Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Coetiroedd Talyllychau, ger Llanymddyfri

Dringfa serth i fyny bryn coediog, lle ceir golygfeydd o adfeilion hen abaty

Cwm Talyllychau

Beth sydd yma

Cŵn
Llwybr cerdded

Trosolwg

Abaty TalyllchauMae Coetiroedd Talyllychau’n edrych dros bentref hanesyddol yn Nyffryn Cothi yn sir Gaerfyrddin.

Tyfodd pentref Talyllychau o gwmpas yr abaty a sefydlwyd yn y 12fed ganrif.

Diddymwyd y fynachlog gan Harri‘r Wythfed a defnyddiwyd y garreg i adeiladu rhan sylweddol o’r pentref presennol, gan gynnwys y capel.

Ceir golygfeydd o adfeilion yr abaty, sy’n cael eu cynnal a’u cadw gan Cadw, o’r tri llwybr cerdded.

Llwybrau cerdded

Golygfa dros DallyllchauMae pob un o’r llwybrau cerdded yn cynnwys rhannau serth.

Mae’r holl lwybrau wedi cael eu harwyddo a phob un yn cychwyn o’r gilfan barcio fechan ger y fynedfa i'r coetir, y tu draw i faes parcio’r abaty.

Mae’r llwybrau cerdded hyn i gyd yn cynnwys dringfa serth ac yn eich arwain at olygfan, lle ceir mainc i fwynhau’r golygfeydd.

Llwybr Coed Mawr

1¼ milltir, 2.2 km, anodd

Mae’r llwybr hwn yn mynd drwy hen blanhigfa goed sy’n gartref i goed deri, ynn, pinwydd a sbriws enfawr.

Llwybr Golygfeydd Talyllychau

1¾ milltir, 2.9 km, anodd

Mae’r drofa serth hon yn dilyn llwybr igam ogam sy’n dringo i ben bryn eithinog. Mae’n rhoi golygfeydd o bentref Talyllychau a Dyffryn Cothi.

Llwybr Cwm yr Efail

2½ milltir, 4 km, anodd

Mae hwn yn llwybr serth sy’n dringo drwy’r hen blanhigfa goed ac yn dychwelyd i lawr bryn eithinog.

Coetiroedd eraill yn ardal Llanymddyfri

Teulu yng Nghm RhaeadrMae’r coetiroedd a’r coedwigoedd o gwmpas tref Llanymddyfri’n amrywio’n aruthrol o ran cymeriad ond i gyd yn cynnig amrywiaeth o safleoedd picnic a theithiau cerdded byr i ymwelwyr.

Plannwyd llawer ohonynt yn wreiddiol gan y Comisiwn Coedwigaeth i gynhyrchu pren.

Erbyn heddiw mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n gofalu amdanynt i bobl gael eu mwynhau ac i fywyd gwyllt fyw ynddynt, a hefyd i gynhyrchu pren o hyd.

Lleolir y coetiroedd a’r coedwigoedd hyn yn ardal Llanymddyfri yn ogystal â Choedwig Talyllychau:

  • Coedwig Cwm Rhaeadr – coetir anghysbell a safle picnic yng Nghwm Tywi Uchaf
  • Coedwig Irfon – lle gallwch gerdded ar hyd llwybr hawdd a gwastad ar lan Afon Irfon
  • Coedwig Caeo – coetir sy’n lledu allan i'r ucheldir fry uwchben pentref Caeo
  • Coedwig Cilgwyn – coetir bychan gyda chymysgedd hyfryd o goed
  • Coed Pen Arthur – coedwig fawr gyda chymysgedd dymunol o goed conwydd a choed llydanddail brodorol

Cau a dargyfeirio

Sylwch:

  • Weithiau, rhaid inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er eich diogelwch tra byddwn yn mynd i’r afael â gwaith cynnal a chadw neu weithrediadau coedwig
  • O dro i dro, efallai y bydd yn rhaid inni gau safle mewn tywydd eithafol, fel gwyntoedd cryfion neu eira a rhew, oherwydd y perygl posibl i ymwelwyr a staff
  • Cofiwch ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a welwch ar y safle, a gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro sydd mewn grym

Sut i gyrraedd yma

Mae Coetiroedd Talyllychau 12 milltir i'r gorllewin o Lanymddyfri.

Gallwch barcio mewn cilfan barcio wrth y fynedfa i’r coed.

Cyfarwyddiadau

O’r A482 rhwng Llambed a Llanymddyfri cymrwch y B4302 i Dalyllychau a Llandeilo. Wrth gyrraedd Talyllychau dilynwch yr arwyddion am Abaty Talyllychau gan barcio’n sensitif yn y gilfan barcio wrth y fynedfa i’r coed, ychydig yr ochr draw i faes parcio’r abaty.

Y cyfeirnod grid OS yw SN 631 329.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Mae’r orsaf drên agosaf yn Llandeilo.

Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru

Darganfod mwy

Manylion cyswllt

Ffôn: 0300 065 3000

E-bost: ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Archwilio mwy

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.