Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Coedwig Maesyfed - Fishpools, ger Trefyclo

Llwybr cerdded drwy goetir â golygfeydd dros y dyffryn

Beth sydd yma

Cŵn
Parcio
Llwybr cerdded

Trosolwg

Mae enw’r pentref cyfagos Bleddfa (sy’n golygu ‘lle’r blaidd’) yn dateglu rhywfaint o hanes tra diddorol yr ardal hon.

Yn ôl y traddodiad gyrrwyd y bleiddiaid olaf yng Nghymru oedd yn byw yng nghoedwig hela hynafol Maesyfed yn y diwedd i’r dyffryn yma a’u saethu.

Heddiw mae Maesyfed yn lle mwy tawel ac yn ddelfrydol ar gyfer mynd am dro hamddenol drwy’r coetir.

Mae’r llwybr cylchol yn arwain at olygfan dros bentref Bleddfa a’r cefn gwlad amgylchynol a gellir dewis dolen ychwanegol sy’n mynd o amgylch y rhostir.

Mae’r ardal agored hon yn gynefin gwerthfawr ar gyfer y math o lystyfiant oedd yn tyfu yma cyn i’r tir gael ei bori’n ddwys gan ddefaid a chyn plannu’r coed.

Coedwig Maesyfed

Mae Fishpools wedi’i leoli yn yr ardal elwir yng Nghoedwig Maesyfed.

Golgyfa o Lwybr Fishpools, Coedwig MaesyfedRoedd Coedwig Maesyfed unwaith yn dir hela brenhinol. Y dyddiau hynny, nid coedwig ydoedd yn yr ystyr fodern o fod yn ardal goediog drwchus, ond yn yr ystyr ganoloesol o fod yn ‘fforest’ sef ardal heb fod yn gaeedig a ddefnyddiwyd i hela ceirw.

Mae Coedwig Maesyfed yn dir ffermio mynydd gyda gweundir helaeth, dyffrynnoedd culion a serth a bryniau’n codi i’r pwynt uchaf yn Sir Faesyfed, sef Black Mixen ar 650 metr (2150 troedfedd).

Ceir llwybrau cerdded mewn dau goetir a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru o fewn Coedwig Maesyfed. Ewch i goed Nash a choed Cwningar am fwy o wybodaeth. 

Llwybr cerdded

Mae gan y llwybr cerdded arwyddbyst ac mae’n cychwyn o faes parcio.

Dwy fenyw ar Lwybr Fishpools Llwybr Fishpools

milltir, 4 km, cymedrol

Yn gyntaf mae’r llwybr yn mynd heibio hen dŵr canfod dŵr a ddefnyddid i arolygu’r biblinell sy’n ymestyn o Ddyffryn Elan i gronfa ddŵr yng Nghanolbarth Lloegr. Ym mhellach ymlaen, ceir golygfeydd prydferth i’r gorllewin, allan ar hyd y dyffryn a’r bryniau o amgylch Abaty Cwm Hir. Mae’r llwybr dolen opsiynol yn mynd o amgylch y rhostir lle’r oedd gan bobl leol ar un adeg yr hawl i dorri mawn ar gyfer tanwydd (hawl hynafol o’r enw “mawnog”).

radnor forest fishpools

Cau a dargyfeirio

Sylwch:

  • Weithiau, rhaid inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er eich diogelwch tra byddwn yn mynd i’r afael â gwaith cynnal a chadw neu weithrediadau coedwig
  • O dro i dro, efallai y bydd yn rhaid inni gau safle mewn tywydd eithafol, fel gwyntoedd cryfion neu eira a rhew, oherwydd y perygl posibl i ymwelwyr a staff
  • Cofiwch ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a welwch ar y safle, a gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro sydd mewn grym

Sut i gyrraedd yma

Mae maes parcio Fishpools 7 milltir i’r gorllewin o Drefyclo.

Gallwch barcio am ddim yn y maes parcio.

Lawrlwythwch fap o’r lleoliad.

Cyfarwyddiadau

Dilynwch ffordd A488 o Drefyclo i bentref bach Bleddfa. Arhoswch ar y ffordd hon am ychydig mwy na 1 milltir a bydd maes parcio Fishpools ar yr ochr chwith.

Y cyfeirnod grid OS yw SO 188 683.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Mae’r orsaf drên agosaf yn Nhrefyclo.

Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Darganfod mwy

Manylion cyswllt

Ffôn: 0300 065 3000

E-bost: ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Coedwig Maesyfed Map lleoliad PDF [7.1 MB]
Radnor Forest leaflet PDF [1.6 MB]

Mannau eraill yng Canolbarth Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.