Coedwig Brechfa – Abergorlech, ger Caerfyrddin
Llwybrau drwy’r coed, llwybr beicio mynydd ac...
Dau dro byr drwy'r goedwig
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor ond, o dan y cyfyngiadau coronafeirws presennol yng Nghymru, bwriedir i’r rhain gael eu defnyddio gan bobl sy’n byw yn lleol yn unig.
Fe’ch cynghorir – yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru – i beidio â gyrru i unrhyw un o’n safleoedd i wneud ymarfer corff, oni bai fod gennych reswm dilys, megis cyflwr iechyd neu broblemau symudedd.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Coedwig Brechfa yw’r enw modern ar ran o Goedwig hynafol Glyn Cothi.
Roedd Coedwig Glyn Cothi’n cael ei rhedeg am ganrifoedd gan bobl leol i ddarparu deunyddiau adeiladu, gwahanol gynhyrchion a thir pori.
Ym 1283, ar ôl i Gymru gael ei gorchfygu’n derfynol gan Edward I, daeth Glyn Cothi’n Goedwig Frenhinol dan weinyddiaeth Cyfraith y Fforest am ganrifoedd lawer.
Ers y dyddiau hynny mae coedwig dra gwahanol wedi tyfu. Yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif, ailblannwyd Coedwig Brechfa’n goed conwydd gan y Comisiwn Coedwigaeth i hybu cronfa bren Prydain ar ôl y defnydd trwm o bren yn y Rhyfel Mawr.
Heddiw mae Coedwig Brechfa’n gorchuddio tua 6500 hectar ac yn cael ei rhedeg gan Cyfoeth Naturiol Cymru er budd pobl, bywyd gwyllt ac i gynhyrchu pren.
Y meysydd parcio yn Keepers a Gwarallt yw’r man cychwyn ar gyfer dau lwybr cerdded byr gydag arwyddbyst.
Mae Coed Abergorlech a Choed Allt Byrgwm hefyd yn fan cychwyn ar gyfer mwy o lwybrau cerdded a thri llwybr beicio mynydd yng Nghoedwig Brechfa.
Mae gan y llwybrau cerdded arwyddbyst ac yn cychwyn o’r meysydd parcio.
1.5 milltir, 2.5 km
Nid yw’r llwybr dymunol hwn drwy’r coed byth yn bell o ddŵr ac mae’n croesi amryw o bontydd.
0.25 milltir, 450 metr
Grŵp cymunedol lleol, Pobl y Fforest, a greodd y llwybr byr ond dymunol hwn gydag arian gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru.
Dyluniwyd Llwybr Gwarallt ar gyfer cadeiriau olwyn ond mae’n golygu dringo’n raddol am 100 troedfedd / 30 metr. Mae’n 0.25 milltir / 450 metr o hyd ac yn cychwyn o faes parcio Gwarallt.
Gallwch gyrraedd meysydd parcio Keepers a Gwarallt o’r A40.
Maen yn Sir Gaerfyrddin.
Mae parcio am ddim yn y meysydd parcio hyn.
Lawrlwythwch fap o’r lleoliad.
Cymrwch yr A40 o Landeilo tuag at Gaerfyrddin ac, ym Mhontargothi, trowch i’r dde ar y B4310 i gyfeiriad pentref Brechfa. Ym Mrechfa trowch i’r chwith wrth Swyddfa’r Post ac mae’r ddau faes parcio ar hyd y ffordd hon, tua 600 metr ar wahân.
Y cyfeirnod grid OS ar gyfer maes parcio Keepers yw SN 523 319.
Y cyfeirnod grid OS ar gyfer maes parcio Gwarallt yw SN 520 322.
Mae’r orsaf drên agosaf yng Nghaerfyrddin. Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i www.cymraeg.traveline.cymru
Sylwch:
Ffôn: 0300 065 3000