Coedwig Brechfa – Abergorlech, ger Caerfyrddin

Beth sydd yma

Mae Llwybr Gorlech a Llwybr yr Ardd Goedwig wedi cael eu dargyfeirio oherwydd tirlithriad.

 

Dilynwch yr holl gyfarwyddiadau a’r gwyriadau sydd wedi’u harwyddo ar y safle.

Croeso

Mae Abergorlech yn gartref i safle picnic a lle chwarae i blant mewn ardal goediog lle mae afonydd Gorlech a Chothi’n cwrdd.

Daethpwyd o hyd i gerrig siâp rhyfedd yn yr afon, ac fe welir enghreifftiau o’r Cerrig Gorlech hyn yng ngerddi ffrynt rhai o’r bythynnod yn y pentrefi.

Pob blwyddyn mae sewin (brithyll môr) ac eogiaid yn nofio i fyny afon Gorlech i fwrw grawn.

Mae tri llwybr arwyddbyst o Abergorlech, ac mae un yn mynd i Ardd Coedwig Brechfa.

Mae toiledau cludadwy yn y maes parcio.

Llwybrau cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Glan yr Afon

  • Gradd: Hawdd
  • Pellter: 1 milltir/1.7 km

Mae’r llwybr mwy neu lai gwastad hwn drwy’r coed yn mynd ar hyd glan hyfryd Afon Gorlech a thros bont fwa cyn dychwelyd ar hyd y ffordd goedwigaeth.

Llwybr Gorlech

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 3.5 milltir/5.7 km

Mae’r llwybr braf hwn yn dilyn Afon Gorlech ar hyd ffyrdd coedwigaeth cyn croesi pont fechan i gyrraedd llwybr cyn dringo’n serth drwy goetiroedd aeddfed o goed llydanddail cymysg a chonwydd.

Llwybr yr Ardd Goedwig

  • Gradd: Anodd
  • Pellter: 5 milltir/8.3 km

Mae’r llwybr hwn yn mynd i Ardd Goedwig Brechfa.

Mae’r ardd goedwig yn cynnwys hanner y rhywogaethau coed sy’n gallu tyfu yn Ynysoedd Prydain. Cawsant eu plannu gan y Comisiwn Coedwigaeth yn y ganrif ddiwethaf i asesu pa mor dda oedden nhw’n tyfu ym Mhrydain.

Llwybr beicio mynydd

Mae arwyddbyst i’w cael ar bob un o’n llwybrau beicio mynydd o’r dechrau i’r diwedd ac maent wedi’u graddio’n ôl eu hanhawster.

Ceir panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr – dylech ei ddarllen cyn cychwyn ar eich taith.

Llwybr Gorlech

  • Gradd: Coch (anodd)
  • Pellter: 19 km
  • Man cychwyn amgen: Maes parcio Coed Sifigwm (Cyfeirnod grid OS: SN 553 395; ar lôn fach oddi ar y B4337, hanner milltir o bentref Rhydcymerau)

Mae’r llwybr hwn yn llwybr caled, cyflym, pob tywydd sy’n dod yn fwyfwy cyffrous wrth i chi wella lefel eich sgil a’ch cyflymdra.

Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys llwybrau arglawdd wedi eu llunio’n berffaith, neidiau, troadau siarp a phonciau pen-bwrdd.

Gardd Goedwig Brechfa

Cafodd yr ardd hon ei chreu gan staff y Comisiwn Coedwigaeth ar ddiwedd y 1950au a dechrau’r 1960au (gyda’r plannu mwyaf diweddar yn 2004).

Plannwyd amrywiaeth o goed, conwydd yn bennaf, i asesu pa mor addas oeddent i’w defnyddio i bwrpas coedwigaeth ym Mhrydain.

Mae llawer o’r coed hyn wedi aeddfedu erbyn heddiw a bellach yn creu arboretwm go wahanol oherwydd, yn lle un neu ddwy goeden o bob math, mae yma lwyni cyfan o goed o bob rhan o’r byd.

Maent yn cynnwys:

  • cochwydd cawraidd o Galiffornia
  • coed ewcalyptws o Awstralia; nothoffagws o Dde America
  • coed ffynidwydd o bob cyfandir
  • amrywiaeth o rywogaethau Ewropeaidd fel y dderwen ddigoes, y gneuen Ffrengig a choed sbriws

Gallwch gyrraedd Gardd Goedwig Brechfa ar Lwybr yr Ardd Goedwig.

Coedwig Brechfa

Coedwig Brechfa yw’r enw modern ar ran o Goedwig hynafol Glyn Cothi.

Roedd Coedwig Glyn Cothi’n cael ei rhedeg am ganrifoedd gan bobl leol i ddarparu deunyddiau adeiladu, gwahanol gynhyrchion a thir pori.

Ym 1283, ar ôl i Gymru gael ei gorchfygu’n derfynol gan Edward I, daeth Glyn Cothi’n Goedwig Frenhinol dan weinyddiaeth Cyfraith y Fforest am ganrifoedd lawer.

Ers y dyddiau hynny mae coedwig dra gwahanol wedi tyfu. Yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif, ailblannwyd Coedwig Brechfa’n goed conwydd gan y Comisiwn Coedwigaeth i hybu cronfa bren Prydain ar ôl y defnydd trwm o bren yn y Rhyfel Mawr.

Heddiw mae Coedwig Brechfa’n gorchuddio tua 6500 hectar ac yn cael ei rhedeg gan Cyfoeth Naturiol Cymru er budd pobl, bywyd gwyllt ac i gynhyrchu pren.

Mae yma lwybrau cerdded a beicio mynydd o'r meysydd parcio Coed Allt Byrgwm a Keepers a Gwarallt.

Mae croeso i bobl fynd ar gefn ceffyl ar ffyrdd y goedwig.

Coedwig Genedlaethol Cymru

Mae Coedwig Brechfa yn ffurfio rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:

  • creu ardaloedd o goetir newydd
  • gwella coetiroedd sy’n bodoli eisoes
  • adfer coetiroedd hynafol unigryw Cymru.

Ymhen amser bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cysylltiedig a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru ac yn dod â buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

I gael rhagor o wybodaeth am Goedwig Genedlaethol Cymru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.

Amseroedd agor

Darllenwch y wybodaeth ar frig y dudalen hon i ganfod a oes newidiadau i'r amserau agor.

Portalŵs yw’r toiledau, sy’n agored bob amser.

Cau a dargyfeirio

Sylwch:

  • Weithiau, rhaid inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er eich diogelwch tra byddwn yn mynd i’r afael â gwaith cynnal a chadw neu weithrediadau coedwig
  • O dro i dro, efallai y bydd yn rhaid inni gau safle mewn tywydd eithafol, fel gwyntoedd cryfion neu eira a rhew, oherwydd y perygl posibl i ymwelwyr a staff
  • Cofiwch ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a welwch ar y safle, a gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro sydd mewn grym

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Abergorlech yn bentref bychan ar y B4310 i’r de o Lambed.

Mae yn Sir Gaerfyrddin.

Map Arolwg Ordnans

Mae Abergorlech ar fap Arolwg Ordnans (AR) 186.

Y cyfeirnod grid OS yw SN 586 337.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Mae’r orsaf drên agosaf yng Nghaerfyrddin.

Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Cyfarwyddiadau

O’r A482 rhwng Llambed a Llanymddyfri, trowch ar y B4302 i gyfeiriad Llansawel.

O Lansawel dilynwch yr arwyddion am Abergorlech.

Maes parcio

Gallwch barcio yno am ddim.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Ffôn: 0300 065 3000

E-bost: ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng De Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf