Cae'n y Coed, ger Betws-y-Coed
Cae yn y goedwig â mannau picnic a gardd goedwig
Man cychwyn llwybr cerdded hanesyddol byr sy'n edrych dros Lanrwst a Llwybr Gwydir Mawr, llwybr beicio mynydd "coch" i feicwyr medrus
Lleolir Parc Coedwig Gwydir yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri.
Ers Oes Fictoria, mae cenedlaethau o ymwelwyr wedi cerdded ar hyd y llwybrau coetir ac wedi pysgota yn nyfroedd clir yr afonydd yma.
Heddiw, mae llwybrau cerdded ag arwyddbyst yn galluogi ymwelwyr i ddarganfod y dirwedd hon o lynnoedd, coedwigoedd a mynyddoedd a dysgu am ei hanes mwyngloddio.
Ceir llwybr beicio mynydd hefyd (sydd wedi'i raddio'n goch gan ei fod ond yn addas i feicwyr medrus), gardd goedwig a llwybr cerdded ag arwyddbyst i Raeadrau enwog y Wennol.
Rhwng 1850 a 1919, gwaith cloddio plwm a sinc oedd prif nodwedd yr ardal. Mae gwaddol hen dai peiriant, tomenni sbwriel a chronfeydd dŵr yn nodweddiadol o'r goedwig a geir heddiw.
Cafodd bron pob llyn yn y goedwig ei greu i wasanaethu'r mwyngloddiau.
Mae sawl un o'r mwyngloddiau pwysicaf wedi cael eu hadfer yn rhannol a'u gwneud yn ddiogel i ymwelwyr.
Heddiw, wrth i chi ddarganfod bryncynnau, llynnoedd a phorfeydd coediog ucheldirol, bydd yn anodd i chi ddychmygu mai tirwedd ddiwydiannol adfeiledig oedd yr ardal hon ers talwm.
Mae Parc Coedwig Gwydir yn cwmpasu ardal sy'n fwy na 72 cilomedr sgwâr (28 milltir sgwâr) ac mae'n amgylchynu pentref Betws-y-Coed.
Mae llwybrau cerdded ag arwyddbyst yn dechrau o'r rhannau canlynol o Barc Coedwig Gwydir:
Mainc Lifio yw man cychwyn Llwybr Gwydir Mawr, llwybr beicio mynydd gradd coch sy'n golygu ei fod ond yn addas i feicwyr medrus â sgiliau da oddi ar y ffordd.
I gerddwyr, ceir llwybr cerdded byr â golygfannau gwych yn edrych dros dref farchnad Llanrwst.
Sylwch:
Ceir arwyddbyst ar hyd y llwybr cerdded ac mae'n dechrau o'r maes parcio.
1.3 milltir, 2.1 cilomedr
Mae'r llwybr cerdded byr hwn wedi'i enwi ar ôl y Foneddiges Fair o deulu Wynne a sefydlodd ystad Gwydir - mae'r hafdy a'r capel gerllaw. Ceir meinciau ar hyd y ffordd i fwynhau'r golygfeydd dros Lanrwst a Dyffryn Conwy tua'r môr.
Mae Llwybr Gwydir Mawr, 25km o hyd, wedi hen sefydlu fel llwybr beicio mynydd, ac i’r rheiny sy’n dymuno cael taith fyrrach, mae Llwybr Gwydir Bach yn dilyn 8.7km o’r prif lwybr.
Ceir arwyddbyst ar hyd y llwybr beicio mynydd ac mae'n dechrau o faes parcio Mainc Lifio.
Ewch i'n tudalen beicio mynydd am restr o'n holl lwybrau beicio mynydd a gwybodaeth am raddau er mwyn sicrhau eich bod yn dewis y llwybr sy'n iawn i chi.
Hefyd, darllenwch y wybodaeth berthnasol am y safle cyn dechrau ar eich taith.
25 cilomedr, gradd coch (anodd)
Mae gan lwybr Gwydir Mawr ddringfeydd serth, llethrau serth ar i lawr a thrac sengl rhagorol. Mae’r rhan fwyaf o’r dringfeydd yn digwydd ar ffyrdd y goedwig a thraciau gan roi amser i chi werthfawrogi’r golygfeydd mynyddig. Mae’r llethrau i lawr ar hyd trac sengl sy’n amrywio o fod yn dynn iawn, technegol a chreigiog i fod yn agored a llifeiriol.
8.7 cilometr, graddfa goch (anodd)
Chwaer fach Gwydir Mawr yw Gwydir Bach, ond mae’r ddwy ddringfa fawr yn arwain at lethr orau’r holl lwybr. Mae’r trac sengl yn amrywio o fod yn draddodiadol dynn iawn, technegol a chreigiog i fod yn agored a llifeiriol, gydag ambell nodwedd fodern hefyd.
Mae Mainc Lifio filltir i'r gorllewin o Lanrwst oddi ar y B5106.
Mae'r maes parcio am ddim.
Trowch i'r gorllewin oddi ar y B5106 ger Castell Gwydir, Llanrwst, ar is-ffordd i mewn i'r goedwig. Yna cymerwch y ffordd goedwig gyntaf ar y chwith ag arwydd i Fainc Lifio.
Mae Mainc Lifio ar fap Arolwg Ordnans (AR) OL 17.
Cyfeirnod grid yr AO yw SH 790 609.
Yr orsaf drên agosaf yw Llanrwst.
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i www.cymraeg.traveline.cymru
Ffôn: 0300 065 3000
E-bost: ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.