Parc Coedwig Afan – Canolfan Ymwelwyr, ger Port Talbot
Prif fan cychwyn llwybrau beicio mynydd a llwybrau...
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Corsydd Llangloffan yn rhan o’r gorlifdir mwyaf yn Sir Benfro.
Mae amrywiaeth eang o blanhigion a bywyd gwyllt yn cael eu cynnal gan gynefinoedd y warchodfa o gors galchog ddwys a siglenni cyrs, coetiroedd gwlyb a glaswelltir corsiog.
Datblygodd y gymysgedd hon o gynefinoedd ar ôl i’r afon a oedd yn llifo drwy’r dyffryn ar un adeg gael ei gorfodi i ffurfio cwrs newydd tua 12,000 mlynedd yn ôl ar ôl i rewlif ollwng clai a deunyddiau eraill yma.
Rydym yn gofalu am y cynefin hwn o wlyptir drwy beidio â chaniatáu i lefel y dŵr fyth syrthio’n rhy isel, ac rydym yn caniatáu i wartheg a merlod bori’r gors galchog yn yr haf a’r hydref i reoli’r llystyfiant.
Y ffordd orau o ganfod y dirwedd arbennig hon yw drwy ddilyn y llwybr pren sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn dros ran o’r warchodfa.
Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Darganfyddwch y gors galchog, y siglen a’r coetir gwlyb ar ein llwybr pren hygyrch.
Yn rhannau gwlypaf y warchodfa, mae blodau lliw hufen prydferth yr erwain yn llenwi’r awyr yn yr haf gyda’u harogl hyfryd wrth iddyn nhw wthio drwy’r cyrs a’r hesg. Cadwch lygad hefyd am:
Mae teimlad hynafol i’r coetir gwlyb, mae ei choed wedi eu gorchuddio gan fwsoglau melfedaidd a chennau arian. Ymhlith y planhigion eraill sydd yma mae:
Ar hyd yr afon ceir:
Ymhlith yr adar y gellid eu gweld neu eu clywed mae:
Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.
Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.
Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.
Mae rhan orllewinol Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Galchog Llangloffan yn cael ei rheoli gan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru.
Ceir llwybr cylchol yn y rhan hon o’r warchodfa sy’n arwain o’r lle parcio ar ffordd B4331 hyd at guddfan adar sy’n edrych dros ardal o ddŵr agored.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru.
Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.
Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.
Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Galchog Llangloffan 6 ½ milltir i’r de orllewin o Abergwaun.
Mae yn Sir Benfro.
Mae Corsydd Llangloffan ar fap Arolwg Ordnans (AO) OL35.
Y cyfeirnod grid AO yw SM 904 319.
O Abergwaun dilynwch yr A487 i gyfeiriad Tyddewi.
Trowch yn sydyn i’r chwith i ffordd B4331 sydd wedi’i harwyddo Casmorys.
Ewch heibio maes parcio Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru ar y chwith a chymryd y tro nesaf i’r chwith ar y groesffordd, sydd wedi’i harwyddo Croes Cas-lai.
Dilynwch yr isffordd hon am ¼ milltir ac mae’r gilfan barcio a mynedfa’r warchodfa ar y dde, yn union cyn i’r ffordd groesi pont garreg.
Yr orsaf reilffordd prif linell agosaf yw Abergwaun ac Wdig.
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Gellir parcio mewn cilfan.
Mae parcio’n ddi-dâl.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.