Coetiroedd Talyllychau, ger Llanymddyfri

Beth sydd yma

Croeso

Mae Coetiroedd Talyllychau’n edrych dros un o bentrefi hanesyddol Sir Gaerfyrddin a ffurfiodd o gwmpas abaty.

Ceir golygfeydd o adfeilion yr abaty o'r tri llwybr cerdded.

Mae hyd y llwybrau cerdded yn amrywio ond maen nhw i gyd yn arwain at yr un olygfan lle ceir mainc bicnic.

Mae’r golygfeydd o’r olygfan hon yn arbennig ac yn werth y ddringfa serth ond gwisgwch esgidiau addas!

Llwybrau cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Coed Mawr

  • Grade: Anodd
  • Pellter: 1¾ milltir/2.7 cilomedr
  • Amser: 1 awr
  • Dringo: 180m/600tr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae'r llwybr yn dilyn ffordd goedwig a thrac cerrig i'r ardd goed lle mae llwybr glaswelltog yn mynd drwy gymysgedd o goed conwydd a choed collddail aeddfed. Mae dringfa serth iawn i fyny'r rhiw i'r olygfan lle ceir mainc bicnic. Mae'r llwybr y byddwch yn dychwelyd arno’n mynd drwy ddôl. Mae dwy glwyd ar hyd y llwybr.

Dringwch i fyny'n serth drwy hen ardd goed, gan gadw llygad am y coed derw, ynn, pinwydd a phyrwydd enfawr.

Mwynhewch y golygfeydd o'r olygfan lle ceir mainc.

Yna mae'r llwybr yn disgyn i lawr llethr sydd wedi’i orchuddio â rhedyn ac eithin yn ôl i'r maes parcio.

Llwybr Golygfa Talyllychau

  • Gradd: Anodd
  • Pellter: 2 milltir/2.9 cilomedr
  • Amser: 1½ awr
  • Dringo: 180m/600 tr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae'r daith hon yn dilyn llwybr cul ag arwyneb o gerrig i fyny'r rhiw ac yna'n ymuno â llwybr glaswelltog. Mae dwy fainc a thair mainc bicnic ar hyd y llwybr.

Dringwch i fyny bryn sy’n frith o lwyni eithin ar lwybr igam-ogam sy’n cynnig golygfeydd eang o bentref Talyllychau a thu hwnt.

Wrth i chi groesi cae ar y ffordd at giât, mae golygfeydd agored o Ddyffryn Cothi’n ymddangos ar y dde i chi.

Mwynhewch y golygfeydd o'r olygfan, yna bydd y llwybr yn disgyn yr holl ffordd i'r maes parcio.

Llwybr Cwm yr Efail

  • Gradd: Anodd
  • Pellter: 2½ milltir/4.2 km
  • Amser: 2 awr
  • Climb: 180m/600tr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae'r llwybr yn dilyn ffordd goedwig i'r olygfan ac yna byddwch yn cerdded ar drac ac iddo arwyneb carreg ar y ffordd yn ôl i lawr. Mae dwy fainc a phum mainc bicnic ar hyd y llwybr.

Dringwch y ffyrdd coedwig serth a mwynhewch y golygfeydd cyn i'r llwybr fynd i mewn i'r coetir.

Mae'n cyrraedd yr olygfan gyda mainc ac yna'n dirwyn ei ffordd i lawr y rhiw yn ôl i'r maes parcio.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Coetiroedd Talyllychau 10 milltir i'r gorllewin o Lanymddyfri.

Mae yn Sir Gaerfyrddin.

Map yr Arolwg Ordnans

Mae Coetiroedd Talyllychau ar fap Explorer 186 yr Arolwg Ordnans (OS).

Cyfeirnod grid yr OS yw SN 631 328.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Llangadog.

Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Cyfarwyddiadau

Dilynwch yr A40 o Lanymddyfri i Lanwrda.

Trowch i’r dde i’r A482 i gyfeiriad Llanbedr Pont Steffan ac ar ôl 6½ milltir dilynwch ffordd B4302 i Dalyllychau.

Dilynwch arwydd brown a gwyn i’r abaty yn Nhalyllychau.

Ewch heibio’r abaty ac mae'r fynedfa i Goetiroedd Talyllychau a’r ardal parcio ar y chwith.

Maes parcio

Gallwch barcio mewn cilfan barcio bach wrth y fynedfa i’r coed.

Cofiwch barcio’n ofalus gan adael agoriadau’r gatiau’n glir i roi mynediad brys i’r coed.

Gallwch barcio yno am ddim.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng De Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf