Parc Coedwig Gwydir - Betws-y-coed

Beth sydd yma

Rydym wedi ailgyfeirio Llwybr Llyn Parc ac wedi gosod llwybr cerdded newydd o'r enw Llwybr Glan Afon Llugwy. Nid yw llwybrau Cyrau a Phen yr Allt yn bodoli bellach. Gweler yr adran llwybrau cerdded isod a'r panel gwybodaeth ym maes parcio Pont y Pair.

Croeso

Mae Parc Coedwig Gwydir yn amgylchynu Betws-y-coed, un o bentrefi harddaf Parc Cenedlaethol Eryri.

Mae ein llwybrau cerdded sydd wedi’u marcio, yn cychwyn o’r pentref ac yn cynnwys llwybr beicio hawdd, dringfeydd serth i fyny bryniau coediog sydd â golygfeydd pellgyrhaeddol, a theithiau cerdded o amgylch llynnoedd prydferth.

Edrychwch ar ein paneli gwybodaeth ym maes parcio Pont y Pair neu prynwch ganllaw cerdded o Ganolfan Wybodaeth Parc Cenedlaethol Eryri.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy sy’n gofalu am y toiledau cyhoeddus ym maes parcio Pont y Pair a chodir tâl am eu defnyddio.

Mae’r llwybr cyfeiriannu parhaeol yn dechrau yn agos at Fetws-y-coed ac yn gorffen yng nghanol y pentref.

Llwybrau cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Maent yn cychwyn o faes parcio Pont y Pair yng nghanol Betws-y-coed (ar wahân i Daith Llyn Elsi sy’n dechrau y tu ôl i Eglwys Santes Fair).

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybrau.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Coed Tan Dinas

  • Gradd: Hawdd
  • Pellter: ¾ milltir/1.2 cilomedr
  • Dringo: 20 metr
  • Amser: 30 muned
  • Gwybodaeth am y llwbyr: Cychwynnwch y daith gyferbyn â maes parcio Pont y Pair ar hyd llwybr pren, 1.5m o led, sy’n eich tywys yn hamddenol drwy’r coed ffynidwydd Douglas enfawr ochr yn ochr ag Afon Llugwy, nes ichi gyrraedd ardal bicnic wrth ochr yr afon. Mae’r llwybr yn dringo’n raddol drwy’r coed cyn mynd i lawr ac yn ôl ar hyd y llwybr pren i’r maes parcio. 

Cerddwch y daith gerdded hawdd, fer, o dan goed pinwydd Douglas tal a mawreddog, a rhai ohonynt hyd at 100 mlwydd oed.

Dewch o hyd i’r arwyddion ar hyd y llwybr i ddysgu ffeithiau am y coed.

Gallwch hefyd gasglu taflen ar ddechrau’r llwybr ar gyfer y Llwybr Darganfod Anifeiliaid neu llwythwch gopi i lawr o waelod y dudalen hon.

Llwybr Glan Afon Llugwy

""

  • Gradd: Cymedrol
  • Amser: 1-1½ awr
  • Pellter: 1.5 milltir/2.5 cilomedr
  • Dringo: 223 troedfedd/68 metr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae’r llwybr yn dilyn cyfuniad o lwybr pren, llwybrau glaswellt gwastad a llwybr troed cul, sy’n llai na 80cm o led mewn rhai mannau, lle gallwch ddisgwyl gweld mwd, cerrig mawr a llawer o wreiddiau coed amlwg. Mae’r llwybr yn dychwelyd ar hyd ffordd darmac. Ceir safle picnic ar yr ymyl y coetir a mainc ger Pont y Mwynwyr. Mae dwy giât mochyn fetel gul i fynd i mewn ac allan o’r cae glaswelltog. Os bu llawer o law, gall yr afon orlifo dros y llwybr y tu allan i'r goedwig. Peidiwch â cheisio cerdded y llwybr os yw o dan ddŵr.

Cerddwch ar lan yr afon a thrwy’r coed ffynidwydd Douglas tal ac ymlaen i’r gorlifdir gyda golygfeydd o’r bryniau a’r coedwigoedd cyfagos.

Fe welwch banel dehongli ger Pont y Mwynwyr yn esbonio pam y cafodd ei hadeiladu yno a sut y cafodd ei henw.

Llwybr Llyn Parc

  • Gradd: Anodd
  • Amser: 1½-3 awr
  • Pellter: 4.3 milltir/6.9 cilomedr
  • Dringo: 1086 troedfedd/331 metr
  • Gwybodaeth am y llwbyr: Mae’r llwybr yn dilyn cyfuniad o ffyrdd drwy’r goedwig a llwybrau serth, cul, llai nag 80cm o led mewn rhai mannau, ar arwyneb garw ac anwastad lle bydd mwd, cerrig a gwreiddiau coed dan draed. Mae un fainc wrth ddringo a thair ar hyd y llyn lle gallwch orffwys a mwynhau’r olygfa. Mae cwympiadau diamddiffyn a hen adeiladau ar hyd y llwybr - arhoswch ar y llwybr sydd â chyfeirbwyntiau.

Dilynwch y llwybr i fyny ochr serth y bryn, gan orffwys ar ben clogwyn i edrych dros y cwm.

Ar ben y bryn fe ddowch at Lyn Parc - llyn naturiol a drowyd yn gronfa i yrru peiriannau mwyngloddio yng ngheunant Aberllyn islaw.

Mae’r llwybr yn disgyn trwy’r ceunant gan basio sawl mynedfa i’r mwynglawdd ac adfeilion ei strwythurau.

Taith Llyn Elsi

  • Gradd: Anodd
  • Pellter: 4 milltir/6.2 cilomedr
  • Dringo: 230 metr
  • Amser: 2-3 awr
  • Gwybodaeth am y llwbyr: Mae Taith Llyn Elsi yn dechrau ar y ffordd goedwig y tu ôl i Eglwys Santes Fair ym Metws-y-coed. Mae’r llwybr yn esgyn ac yn disgyn yn serth o Fetws ac yn dilyn cyfuniad o yrdd coedwig a llwybrau troed culach, llai na 100cm o led mewn rhai mannau, sy’n arw ac anwastad dan droed, lle gallwch ddisgwyl mwd, creigiau a gwreiddiau coed. Ceir llawer o feinciau a chlwydi ar y ddringfa serth o Fetws-y-coed, ac mae llawer o feinciau i’w cael o gwmpas y llyn.

Gadael bwrlwm Betws-y-coed I ddarganfod llyn llonydd a golygfeydd prydferth.

Mae’n werth dringo o Fetws-y-coed i fwynhau’r olygfa, y bywyd gwyllt a’r tawelwch wrth i chi gerdded o amgylch Llyn Elsi.

Dilynwch y llwybr o gwmpas y llyn wrth iddo dorri i mewn ac allan o ymyl y dŵr nes ichi ymuno â’r prif lwybr i olrhain eich camau yn ôl i Fetws-y-coed.

Llwybr cyfeiriannu 

Profwch eich sgiliau darllen map drwy lywio rhwng y cyfeirbyst pren ar ein llwybr cyfeiriannu parhaol ym Mharc Coedwig Gwydir.

Mae’r Llwybr Oren wedi’i raddio yn ôl safonau Ffederasiwn Cyfeiriannu Prydain a’i gynllunio gan Gyfeirianwyr Eryri.

Mae’r llwybr yn dechrau yn agos at Fetws-y-coed ac yn gorffen yng nghanol y pentref.

I gyrraedd y dechrau, dilynwch y ffordd fechan (Ffordd Craiglan) sy’n rhedeg ochr yn ochr â siop Cotswolds Outdoor (Arfon House) allan o Fetws-y-coed. Ar ôl rhyw 150 metr mae arosfan ar y chwith (cyfeirnod grid OS SH 795 559) – edrychwch am arwydd cyfeiriannu ar ochr y ffordd.

Llwybr Oren

  • Gradd: Cymedrol
  • Ar gyfer: Dechreuwyr sy’n gallu deall map.
  • Pellter: 2.1 cilometr

Mae’r Llwybr Oren yn gymedrol o ran her llywio ac mae 10 cyrchbost.

Sut i ddilyn y llwybrau cyfeiriannu

  • Lawrlwythwch y mapiau ac argraffu gartref neu prynwch fersiwn maint A3 o’r map, wedi’i argraffu ar bapur gwrth-ddŵr ar raddfa o 1:7,500, o Ganolfan Wybodaeth Betws neu siop Cotswolds Outdoor
  • Dewiswch eich llwybr a chanfod eich ffordd rhwng pob “cyrchbost” (arwyddbyst pren)
  • Cewch gwblhau’r llwybr yn eich amser eich hun
  • Gwiriwch eich atebion gyda’r daflen atebion a geir gyda’ch map neu lawrlwythwch o’r dudalen

Parc Coedwig Gwydir

Lleolir Parc Coedwig Gwydir yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri ac mae'n amgylchynu pentref Betws-y-coed.

Gwaith cloddio plwm a sinc oedd prif nodwedd yr ardal ac mae gwaddol hen dai peiriant, tomenni sbwriel a chronfeydd dŵr yn nodweddiadol o'r goedwig a geir heddiw.

Mae sawl un o'r mwyngloddiau pwysicaf wedi cael eu hadfer yn rhannol a'u gwneud yn ddiogel i ymwelwyr.

Yn ogystal â’r llwybrau sy’n dechrau o Fetws-y-coed mae llwybrau ag arwyddbyst yn dechrau o sawl feysydd parcio Cyfoeth Naturiol Cymru:

  • Cae'n y Coed - ardal bicnic hawdd dod o hyd iddi a llwybr cerdded gyda golygfeydd panoramig o'r mynyddoedd
  • Mwynglawdd Cyffty - llwybr byr trwy rai o hen waith plwm
  • Dolwyddelan - llwybr cerdded ar hyd ffordd Rufeinig a llwybr beicio gyda golygfeydd o'r mynyddoedd cyfagos
  • Hafna - llwybr cerdded drwy adfeilion hen waith plwm a llwybr beicio mynydd gradd coch
  • Llyn Crafnant - llwybrau cerdded o amgylch y llyn a llwybr hygyrch ar hyd glan yr afon
  • Llyn Geirionydd - ardal picnic gyda llwybr cerdded heibio i ddau lyn prydferth
  • Llyn Sarnau - safle picnic â llwybr cerdded i ddau lyn trawiadol
  • Penmachno - llwybrau beicio mynydd anghysbell gyda golygfeydd ysblennydd
  • Sawbench - dau lwybr beicio mynydd gradd coch a llwybr cerdded hanesyddol
  • Ty’n Llwyn – llwybr cerdded i raeadr enwog Ewynnol

Parc Cenedlaethol Eryri

Mae Parc Coedwig Gwydir wedi’i leoli yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri.

Eryri yw’r Parc Cenedlaethol mwyaf yng Nghymru ac mae’n gartref i drefi a phentrefi hardd a’r mynydd uchaf yng Nghymru.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy’n gofalu amdano.

I gael mwy o wybodaeth am ymweld ag Eryri, ewch i wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Newidiadau i lwybrau

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau'r llwybrau neu unrhyw newidiadau eraill iddynt yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Trefnu digwyddiad ar ein tir

Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.

Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.

Sut i gyrraedd yma

Rydym yn argymell eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau hyn neu’n defnyddio’r map Google isod lle mae pin yn nodi’r lleoliad.

Dilynwch yr A5 drwy ganol pentref Betws-y-coed a throi i'r B5106 gan ddilyn arwyddion Trefriw.

Croeswch bont garreg a throi ar unwaith i'r chwith i ffordd fach.

Ymhen 50 metr bydd maes parcio Pont y Pair ar y dde.

Mae’r llwybrau cerdded yn cychwyn o faes parcio Pont y Pair ym Metws-y-coed (ac eithrio Taith Llyn Elsi).

Mae Taith Llyn Elsi yn cychwyn y tu ôl i Eglwys y Santes Fair yng nghanol Betws-y-coed, sef pum munud o waith cerdded o faes parcio Pont y Pair.

 

Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer maes parcio Pont y Pair yw SH 791 567 (Explorer Map OL 17).

Y cod post yw LL24 0BL. Sylwer bod y cod post hwn yn cwmpasu ardal eang ac ni fydd yn mynd â chi yn uniongyrchol i’r fynedfa.

Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.

Cludiant cyhoeddus

Y prif orsaf reilffordd agosaf yw Betws-y-coed.

Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.

Parcio

Mae’r llwybrau cerdded yn cychwyn o faes parcio Pont y Pair ym Metws-y-coed.

Caiff maes parcio Pont y Pair ei redeg gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Codir tâl am barcio.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Mannau eraill yng Gogledd Orllewin Cymru

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf