Coed Cwningar, ger Maesyfed

Beth sydd yma

Dim mynediad at raeadr ‘Dŵr-Torri-Gwddf’ ar hyn o bryd.

 

Mae'r Llwybr Rhaeadr ar gau.

Croeso

Mae Coed Cwningar yn boblogaidd ymysg twristiaid ers dros 200 mlynedd oherwydd y rhaeadr a elwir Dŵr-Torri-Gwddf.

Mae’n dipyn o olygfa ar ôl glaw ond gall fod yn ddiferiad ar ôl cyfnod sych hir.

Mae Coed Cwningar wedi ei enwi ar ôl y gwningar a fu’n ffynhonnell fwyd yma ac mae'r rhan hon o Goedwig Maesyfed wedi newid yn aruthrol dros y canrifoedd.

Creodd y tirfeddianwyr Fictoraidd goedwig yn yr arddull Bictiwrésg boblogaidd drwy blannu coed ar y rhostir.

Gallwch weld llawer o'r coed hyn, sydd bellach yn enfawr, ar ein llwybrau cerdded.

Mae yna fan picnic bach yn yr ardal parcio rydych yn mynd heibio ar eich ffordd i brif faes parcio Coed Cwningar.

Llwybrau cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybrau.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded

Llwybr Rhaeadr

Dim mynediad at raeadr ‘Dŵr-Torri-Gwddf’ ar hyn o bryd.

  • Gradd: Hawdd
  • Pellter: ½ milltir/0.9 cilomedr (yna ac yn ôl)

Mae’r llwybr byr hwn yn mynd ar hyd ceunant llethrog tuag at y rhaeadr oedd yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid Fictoraidd.

Ar ôl cwpwl o ddiwrnodau o law mae’r rhaeadr yn olygfa ysblennydd ond gall ostwng i ddiferion ar ôl cyfnod hir o dywydd poeth.

Mae ‘r llwybr yn dychwelyd ar hyd yr un llwybr i’r maes parcio neu gallwch ymuno ag un arall o’r llwybrau hirach drwy’r goedwig.

Llwybr Dŵr Torri Gwddf

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: ½ milltir/1 cilomedr (yna ac yn ôl)

Gyda golygfeydd i lawr i geunant mae’r llwybr hwn drwy’r coed yn eich arwain uwchlaw’r rhaeadr enwog.

Llwybr Cwningar

  • Gradd: Anoodd
  • Pellter: 1½ milltir/2.3 cilomedr

Mae'r llwybr hwn yn grwydr egnïol gydag ambell fan serth.

Mae’r llwybr yn cynnig golygfeydd ysgubol o rai o goed mwyaf sir Faesyfed, llawer ohonynt wedi’u plannu yn Oes Fictoria.

Edrychwch allan am y coed cas gan fwnci!

Coedwig Maesyfed

Mae Coed Cwningar wedi’i leoli yn yr ardal elwir yng Nghoedwig Maesyfed.

Roedd Coedwig Maesyfed unwaith yn dir hela brenhinol. Yr adeg honno, nid ardal goediog oedd hon ond darn o dir agored, wedi ei neilltuo’n gyfreithiol fel tir hela ceirw i’r brenhinoedd Normanaidd.

Heddiw mae Coedwig Maesyfed yn dir ffermio mynydd gyda gweundir helaeth, dyffrynnoedd culion serth a bryniau, ac mae’n codi i’r pwynt uchaf yn Sir Faesyfed, sef Y Domen Ddu sy’n 650 metr (2150 troedfedd) o uchder.

Ceir llwybrau cerdded mewn dau goetir arall a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru o fewn Coedwig Maesyfed.

Ewch i Coed Nash a Fishpools i gael rhagor o wybodaeth.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Lleolir Coed Cwningar 1 milltir i’r de orllewin o Faesyfed.

Mae yn Sir Powys.

Map yr Arolwg Ordnans

Mae Coed Cwningar ar fap Explorer 200 yr Arolwg Ordnans (OS).

Cyfeirnod grid yr OS yw SO 186 597.

Cyfarwyddiadau

Dilynwch yr A44 o Faesyfed i Landrindod.

Tua un filltir ar ôl Maesyfed, trowch i’r dde wrth yr arwydd gwybodaeth dwristiaid brown.

Ewch heibio i’r maes parcio bach ac ardal picnic a dilynwch y ffordd goedwig i fyny i faes parcio Coed Cwningar.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Trefyclo.

Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Maes parcio

Gallwch barcio am ddim yn y maes parcio.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf