Coedwig Beddgelert, ger Beddgelert
Coedwig dawel yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri
Mae Llwybrau Penmachno ger pentref Penmachno yn ardal Parc Coedwig Gwydir a’i dirwedd anhygoel.
Mae gan y ddau lwybr beicio mynydd naturiol hyn gymysgedd o ddisgyniadau trac sengl a dringfeydd technegol.
Mae pob llwybr yn ddolen gylchol a gallwch naill ai ddilyn dim ond y ddolen gyntaf (sef Dolen Machno) neu gallwch ymuno â'r ail ddolen (Dolen Eryri) ar hanner ffordd y ddolen gyntaf i wneud y daith yn hirach.
Caiff Llwybrau Penmachno eu rheoli a'u cynnal gan Fenter Bro Machno (grŵp cymunedol gwirfoddol lleol).
Mae arwyddbyst i’w cael ar bob un o’n llwybrau beicio mynydd o’r dechrau i’r diwedd ac maent wedi’u graddio’n ôl eu hanhawster.
Ceir panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr – dylech ei ddarllen cyn cychwyn ar eich taith.
Dolen Machno, sef y cyntaf, sydd â'r disgyniadau cyflymaf a'r dringfeydd mwyaf.
Mae yna ddringfeydd cyflym, technegol, un trac, troeon tynn iawn, a chwpl o ddringfeydd a fydd yn profi’r coesau.
Mae golygfeydd gwych ar Ddolen Eryri, ac mae’n llifo’n braf iawn.
Mae yna gymysgedd gwych o drac sengl chwim, llwybr pren, a llwybr cerrig - gan wneud y llwybr yn un eithaf technegol.
Mae Penmachno ym Mharc Coedwig Gwydir.
Lleolir Parc Coedwig Gwydir yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri ac mae'n amgylchynu pentref Betws-y-coed.
Gwaith cloddio plwm a sinc oedd prif nodwedd yr ardal ac mae gwaddol hen dai peiriant, tomenni sbwriel a chronfeydd dŵr yn nodweddiadol o'r goedwig a geir heddiw.
Mae sawl un o'r mwyngloddiau pwysicaf wedi cael eu hadfer yn rhannol a'u gwneud yn ddiogel i ymwelwyr.
Mae llwybrau ag arwyddbyst yn dechrau o Fetws-y-coed a sawl feysydd parcio eraill Cyfoeth Naturiol Cymru:
Mae Parc Coedwig Gwydir yn ffurfio rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:
Ymhen amser bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cysylltiedig a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru ac yn dod â buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
I gael rhagor o wybodaeth am Goedwig Genedlaethol Cymru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.
Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.
Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.
Mae Penmachno 5½ milltir i'r de o Fetws-y-coed.
Mae yn Sir Conwy.
Mae Penmachno ar fap Arolwg Ordnans (AO) OL 18.
Cyfeirnod grid yr OS yw SH 786 498.
Ewch ar hyd yr A5 o Fetws-y-coed dros y bont i gyfeiriad Llangollen.
Ar ôl milltir a thri-chwarter, trowch i'r dde i fynd ar y B4406, sydd ag arwyddbost at bentref Penmachno.
Ar ôl mynd trwy'r pentref, ewch ymlaen am hanner milltir arall ac mae'r maes parcio ar y dde ar hyd trac coediog.
Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Betws-y-coed..
Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Parciwch yn ofalus wrth fynedfa'r goedwig, gan adael trac y goedwig yn glir.
Mae parcio’n ddi-dâl.
Mae Llwybrau Penmachno yn cael eu hariannu gan roddion gan feicwyr a'u cynnal gan wirfoddolwyr - gellir rhoi rhoddion ar ddechrau'r llwybr neu trwy wefan Menter Bro Machno.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.