Coedwig Beddgelert, ger Porthmadog
Coedwig dawel yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri
Dewis o lwybrau cerdded heddychlon drwy'r goedwig ymhell o fwrlwm twristiaid
Mae Llwybr Pen yr Allt ar gau oherwydd gwaith coedwigaeth – mae hyn yn cynnwys y rhan o’r llwybr ar hyd yr afon o Bont y Mwynwyr i Bont-y-Pair.
Mae system un ffordd dros dro ar Lwybr Coed Tan Dinas. Mae rhan o’r daith hon bellach yn dilyn y llwybr trwy’r goedwig at ffordd y Cyngor ac mae wedi ei graddio’n gymedrol yn hytrach na hawdd.
Mae rhai pyst rheoli cyfeiriannu nad ydynt yn hygyrch - dilynwch yr holl arwyddion a chyfarwyddiadau sydd ar y safle, os gwelwch yn dda.
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor ond, o dan y cyfyngiadau coronafeirws presennol yng Nghymru, bwriedir i’r rhain gael eu defnyddio gan bobl sy’n byw yn lleol yn unig.
Fe’ch cynghorir – yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru – i beidio â gyrru i unrhyw un o’n safleoedd i wneud ymarfer corff, oni bai fod gennych reswm dilys, megis cyflwr iechyd neu broblemau symudedd.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Mae Betws-y-coed un o'r pentrefi mwyaf poblogaidd ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Cafodd cryn dipyn o Fetws-y-coed ei adeiladu yn ystod Oes Fictoria ac mae Parc Coedwig Gwydir yn amgylchynu'r pentref prydferth hwn.
Ceir llwybr pren a llwybr troed hawdd o faes parcio Pont y Pair heibio i goed pinwydd Douglas enfawr, a blannwyd yn y 1920au, ac ar hyd glannau afon Llugwy.
Hefyd, ceir pedwar llwybr ag arwyddbyst o Fetws-y-coed sy'n mynd i fyny i lethrau coedwig heddychlon sy'n amgylchynu'r pentref.
Mae’r llwybrau cyfeiriannu drwy Barc Coedwig Gwydir yn dechrau yn agos at Fetws-y-coed.
Ceir arwyddbyst ar yr holl lwybrau cerdded allan o faes parcio Pont y Pair yng nghanol Betws-y-coed (ar wahân i Lwybr Cerdded Llyn Elsi).
Mae Llwybr Cerdded Llyn Elsi yn dechrau y tu ôl i Eglwys Santes Fair.
¾ milltir/1.2 cilomedr, hawdd
Dilynwch y llwybr pren a’r llwybr llydan ar hyd glan yr afon ar y daith gerdded fer hon drwy goed uchel iawn.
Edrychwch ar y ffynidwydd Douglas urddasol sydd yn gymaint â 100 mlwydd oed.
1½ milltir/2.5 cilomedr, anodd
Mae Llwybr Cerdded y Cyrau yn dringo heibio coed pinwydd Douglas ysblennydd lle ceir golygfa wych dros Fetws-y-coed.
Mae'r llwybr yn dychwelyd i'r pentref ar hyd ffordd goedwig â choed yn tyfu'r naill ochr a'r llall iddi.
4½ milltir/7.1 cilomedr, anodd
Mae Llwybr Cerdded Pen yr Allt yn gylchdaith drwy goedwigoedd pinwydd cysgodol ac uwch-ddolydd.
Mae'r llwybr yn mynd heibio i fwyngloddiau segur a cheir golygfeydd trawiadol o Foel Siabod a Dyffryn Conwy.
Mae'n dychwelyd ar hyd afon Llugwy (os bydd wedi bwrw glaw cryn dipyn, gall yr afon orlifo fan hyn a dylech ddilyn y gwyriad).
6½ milltir/10.6 cilomedr, anodd
Mae Llwybr Cerdded Llyn Parc yn dechrau ar hyd hen lwybr glowyr ac yn mynd heibio i adfeilion Pwll Aberllyn.
Ar ôl cyrraedd y llyn, mae'n parhau ar hyd y lan cyn mynd heibio i raeadr fechan ar ei ffordd nôl i'r pentref.
4 milltir/6.2 cilomedr, anodd
Mae llwybr cerdded Llyn Elsi yn dechrau ar y ffordd goedwig y tu ôl i Eglwys Santes Fair ym Metws-y-coed.
Dilynwch y ffordd hon i goetir lle ceir arwyddbyst i Lyn Elsi. Mae'r llwybr yn mynd o amgylch y llyn â golygfeydd o'r ynys sy'n gartref i wylanod a gwyddau sy'n nythu.
Profwch eich sgiliau darllen map drwy lywio rhwng y cyfeirbyst pren ar un o’n tri llwybr cyfeiriannu parhaol ym Mharc Coedwig Gwydir.
Mae’r tri llwybr yn dechrau yn agos at Fetws-y-coed ac yn gorffen tu cefn i Eglwys y Santes Fair yng nghanol y pentref.
Mae’r llwybrau wedi’u graddio yn ôl safonau Ffederasiwn Cyfeiriannu Prydain a’u cynllunio gan Gyfeirianwyr Eryri.
Mae’r Llwybr Oren yn gymedrol o ran her llywio ac mae 10 cyrchbost.
Mae gofyn llywio sy’n anodd yn dechnegol ac mae 16 cyrchbost.
Mae’r Llwybr Glas yn galw am lywio anodd technegol ac mae rhaid ymweld â 16 o reolyddion ar y cwrs.
I gyrraedd y dechrau, dilynwch y ffordd fechan (Ffordd Craiglan) sy’n rhedeg ochr yn ochr â siop Cotswolds Rock Bottom allan o Fetws-y-coed i arosfan (cyfeirnod grid OS SH 795 559) sydd ar y chwith wedi rhyw 150 metr – edrychwch am arwydd ar ochr y ffordd.
Lleolir Parc Coedwig Gwydir yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri ac mae'n amgylchynu pentref Betws-y-coed.
Gwaith cloddio plwm a sinc oedd prif nodwedd yr ardal ac mae gwaddol hen dai peiriant, tomenni sbwriel a chronfeydd dŵr yn nodweddiadol o'r goedwig a geir heddiw.
Mae sawl un o'r mwyngloddiau pwysicaf wedi cael eu hadfer yn rhannol a'u gwneud yn ddiogel i ymwelwyr.
Yn ogystal â’r llwybrau o Fetws-y-coed mae llwybrau cerdded ag arwyddbyst yn dechrau o'r rhannau canlynol o Barc Coedwig Gwydir:
Mae Gwydir Mawr a Gwydir Bach, llwybrau beicio mynydd gradd coch, yn dechrau o Fainc Lifio neu Hafna.
Mae Pont y Pair yng nghanol pentref Betws-y-coed sydd wrth gyffordd yr A5 a'r A470.
Mae yn Sir Conwy.
Caiff maes parcio Pont y Pair ei redeg gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Codir tâl am barcio.
Mae maes parcio Pont y Pair wrth gyffordd y B5106 a'r A5 ym Metws-y-coed dros bont gul.
Mae Pont y Pair ar fap Arolwg Ordnans (AR) OL 17.
Cyfeirnod grid yr AO yw SH 791 567.
Yr orsaf drên agosaf yw Betws-y-coed.
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
0300 065 3000