Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cwm Idwal, ger Betws-y-coed

Beth sydd yma

Croeso

Mae Cwm Idwal ym mhen gogleddol Parc Cenedlaethol Eryri ac mae'n fan poblogaidd ar gyfer mynydda a gweithgareddau awyr agored eraill.

Mae’n fynedfa i gadwyni mynyddoedd y Carneddau a’r Glyderau.

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Chyfoeth Naturiol Cymru’n cydweithio i reoli Cwm Idwal.

Mae’r maes parcio, y toiledau, a’r holl gyfleusterau ymwelwyr yn y fan yma’n cael eu gweithredu gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri – ewch i wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Ymweld â Chwm Idwal

Y ganolfan ymwelwyr yw’r lle delfrydol i ddechrau ymweliad â Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cwm Idwal.

Yno, mae arddangosfeydd rhyngweithiol ar sgriniau cyffwrdd, a sgrin ffilm  sy’n dangos gwahanol olygfeydd o’r warchodfa.

Mae yna giosg lluniaeth ysgafn sy’n gwerthu byrbrydau poeth ac oer, ac mae toiledau.

Noder nad oes staff yn gweithio yn y ganolfan ymwelwyr ond bod swyddfa warden ar y safle a sgrin electronig allanol sy’n dangos rhagolygon y tywydd.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy’n rheoli’r maes parcio, y toiledau a’r cyfleusterau ar gyfer ymwelwyr – ewch i wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y cyfleusterau ymwelwyr.

Cerdded

Mae llwybr cylchol sy’n dilyn llwybrau troed cyhoeddus o amgylch Llyn Idwal.

Gellir cyrraedd y llwybr hwn o’r maes parcio, i’r chwith o’r ganolfan ymwelwyr, ar hyd llwybr serth a chreigiog.  

Nid oes arwyddion ar gyfer y daith hon sydd tua 3.5 milltir o hyd.

Ceir nifer o lwybrau cerdded a llwybrau sgrialu dros greigiau (mynediad mwy garw) eraill, sy’n arwain i fyny at y cribau uchaf.

Noder, os gwelwch yn dda:

  • mae pob llwybr yn anwastad dan draed
  • mae’r dirwedd yn anodd, hyd yn oed pan fo’r amodau’n ffafriol, a hynny oherwydd natur serth a chreigiog y tir
  • mae’r amgylchiadau’n amrywio’n ddramatig gyda’r tymhorau
  • mae yna gamfeydd a gatiau lle mae’r llwybrau’n croesi waliau a ffensys

Gwarchodfa Natur Genedlaethol

Yn 1954, dynodwyd Cwm Idwal fel y Warchodfa Natur Genedlaethol gyntaf yng Nghymru,

Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.

Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.

Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.

Daeareg Cwm Idwal

Gall ymwelwyr weld tystiolaeth glir o’r modd y cafodd y dirwedd hon ei chreu yng Nghwm Idwal.

Crëwyd y plygiadau a’r ffawtiau o ganlyniad uniongyrchol i’r grymoedd terfysglyd a wthiodd y mynyddoedd hyn i fyny 450 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Cafodd y clogwyni a’r cribau – yn ogystal ag amffitheatr enfawr Cwm Idwal ei hun – eu cerflunio a’u cafnu gan effeithiau Oes yr Iâ, mewn cyfnod llawer mwy diweddar.

Ym mhobman o’ch cwmpas mae’r hyn a adawyd ar ôl gan y rhewlif anferth a lenwai’r gofod hwn ar un adeg – dyffrynnoedd crog Cwm Cneifion a Chwm Clyd; y clogfeini llathredig enfawr; y marian ar lan Llyn Idwal; y llethrau sgri mawreddog, a’r nodwedd fwyaf rhyfeddol o’r cyfan, sef y creigiau danheddog ar lwyfandir copa’r Glyderau.

Bywyd gwyllt yng Nghwm Idwal

Mae hyd yn oed y planhigion sy’n tyfu yma wedi goroesi o gyfnod Oes yr Iâ.

Ar y silffoedd creigiog, y tu hwnt i gyrraedd y geifr gwyllt, mae yna lu o blanhigion Arctig alpinaidd prin yn tyfu, yn cynnwys y gludlys mwsoglog, lili’r Wyddfa, mantell-Fair y mynydd a’r tormaen porffor.

Uchafbwyntiau'r tymor

Yn ystod y flwyddyn, mae'r dirwedd yn newid yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cwm Idwal.

Yn dibynnu ar ba adeg y byddwch yn ymweld â'r safle, rydych hefyd yn debygol o weld gwahanol enghreifftiau o fywyd gwyllt.

Parhewch i ddarllen i gael gwybod beth y gallwch ei weld yma yn ystod y tymhorau gwahanol.

Y Gwanwyn

Yn ystod y gwanwyn, bydd Lili'r Wyddfa, sef planhigyn prin, yn blodeuo, yn ogystal â blodau mynyddig eraill.

Yr Haf

Mae adar mudol megis mwyeilch y mynydd a'r gynffonwen yn ymgartrefu yng Nghwm Idwal yn ystod yr haf.

Yr Hydref

Mae'r hydref yn arwain at ddyddiau byrrach ac amrywiaeth o liwiau gweundirol.

Y Gaeaf

Yn ystod misoedd oeraf ddiwedd y gaeaf hyd at ddechrau'r gwanwyn, mae blodau'r dormaen glasgoch yn lliwio'r dirwedd aeafol.

Cau a dargyfeirio

  • Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.
  • Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.
  • Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Cwm Idwal 10 milltir i’r gorllewin o Fetws-y-coed, ar yr A5.

Mae'r safle hon yn ymestyn ar draws ffiniau Sir Gwynedd a Sir Conwy.

Map Arolwg Ordnans (AO)

Mae Cwm Idwal ar fap Arolwg Ordnans (AO) OL 17.

Cyfeirnod grid yr OS yw SH 649 604.

Cyfarwyddiadau

Y prif faes parcio ar gyfer Cwm Idwal yw maes parcio Llyn Ogwen, a reolir gan Barc Cenedlaethol Eryri.

Trowch oddi ar yr A5 wrth yr arwydd ar gyfer yr hostel ieuenctid.

Mae llwybr beicio 85 Sustrans yn mynd o Fangor i faes parcio Cwm Idwal.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Y gorsafoedd trên agosaf yw Betws-y-coed a Bangor.

Mae’r bws S6 yn teithio ar hyd yr A470 rhwng Bangor a Betws-y-coed.

Am fanylion ynghylch trafnidiaeth gyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.

Maes parcio

Y prif faes parcio ar gyfer Cwm Idwal yw maes parcio Llyn Ogwen.

Codir tâl am barcio yn y maes parcio hwn.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy’n rheoli’r maes parcio - ewch i wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y maes parcio.

Mannau eraill yng Gogledd Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf