ardal bicnic ar lan y llyn gyferbyn â’r maes parcio sy’n fan cychwyn ar gyfer llwybrau cerdded a beicio hirach a reolir gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Dilynwch yr arwyddion glas a dringo'n raddol drwy'r coetiroedd derw hyd at orsaf reilffordd Tan-y-Bwlch.
Mae'r orsaf hon ar Reilffordd Ffestiniog ac mae ganddi gaffi gyda thoiledau.
Dilynwch yr arwyddion coch wrth i'r llwybr ddringo drwy'r coed, a chwiliwch am y cerfluniau bach a mawr ar y ffordd.
Yna, mae'r llwybr yn arwain i lawr ar hyd ochr y ceunant a cheir golygfeydd o'r nant islaw.
Safwch ger y ceunant, lle mae canopi’r coed yn fwy trwchus ac mae ewyn dŵr yn codi’n ddi-baid o’r nant, ac fe deimlwch ar unwaith ei bod yn fwy llaith yno.
Mae hyn yn creu amodau perffaith ar gyfer 200 o rywogaethau o fwsogl a llysiau’r afu a 120 o rywogaethau o gen, gan gynnwys cen ysblennydd llysiau’r ysgyfaint sy’n tyfu ar goed aeddfed.
Mae’r goedwig hefyd yn gartref gwych i bryfed, a 286 o wahanol fathau o wyfynod bychain yn unig.
Ceir digonedd o fwyd felly i’r ystlumod amrywiol sy’n byw yma.
Ar nosweithiau cynnes o haf, os byddwch yn lwcus, efallai y gwelwch yr ystlum pedol lleiaf prin, yn hela’n uchel ym mrigau’r goedwig.
Yn yr haf, efallai y byddwch yn ddigon bodlon yn eistedd yn un o’r llennyrch llonydd yn aros i’r tingochiaid, y gwybedogion brith a theloriaid y coed gyrraedd – y mudwyr haf sy’n nodweddiadol o "goed derw ucheldirol".
Mae Coedydd Maentwrog yn Warchodfa Natur Genedlaethol.
Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.
Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn llefydd sydd â’r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.
Mae Coedydd Maentwrog yn un o’r chwech o Goedydd Derw Meirionnydd mawr sydd wedi'u gwarchod fel Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol.
Mae'r coedydd derw hyn yr un mor bwysig yn fyd-eang ac yr un mor fregus â rhai coedwigoedd glaw trofannol ac maent yn weddillion 'coed gwyllt' Atlantig helaeth a oedd ar un adeg yn ymestyn i lawr ochr orllewinol Prydain ac Iwerddon.
Gellir ymweld â dau o Goedydd Derw eraill Meirionnydd yn ofalus:
Mae llystyfiant trwchus a mynediad serth yn golygu nad yw'r Coedydd Derw eraill (Coed Camlyn, Coed Cymerau, a Choed y Rhygen) yn addas ar gyfer ymwelwyr.
Mae Coedydd Maentwrog wedi’i leoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Eryri yw’r Parc Cenedlaethol mwyaf yng Nghymru ac mae’n gartref i drefi a phentrefi hardd a’r mynydd uchaf yng Nghymru.
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy’n gofalu amdano.
I gael mwy o wybodaeth am ymweld ag Eryri, ewch i wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.
Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.
Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.
Mae Coedydd Maentwrog 7 milltir i'r gogledd ddwyrain o Borthmadog.
Mae yn Sir Gwynedd.
Mae Coedydd Maentwrog ar fap Explorer OL 18 yr Arolwg Ordnans (OS).
Cyfeirnod grid yr OS yw SH 652 413.
Cymerwch yr A487 o Borthmadog i Faentwrog.
Trowch i'r chwith i ddilyn y B4410 wrth dafarn yr Oakeley Arms ac, ar ôl tua 500 m, mae'r maes parcio ar y dde.
Y prif orsaf rheilffordd agosaf yw Penrhyndeudraeth.
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae parcio’n ddi-dâl.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.