Cwm Rhaeadr, ger Llanymddyfri

Beth sydd yma

Croeso

Coetir anghysbell gyda safle picnic yng Nghwm Tywi Uchaf yn Sir Gaerfyrddin yw Cwm Rhaeadr.

Coetir cymysg yw hwn sy’n cynnwys coed llydanddail brodorol a chonwydd estron.

Cafodd y ­ffynidwydd Douglas mawr yma eu plannu yn 1947. Coed ifanc yw’r rhain o gymharu â’r coed anferth sy’n tyfu yn eu cynefin naturiol ar arfordiroedd gorllewinol Gogledd America.

Uchafbwynt y coetir yw’r olygfa o’r rhaeadr, sef y rhaeadr uchaf yn Sir Gaerfyrddin, wrth iddi arllwys oddi ar Fynydd Mallaen.

Gallwch gael cip arni ar hyd Llwybr y Rhaeadr drwy’r coed.

Mae yma hefyd lwybr byrrach, sy’n addas i rai o bob gallu a llwybr beicio mynydd i feicwyr profiadol.

Llwybrau cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Hygyrch Cwm Rhaeadr

  • Grade: Hygyrch
  • Distance: ¾ milltir/1.3 km

Mae’r llwybr hwn drwy’r coed yn addas i rai mewn cadeiriau olwyn.

Mae'n mynd heibio i ddau bwll dŵr sy’n llecyn poblogaidd i weld gweision y neidr ddiwedd yr haf.

Llwybr y Rhaeadr

  • Grade: Cymedrol
  • Pellter: 2½ milltir/4 km

Mae Llwybr y Rhaeadr yn mynd â chi ar hyd gwaelod y dyffryn gan gynnig ambell i gip ar y rhaeadr drwy’r coed.

Mae yma hefyd nifer o draciau cysylltu sy'n rhoi dewis o lwybrau eraill, byrrach.

Llwybr beicio mynydd

Mae arwyddbyst i’w cael ar bob un o’n llwybrau beicio mynydd o’r dechrau i’r diwedd ac maent wedi’u graddio’n ôl eu hanhawster.

Ceir panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr – dylech ei ddarllen cyn cychwyn ar eich taith.

Llwybr Cwm Rhaeadr

  • Gradd: Coch (anodd)
  • Pellter: 6.7 km

Mae gan y llwybr beicio mynydd Cwm Rhaeadr arwyddbyst ac mae’n cychwyn o’r maes parcio.

Mae Llwybr Beicio Mynydd Cwm Rhaeadr yn cynnig beicio untrac gwych, gan gynnwys llwybr goriwaered dros gefnen greigiog, a golygfeydd ysblennydd dros y dyffryn a’r rhaeadr hardd.

Gwybodaeth am fynediad

Mae’r Llwybr Pob Gallu yn addas i rai mewn cadeiriau olwyn.

Mae’n dri chwarter milltir o hyd a’i ddarn mwyaf serth yw 1/20.

Cau a dargyfeirio

Sylwch:

  • Weithiau, rhaid inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er eich diogelwch tra byddwn yn mynd i’r afael â gwaith cynnal a chadw neu weithrediadau coedwig
  • O dro i dro, efallai y bydd yn rhaid inni gau safle mewn tywydd eithafol, fel gwyntoedd cryfion neu eira a rhew, oherwydd y perygl posibl i ymwelwyr a staff
  • Cofiwch ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a welwch ar y safle, a gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro sydd mewn grym

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Cwm Rhaeadr wrth ymyl Llanymddyfri a thua milltir i’r gogledd o bentref Cilycwm.

Mae yn Sir Gaerfyrddin.

Map Arolwg Ordnans

Mae Cwm Rhaeadr ar fap Arolwg Ordnans (AR) 187.

Y cyfeirnod grid OS yw SN 765 423.

Cyfarwyddiadau

Dilynwch yr arwyddion am Gilycwm o’r A482 neu’r A483 ac yna ewch ymlaen i gyfeiriad y gogledd allan o Gilycwm tuag at Gronfa Ddŵr Llyn Brianne nes cyrraedd yr arwydd am Gwm Rhaeadr.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Mae’r orsaf drên agosaf yn Llanymddyfri.

Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Maes parcio

Gallwch barcio yno am ddim.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Ffôn: 0300 065 3000

E-bost: ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Map lleoliad PDF [935.0 KB]

Mannau eraill yng Canolbarth Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf