Croeso
Mae Cors Bodeilio yn wlypdir o bwys rhyngwladol sydd â chyfoeth o fywyd gwyllt.
Er gwaethaf ei enw, cors galchog yw Cors Bodeilio mewn gwirionedd.
Dilynwch ein teithiau cerdded ag arwyddbyst dros y llwybr pren i'r gwlypdir i gael golygfeydd gwych a'r cyfle i weld y bywyd gwyllt ac arddangosfa o flodau gwyllt yn y gwanwyn a'r haf.
Mae’n warchodfa natur oherwydd ei siglen unigryw (ardal wlypdir o blanhigion byw sy’n ffurfio mawn, heb orchudd coedwig). Mae dŵr o’r creigiau calchfaen sy’n amgylchynu Corsydd Ynys Môn yn llawn mwynau, ac yn creu amodau perffaith ar gyfer amrywiaeth o blanhigion ac anifeiliaid prin
Mae'n un o’r tair cors galchog ar Ynys Môn sydd wedi cael eu henwi fel Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol.
Llwybrau cerdded
Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybrau.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Llwybr y Gors
- Gradd: Hygyrch
- Pellter: ¾ milltir/1.2 cilomedr (allan ac yn ôl)
- Amser: 30 muned
- Dringo: gwastad
- Gwybodaeth am y llwybr: Dilynwch yr arwyddbyst glas ar hyd y llwybr pren gwastad, 1.4 medr o led, gan aros am ychydig i fwynhau’r golygfeydd dros y gors. Mae yna feinciau gorffwys bob 300 medr. Ewch yn ôl i'r maes parcio ar hyd yr un llwybr.
Mwynheuwch weld a chlywed adar y gwlyptir yn y gwely cyrs.
Mae yna fywyd gwyllt i'w weld neu glywed drwy’r amser, bob adeg o'r flwyddyn.

Llwybr Cors a Dolydd
- Gradd: Hawdd
- Pellter: 1½ milltir/2.3 cilomedr (allan ac yn ôl)
- Amser: 1 awr
- Dringo: gwastad
- Gwybodaeth am y llwybr: Dilynwch yr arwyddion gwyrdd ar hyd y llwybr pren lle ceir golygfeydd dros y ffeniau, cyn dilyn y llwybr heb wyneb (a all droi’n fwdlyd iawn ar ôl tywydd gwlyb) tua’r dolydd y tu draw. Ceir nifer o feinciau lle gallwch orffwys a mwynhau’r golygfeydd. Ewch yn ôl ar hyd yr un llwybr. Nodwch y gall ceffylau fod yn pori ar y warchodfa.
Mwynheuwch y sioe o flodau gwyllt ar y dolydd yn y gwanwyn a’r haf.

Beth sydd i’w weld ar y Warchodfa Natur Genedlaethol
Mae Cors Bodeilio yn Warchodfa Natur Genedlaethol.
Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.
Mae’r tirlun a’r bywyd gwyllt yn amrywio yn ôl yr adeg o’r flwyddyn – cadwch olwg am y rhain.
Safle rhagorol ar gyfer tegeirianau a blodau prin eraill
Tegeirian y clêr sy’n ennill y wobr fan hyn. Mae’n degeirian prin eithriadol yng Nghymru - gyda math melyn hyd yn oed prinnach wedi’i ganfod yma.
Mae wyth tegeirian arall yma gan gynnwys tegeiria-y-gors culddail, tegeirian pêr y gors, caineirian a chaldrist y gors.
Ymhlith y rhywogaethau ffen nodweddiadol mae’r gorsfrwynen lem a’r hesgen ylfinfain.
Mae planhigion eraill yn ffynnu yma megis y gorsfrwynen ddu, helygen Mair a’r frwynen flaendon.
Cors wych i fwystfilod bach
Rhaid mai’r seren yw’r gele feddyginiaethol brin - yr unig gele Brydeinig gyda dannedd a all frathu trwy groen dynol.
Yn ogystal ceir pryfed prin, chwilod dŵr, gwyfynod ac 19 math o löyn byw.
Yr hawsaf o’r cwbl i’w gweld yw’r gweision neidr a’r mursennod (9 rhywogaeth) sy’n hofran ac yn gwibio ar draws ddyfroedd agored y gors.
Gwelyau cors sy’n lleoedd gwych i adar
Gallwch weld hyd at 130 o rywogaethau adar yma!
Mae’r warchodfa yn llawn bwrlwm yn y gwanwyn a’r haf gyda chân adar fel:
- telor y cyrs
- telor yr hesg
- bras y cyrs
- troellwr bach
- clochdar y cerrig
Hwyrach y gwelwch hefyd y gornchwiglen a’r gylfinir, neu hyd yn oed y gïach cyffredin.
Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru
Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.
Mae tair o’r corstiroedd ar Ynys Môn wedi cael eu henwi fel Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol:
Darganfod mwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol
Darganfod mwy am Brosiect LIFE Corsydd Môn a Llŷn
Ymweld yn ddiogel
Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.
Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.
Sylwer:
- Glynwch wrth y llwybrau pren tra byddwch allan ar y gors gan fod yno dir gwlyb peryglus a phyllau dwfn.
- Dŵr dwfn - cadwch draw o ymyl y dŵr a pheidiwch â nofio.
- Llwybrau mwdlyd mewn tywydd gwlyb – gwisgwch esgidiau gyda gafael da.
- Mae da byw yn pori rhannau o’r llwybrau cerdded – peidiwch â mynd atynt na cheisio eu bwydo; cadwch gŵn dan reolaeth, symudwch o gwmpas y gyr a chaewch y gatiau ar eich ôl.
- Bydd adar gwyllt yn cael eu saethu rhwng mis Medi a mis Chwefror – ufuddhewch i bob
- arwydd.
- Os gwelwch wiber, peidiwch â mynd ati.
Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.
Gwybodaeth hygyrchedd
Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr
Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.
Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.
Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.
Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.</p
Trefnu digwyddiad ar ein tir
Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.
Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.
Sut i gyrraedd yma
Rydym yn argymell eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau hyn neu’n defnyddio’r map Google isod lle mae pin yn nodi’r lleoliad.
Mae Cors Bodeilio 11 milltir i'r gogledd orllewin o Fangor.
Dilynwch yr A4087 o Fangor, tuag at y Goetre.
Ymunwch â'r A5 tuag at Bont Britannia.
Ar ôl ½ milltir, cymerwch yr A5025 gan ddilyn yr arwyddion i Fenllech.
Parhewch am 5 milltir nes cyrraedd Pentraeth.
Yn y pentref, cymerwch y chwith cyntaf ger y swyddfa bost a chwith eto tuag at yr ysgol.
Dilynwch y ffordd gul hon am 1 ¼ milltir ac mae'r maes parcio ar y dde.
Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio yw SH 506 773 (Explorer Map 263).
Y cod post yw LL75 7DR. Sylwer bod y cod post hwn yn cwmpasu ardal eang ac ni fydd yn mynd â chi yn uniongyrchol i’r fynedfa.
Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.
Cludiant cyhoeddus
Y prif orsaf reilffordd agosaf yw Bangor neu Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch (sef stop ar gais).
Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.
Parcio
Mae’r maes parcio yn rhad ac am ddim.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Manylion cyswllt
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.