Parc Coedwig Afan – Canolfan Ymwelwyr, ger Port Talbot
Prif fan cychwyn llwybrau beicio mynydd a llwybrau...
Mae Coed Pen-y-Bedd yn lle gwych i fynd am dro hamddenol ac mae'n safle picnic poblogaidd ger arfordir Sir Gaerfyrddin.
Tir fferm oedd yr ardal hon ar un adeg, ger safle Ffatri Arfau’r Goron a gaewyd yn y 1960au.
Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded drwy’r coetir ac mae’n dilyn y rheilffordd nas defnyddir erbyn hyn.
Mae'r ardal bicnic welltog fawr wrth ymyl y maes parcio ac mae tair o feinciau picnic yno.
Mae'r coetir yn gartref i Ymddiriedolaeth Gadwraeth Pen-bre, sy'n cyflawni llawer o dasgau ymarferol yma ac yng nghoedwig gyfagos Pen-bre.
Ychydig i lawr y ffordd mae Parc Gwledig Pen-bre, sy'n cynnig amrywiaeth o weithgareddau hamdden.
Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Dilynwch y daith gerdded hamddenol hon ar lwybrau tywodlyd heibio coed pinwydd Corsica mawreddog i ardal wylio a wnaed o ddecin, sy’n edrych dros bwll.
Mae rhan o'r llwybr yn dilyn yr hen reilffordd a oedd ar un adeg yn gwasanaethu Ffatri Arfau’r Goron, a chewch gipolwg drwy’r coed dros gaeau a ffermdai.
Mae'r llwybr yn dychwelyd i'r maes parcio drwy goetir cymysg.
Mae'r daith pellter hir hon, sy’n 64 milltir/103 cilomedr o ran hyd, yn mynd trwy Goed Pen-y-Bedd a gellir ymuno â hi o’r maes parcio.
Mae'n dechrau ym Mharc Gwledig Pen-bre ac yn mynd trwy ardaloedd gwledig dwyrain Sir Gaerfyrddin a Chastell-nedd Port Talbot gan ddod i ben ym Mharc Gwledig Margam, i'r de o Bort Talbot.
Sant Cymreig o flynyddoedd cynnar y chweched ganrif oedd Sant Illtud (neu Illtyd), a sefydlodd abaty ac ysgol gyntaf Prydain, o bosibl, yn Llanilltud Fawr.
I gael rhagor o wybodaeth am daith gerdded Sant Illtud, ewch i wefan Cymdeithas y Cerddwyr Pellter Hir.
Mae Coed Pen-y-Bedd wedi’i leoli ychydig tu allan i Barc Gwledig Pen-bre, sy’n boblogaidd ac yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau hamdden.
Ceir mynediad i draeth hir tywodlyd Cefn Sidan o’r parc gwledig ac mae’n cael ei ffinio gan Goedwig Pen-bre lle gallwch ddilyn ein llwybr cerdded Pinwydd a Sieliau.
Am fwy o wybodaeth am y parc gwledig ewch i wefan Parc Gwledig Pen-bre.
Mae Coed Pen-y-Bedd yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:
Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.
Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.
Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.
Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.
Lleolir Coedwig Pen-y-Bedd 7 milltir i’r gorllewin o Lanelli.
Mae yn Sir Gaerfyrddin.
Mae Coed Pen-y-Bedd ar fap Arolwg Ordnans (AR) 164 neu 178.
Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans yw SN 419 013.
Dilynwch yr arwyddion twristiaeth brown a gwyn, ar hyd Heol Ffatri, o’r A484 rhwng Caerfyrddin a Llanelli, i gyrraedd Parc Gwledig Pen-bre.
Mae’r fynedfa i’r maes parcio ar y dde, dros y bont ar ôl gadael yr A484.
Y prif orsaf/oedd rheilffyrdd agosaf yw Pen-bre a Phorth Tywyn.
I gael manylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae parcio’n ddi-dâl.
Gall y maes parcio fynd yn llawn ar adegau prysur.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.