Parth Cadwraeth Morol Sgomer, ger Aberdaugleddau

Beth sydd yma

Croeso

Mae’r ardal hon sydd ond ychydig oddi ar arfordir sir Benfro mor gyfoethog o ran bywyd planhigion ac anifeiliaid nes ei fod yn meddu ar statws unigryw yng Nghymru.

Mae’r môr o amgylch Ynys Sgomer a Phenrhyn Marloes wedi cael ei ddynodi’n Barth Cadwraeth Forol. Dyma’r unig ddarn o ddŵr yng Nghymru i gael statws o’r fath i’w warchod, ac mae’n cael ei reoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae Ynys Sgomer ei hun hefyd yn Warchodfa Natur Genedlaethol, ac mae’n enwog am yr adar môr a’r bywyd gwyllt sydd yno. Mae’n cael ei rheoli gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru, a gallwch ddysgu mwy am yr ynys ar wefan yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt.

Beth yw Parth Cadwraeth Morol?

Sefydlwyd Parthau Cadwraeth Morol i warchod bywyd gwyllt, cynefinoedd, daeareg a geomorffoleg o bwysigrwydd cenedlaethol mewn dyfroedd oddi ar yr arfordir.

Diolch i’r cyfoeth eithriadol o greaduriaid môr sy’n byw yn y môr oddi ar Ynys Sgomer a Phenrhyn Marloes, dynodwyd yr ardal hon yn Barth Cadwraeth Forol.

Yma, yn y dirwedd amrywiol danfor, mae planhigion, cregyn, pysgod a mamaliaid yn gyd-ddibynnol ar ei gilydd mewn cadwyn fwyd gymhleth.
Mae’r gadwyn fwyd hon yn amrywio o blancton syml i’r morlo llwyd, sy’n cael cuddfan ddiogel ymysg y glannau creigiog a’r traethau cysgodol.
Bydd morloi llwyd yn dod i’r lan yn ystod yr hydref er mwyn geni’u lloi ac efallai y cewch chi gipolwg arnyn nhw ar rai o’r traethau pellennig o gwmpas Penrhyn Marloes.

Mae’r dŵr o gwmpas Sgomer yn gartref i sawl anifail morol arall yn ogystal. Yn eu plith mae dros 100 o fathau gwahanol o sbyngau, 40 rhywogaeth o flodau’r gwynt a chwrel meddal, a hyd yn oed 65 math o wlithen fôr!

Dysgu sut y mae bywyd gwyllt Sgomer yn cael ei warchod.

Ymweld â Pharth Cadwraeth Forol Sgomer

Gallwch ddod i’r Parth Cadwraeth Morol mewn cwch neu o’r tir mawr i Martins Haven.

Pa ffordd bynnag y dewiswch ymweld â ni, helpwch ni i warchod cynefinoedd a bywyd gwyllt rhag cael eu niweidio a’u tarfu os gwelwch yn dda.

  • rhowch flaenoriaeth i fywyd gwyllt bob amser
  • gwnewch yn siŵr eich bod yn ceisio peidio gwneud unrhyw niwed neu darfu, waeth pa mor ddamweiniol
  • os byddwch chi’n tarfu ar adar môr neu forloi, ewch oddi yno’n gyflym ac yn dawel
  • ceisiwch wneud cyn lleied o sŵn â phosib
  • peidiwch â thaflu sbwriel o unrhyw fath

Cyrraedd o’r tir i Martins Haven

Gweithredir maes parcio Martins Haven gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Defnyddiwch y maes parcio os gwelwch yn dda – peidiwch â cheisio gyrru ar y traeth! – ac yna dilynwch y lôn fer ond serth i lawr am y traeth.

Ar eich ffordd i’r traeth, byddwch chi’n pasio ein canolfan arddangosfa forol yn Fisherman’s Cottage. Gallwch ddysgu mwy am fywyd morol y Parth Cadwraeth Morol yma a dysgu ble yw’r mannau gorau ar gyfer gwylio morloi a llamhidyddion.

Gallwch archwilio traeth caregog ac arfordir creigiog Martins Haven neu anelu at yr ardal a elwir yn Barc y Ceirw, sydd ar ben trwyn Penrhyn Marloes.

Rheolir Parc y Ceirw gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac mae ynddo lwybr cylchol ag arwyddbyst i ddangos y ffordd, a rhai golygfeydd godidog i gyfeiriad Ynys Sgomer ac ar draws Bae San Ffraid.

Cerdded

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn darparu llwybrau wedi’u marcio ag arwyddbyst ar hyd tiroedd a reolir ganddo ar Benrhyn Marloes. Gellir cychwyn ar ddau o’r teithiau cerdded hyn o faes parcio Martins Haven.


Ewch â thaflen am y llwybrau oddi wrth y person sy’n gofalu am y maes parcio wrth i chi gyrraedd, neu gallwch ddysgu rhagor ar wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Teithiau mewn cwch i Ynys Sgomer

Bydd cychod yn gadael o Martins Haven i Ynys Sgomer, sydd tua milltir oddi ar yr arfordir, rhwng y Pasg a mis Hydref.

Gallwch fynd ar gwch sy’n glanio ar yr ynys, neu gallwch fynd ar daith o gwmpas yr ynys mewn cwch.

Bydd pob un o’r cychod yn pasio drwy Barth Cadwraeth Forol Sgomer ac fe welwch chi balod, gwylogod, llursod, huganod a morloi ar y creigiau. Os byddwch chi’n ffodus, mae’n bosib y gwelwch chi lamidyddion, dolffiniaid cyffredin a physgod haul.

Rhaid i bob tocyn ymweliad dydd ag Ynys Skomer gael ei archebu ymlaen llaw ac mae cyfyngiad ar nifer yr ymwelwyr bob dydd.

I gael rhagor o wybodaeth am ymweld ag Ynys Skomer ac i archebu tocynnau ar-lein, ewch i wefan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru.

Cyrraedd mewn cwch (iot, cwch modur, cychod plymio a chaiac)

Mae Parth Cadwraeth Morol Sgomer yn lle gwych i ymweld ag ef a chwilota ynddo ar y dŵr.

Gellir defnyddio’r angorfeydd i ymwelwyr yn North Haven yn rhad ac am ddim.

Gallwch hefyd angori ar ochr ogleddol yr angorfeydd ac yn South Haven.

Os gwelwch yn dda:

  • byddwch yn ymwybodol o ardaloedd sy’n gyfyngedig yn ystod cyfnodau paru adar môr a thymhorau bwrw lloi morloi, ac osgowch darfu arnynt
  • sylwch ar y rheoliadau i ddefnyddwyr a ddatblygwyd er mwyn rhoi cyfle i bob defnyddiwr fwynhau’r safle a tharfu cyn lleied â phosib ar y bywyd gwyllt

Plymio

Mae sawl lle rhyfeddol i blymio iddo ym Mharth Cadwraeth Forol Sgomer, o riffiau sy’n cael eu sgubo gan y llanw, i draethau cysgodol a llongddrylliadau.

Dylai pob plymiwr:

Mae croeso i glybiau ddod i blymio yma ond dylent gynllunio’r plymio y bwriedir ei wneud ganddynt gan ddefnyddio gwybodaeth am ddiogelwch a rheoliadau i ddefnyddwyr.

Mae Martins Haven hefyd yn safle poblogaidd ar gyfer plymio o’r lan. Am fod yr ardal hon yn brysur o ran cychod, defnyddiwch fwi marcio ar yr arwyneb os gwelwch yn dda.

Pysgota môr

Parciwch ym maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym Martins Haven os gwelwch yn dda. Gallwch gael mynediad oddi yma i sawl safle pysgota poblogaidd ar Benrhyn Marloes.

  • I gael cynghorion i’ch helpu i leihau colli offer wrth bysgota ym Martins Haven, gweler y daflen Cynghorion Pysgota. Cafodd y daflen hon ei chynhyrchu gan Neptune’s Army of Rubbish Cleaners, grŵp gwirfoddol o blymwyr sydd ar dân dros gadw amgylchedd tanddwr sir Benfro mewn cyflwr dilychwin
  • Peidiwch â gadael dim sbwriel ar eich ôl os gwelwch yn dda – ceir biniau pysgota ar gyfer offer sydd wedi torri neu sy’n strae ym Martins Haven
  • Glynwch wrth y rheoliadau i ddefnyddwyr os gwelwch yn dda

Amserau agor

Darllenwch y wybodaeth ar frig y dudalen hon i ganfod a oes newidiadau i'r amserau agor.

Mae’r ganolfan arddangos forol yn Fisherman’s Cottage, Martins Haven ar agor 9.00 – 5.00 bob dydd rhwng y Pasg a diwedd mis Hydref.

Bydd gwasanaethau fferi wedi’u hamserlennu’n gadael o Martins Haven rhwng y Pasg a mis Hydref (yn ddibynnol ar y tywydd).

Sut i ddod yma

Lleoliad

Mae Martins Haven dair milltir i’r dwyrain o bentref Marloes.

Mae yn Sir Benfro.

Map Arolwg Ordnans

Mae Parth Cadwraeth Morol Sgomer ar fap Arolwg Ordnans (AR) OL 36.

Y cyfeirnod grid OS grid yw SM 761 090.

Cyfarwyddiadau

Ewch ar y B4327 o Hwlffordd. Ar ôl tua 12 milltir, cymerwch y ffordd fach i bentref Marloes.

Ewch drwy’r pentref a dilynwch y ffordd am ddwy filltir arall i Martins Haven.

Parciwch ym maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Defnyddiwch y maes parcio os gwelwch yn dda – peidiwch â cheisio gyrru ar y traeth.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Mae llwybr bws arfordirol 400 y ‘Pâl Gwibio’ yn mynd o Dyddewi i Farloes.

I weld amserlenni ewch i wefan Cyngor Sir Penfro.

Am ragor o fanylion am drafnidiaeth gyhoeddus ewch i Traveline Cymru.

Maes parcio

Gweithredir maes parcio Martins Haven gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Codir tâl am barcio.

Defnyddiwch y maes parcio os gwelwch yn dda – peidiwch â cheisio gyrru ar y traeth.

Dysgu mwy

Manylion cyswllt

0300 065 3000

ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Mannau eraill yng De Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf