Gwarchodfa Natur Genedlaethol Ystagbwll, ger Penfro

Croeso

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Ystagbwll yn ne Sir Benfro.

Mae tirwedd amrywiol y warchodfa yn cynnwys y llynnoedd dŵr croyw a bas yn Bosherston, coetiroedd, twyni, clogwyni carreg galch a thraethau.

Beth sydd i’w weld ar y Warchodfa Natur Genedlaethol

Mae Ystagbwll yn Warchodfa Natur Genedlaethol.

Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.

Y clogwyni a’r traethau

Mae’r clogwyni’n dangos daeareg Ystagbwll.

Uwchlaw’r clogwyni mae gwastatir carreg galch a godwyd o wely’r môr tua 50 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Edrychwch yn ofalus ac fe welwch fand o graig oleuach, olion cywasgedig hen draeth hynafol a ffurfiwyd pan oedd lefel y môr yn llawer uwch.

Mae dau o draethau gorau Sir Benfro – y cildraethau cysgodol yn Broadhaven a Bae Barafundle – hefyd yn y warchodfa.

Y twyni a’r llynnoedd

Mae Ystagbwll yn ardal o laswelltir carreg galch a hen laswelltir twyni hynafol a grëwyd yn ystod y pumed a’r chweched ganrif.

Mae’r ardal wedi’i therfynu gan brysgwydd a choetir ac, yn y Gwanwyn, mae’n llawn o sŵn adar yn trydar a blodau a gloÿnnod byw.

Crëwyd Llynnoedd Bosherston mewn dyffrynnoedd yn y garreg galch yn y 18fed a’r 19eg ganrif gan y teulu Campbell o Gastell Cawdor, perchnogion Ystâd Ystagbwll tan 1976.

Mae wyneb tawel y llynnoedd wedi’i addurno â blodau’r lili ddŵr wen yn yr haf, ynghyd â gwelyau o rawn yr ebol, planhigion gwyrdd llachar:mae’r rhain yn tyfu’n arbennig yn y dyfroedd clir fel grisial, llawn calch sydd yma.

Bywyd gwyllt

Mae Ystagbwll yn fangre ar gyfer amryw o rywogaethau, gan gynnwys un o’r poblogaethau mwyaf ym Mhrydain o’r ystlum pedol mwyaf prin.

Mae’r llynnoedd yn gyforiog o fywyd gwyllt, yn enwedig dyfrgwn, adar dŵr a gweision neidr.

Mae'r clogwyni carreg galch, y twyni a’r glaswelltir morol yn cynnal gwahanol fathau o blanhigion ac anifeiliaid arbennig.

Mae’r rhain yn cynnwys cennau bychain sy’n glynu wrth bridd a chraig, amryw o blanhigion blodeuog, pryfed prin a phoblogaethau magu o’r frân goesgoch ac adar môr cytrefol.

Uchafbwyntiau'r tymor

Mae’r tirlun a’r bywyd gwyllt yn amrywio yn ôl yr adeg o’r flwyddyn – cadwch olwg am y rhain.

Y gwanwyn

Wrth i'r dyddiau fynd yn hirach, mae'r coetiroedd yn dod yn fyw gyda thegeirianau porffor, briallu a garlleg gwyllt.

Yn y gwelltiroedd a'r twyni tywod, mae golygfa hardd o serennyn y gaeaf a briallu Mair.  Mae clustog Fair yn blodeuo ar y clogwyni ac mae gold y gors yn creu clystyrau melyn llachar ar ymyl y llynnoedd.

Mae'r clogwyni yn gartref i lawer o adar y môr, megis brain coesgoch, gwylogod, gweilch y penwaig a hyd yn oed rhai palod.

Efallai y byddwch hefyd yn gweld ystlumod gyda'r nos, neu'n bwyta pryfed dros y llyn.

Yr haf

Mae'r coetiroedd yn gartref i'r glöyn byw brith arian, tra gellir gweld gloÿnnod byw eraill megis y brith gwyrdd tywyll, glas cyffredin a brown ar y gwelltiroedd a'r twyni tywod.

Mae amrywiaeth o flodau gwyllt i'w gweld yn y warchodfa yn ystod yr haf.  Mae tegeirian gwenynog, tegeirian smotiog cyffredin a theim gwyllt yn ymddangos yn y gwelltiroedd tra bod y lili dŵr gwyn i'w gweld ar y llynnoedd. Mae clustog Fair yn dal i flodeuo ar y clogwyni, yn ogystal â sampier euraidd a theim gwyllt.

Gellir clywed ehedyddion yn canu uwchben a gellir gweld teloriaid y gors ar y llynnoedd.

Fel yn ystod y gwanwyn, mae'r clogwyni yn frith o adar y môr, o frain coesgoch i wylogod, gweilch y penwaig i balod.

Yr hydref

Wrth i'r tywydd oeri, mae'r gwelltir yn frith o ffwng cap cwyr ac mae ffrwythau pinc unigryw yn ymddangos ar y coed gwerthyd.

Y gaeaf

Mae digon i'w weld yn Ystagbwll yn ystod y gaeaf.

Gyda chwyrwiail lliwgar ar ffin y dŵr, mae'r llynnoedd yn lle da i weld amrywiaeth eang o adar sy'n gaeafu ac adar eraill:

  • cwtieir
  • y gors-hwyaden lwyd
  • hwyaid danheddog
  • hwyaid copog
  • adar y bwn llygad aur
  • corhwyaid

Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru

Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.

Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.

Ymweld ag Ystagbwll

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n berchen ar ac sy’n rhedeg y warchodfa mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru.

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n rheoli’r meysydd parcio a’r holl gyfleusterau ar gyfer ymwelwyr.

Cynlluniwch eich ymweliad ymlaen llaw drwy ddarllen yr wybodaeth ddiweddaraf ar wefan Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Mannau eraill yng De Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf