Coedwig Beddgelert, ger Porthmadog
Coedwig dawel yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri
Safle picnic â llwybr cerdded i ddau lyn trawiadol
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor ond, o dan y cyfyngiadau coronafeirws presennol yng Nghymru, bwriedir i’r rhain gael eu defnyddio gan bobl sy’n byw yn lleol yn unig.
Fe’ch cynghorir – yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru – i beidio â gyrru i unrhyw un o’n safleoedd i wneud ymarfer corff, oni bai fod gennych reswm dilys, megis cyflwr iechyd neu broblemau symudedd.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Mae Llyn Sarnau yn fan hyfryd i fwynhau picnic wrth un o'r byrddau o amgylch y maes parcio.
Mae'r llyn yn weddol bas ac felly mae'n aml yn sychu allan yn ystod yr haf - er nad yw'n ddeniadol iawn efallai mewn tywydd brafiach, mae'n gartref pwysig i fywyd gwyllt sy'n hoff o wlyptiroedd.
Darganfod golygfeydd o fynyddoedd a dyffrynnoedd hardd, llynnoedd trawiadol a hen fwyngloddiau plwm segur ar y llwybr cerdded.
Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Gadewch y maes parcio a phwyllwch i werthfawrogi’r olygfa o’r meinciau.
Byddwch yn cyrraedd llwybr sy’n mynd o gwmpas, wedyn i lawr canol llyn bychan.
Troellwch drwy hen fwynglawdd uchel Hafna, a oedd yn ferw o ddiwydiant ar un adeg, yna parhewch ar hyd llwybr tonnog drwy’r goedwig, gan gynnwys golygfan ar ben ymyl clogwyn.
Mae Llyn Sarnau ym Mharc Coedwig Gwydir.
Lleolir Parc Coedwig Gwydir yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri ac mae'n amgylchynu pentref Betws-y-coed.
Gwaith cloddio plwm a sinc oedd prif nodwedd yr ardal ac mae gwaddol hen dai peiriant, tomenni sbwriel a chronfeydd dŵr yn nodweddiadol o'r goedwig a geir heddiw.
Mae sawl un o'r mwyngloddiau pwysicaf wedi cael eu hadfer yn rhannol a'u gwneud yn ddiogel i ymwelwyr.
Mae llwybrau cerdded ag arwyddbyst yn dechrau o sawl meysydd parcio Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae llwybrau beicio mynydd gradd coch, Gwydir Mawr a Gwydir Bach, yn dechrau o feyseydd parcio Mainc Lifio a Hafna.
Mae’r cyfleusterau yn Llyn Sarnau ar gyfer ymwelwyr ag anableddau yn cynnwys:
Mae Llyn Sarnau ddwy filltir i'r gorllewin o Lanrwst.
Mae yn Sir Conwy.
Mae Llyn Sarnau ar fap Arolwg Ordnans (AR) OL 17.
Cyfeirnod grid yr AO yw SH 778 592.
Cymerwch y B5106 o Lanrwst tuag at Fetws-y-coed.
Ar ôl troi i’r chwith wrth yr arwydd brown a gwyn ar gyfer Castell Gwydir, trowch i’r dde yn syth ar is-ffordd.
Ewch heibio i’r meysydd parcio ar gyfer Mainc Lifio ac Hafna a bydd maes parcio Llyn Sarnau ar y chwith.
Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Llanrwst.
Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae parcio’n ddi-dâl.