Parc Coedwig Gwydir - Ty’n Llwyn, ger Betws-y-coed

Beth sydd yma

Bydd y maes parcio a Llwybr Rhaeadr Ewynnol ar gau o ddydd Llun 8 Ebrill oherwydd gweithrediadau coedwig. Dilynwch yr arwyddion a’r cyfarwyddiadau.

Croeso

Mae llwybr cerdded yn dechcrau o faes parcio Ty'n Llwyn i raeadr enwog o'r enw Rhaeadr Ewynnol.

Mae Llwybr Rhaeadr Ewynnol yn arwain drwy goetir i olygfan dros y rhaeadr - cewch olygfa fendigedig o’r ochr hon i’r afon felly peidiwch ag anghofio’ch camera.

Mae Ty’n Llwyn yn fan gwych i fwynhau picnic â golygfa wrth un o'r byrddau o amgylch y maes parcio.

""

Llwybr cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.  

Llwybr Rhaeadr Ewynnol

  • Gradd: Anodd
  • Pellter: 2¼ milltir/3.6 cilomedr
  • Amser: 2½ awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae’r llwybr cylchol hwn yn bennaf ar lwybrau cul, garw, serth o lai na 70 cm mewn mannau, sy’n arw ac anwastad dan droed, lle gallwch ddisgwyl llaid, creigiau a gwreiddiau coed. Mae nifer o risiau ar y llwybr a mainc wrth y rhaeadr lle gallwch orffwys ac edmygu’r olygfa.

O’r maes parcio, dilynwch y llwybr sy’n disgyn drwy’r coetir a daw sŵn yr afon yn uwch wrth ichi agosáu at Raeadr Ewynnol a’r olygfan.

""

Yna mae'r llwybr yn ymdroelli i fyny drwy'r coed a brigiadau creigiog i olygfan arall â golygfa i Foel Siabod a Phedol yr Wyddfa ar ddiwrnod clir.

""

Gwybodaeth hygyrchedd

Mae’r cyfleusterau yn Nhy'n Llwyn ar gyfer ymwelwyr ag anableddau yn cynnwys:

  • lleoedd parcio ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas
  • llwybrau yn arwain o’r lleoedd parcio ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas i’r byrddau picnic hygyrch, ar gyfer cadeiriau olwyn. Ceir golygfeydd hyfryd o’r byrddau picnic hygyrch

Parc Coedwig Gwydir

Mae Mainc Lifio ym Mharc Coedwig Gwydir.

Lleolir Parc Coedwig Gwydir yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri ac mae'n amgylchynu pentref Betws-y-coed.

Gwaith cloddio plwm a sinc oedd prif nodwedd yr ardal ac mae gwaddol hen dai peiriant, tomenni sbwriel a chronfeydd dŵr yn nodweddiadol o'r goedwig a geir heddiw.

Mae sawl un o'r mwyngloddiau pwysicaf wedi cael eu hadfer yn rhannol a'u gwneud yn ddiogel i ymwelwyr.

Mae llwybrau ag arwyddbyst yn dechrau o Fetws-y-coed a sawl feysydd parcio eraill Cyfoeth Naturiol Cymru:

  • Betws-y-coed - llwybrau cerdded heddychlon drwy'r goedwig ymhell o fwrlwm twristiaid
  • Cae'n y Coed - ardal bicnic hawdd dod o hyd iddi a llwybr cerdded gyda golygfeydd panoramig o'r mynyddoedd
  • Mwynglawdd Cyffty - llwybr byr trwy rai o hen waith plwm
  • Dolwyddelan - llwybr cerdded ar hyd ffordd Rufeinig a llwybr beicio gyda golygfeydd o'r mynyddoedd cyfagos
  • Hafna - llwybr cerdded drwy adfeilion hen waith plwm a llwybr beicio mynydd gradd coch
  • Llyn Crafnant - llwybrau cerdded o amgylch y llyn a llwybr hygyrch ar hyd glan yr afon
  • Llyn Geirionydd - ardal picnic gyda llwybr cerdded heibio i ddau lyn prydferth
  • Llyn Sarnau - safle picnic â llwybr cerdded i ddau lyn trawiadol
  • Mainc Lifio - dau lwybr beicio mynydd gradd coch a llwybr cerdded hanesyddol

Coedwig Genedlaethol Cymru

Mae Parc Coedwig Gwydir yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:

  • creu ardaloedd o goetir newydd
  • gwella coetiroedd presennol
  • adfer coetiroedd hynafol unigryw Cymru

Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Tŷ’n Llwyn 3½ milltir i'r gorllewin o Fetws-y-coed.

Mae yn Sir Conwy.

Map Arolwg Ordnans

Mae Tŷ’n Llwyn ar fap Arolwg Ordnans (AO) OL 17.

Cyfeirnod grid yr AO yw SH 765 583.

Cyfarwyddiadau

Ewch ar yr A5 o Fetws-y-coed tuag at Gapel Curig.

Ewch heibio i faes parcio Gae’n y Coed a throwch i’r dde i’r is-ffordd gul yn union cyn y Tŷ Hyll.

Mae’r maes parcio bach milltir i fyny’r ffordd hon, ar y dde.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Betws-y-coed.

Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Parcio

Mae parcio’n ddi-dâl.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng Gogledd Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf