Coetir Lloches Ddu, ger Aberystwyth
Ardal bicnic gysgodol a llwybr glan yr afon
Darganfyddwch ddôl o flodau gwyllt, coetiroedd corsiog a choed byr
Cafodd Cors y Llyn ei enw am fod ehangder y gors a’r corstir yn y Warchodfa Natur Genedlaethol hon unwaith yn llyn.
Cafodd y ddau fasn, sy’n ffurfio craidd y warchodfa, eu naddu gan rewlifoedd yn ystod yr Oes Ia ddiwethaf, a’u llenwi gan y dŵr tawdd.
Dros filoedd o flynyddoedd, cawsant eu llenwi’n raddol â llystyfiant, cerrig a phridd, i greu’r cynefinoedd cyfoethog a chymysg sydd i’w gweld yn y warchodfa heddiw.
Mae un o’r dolydd blodau gwyllt gorau yng nghanolbarth Cymru wedi’i leoli wrth fynediad y warchodfa ac mae rhai o’r coed yn yr ardal gorsiog dros 100 mlwydd oed, er nad ydynt ond ychydig droedfeddi o uchder!
Mae’r warchodfa yn gorwedd ynghudd ond mae’n werth ceisio dod o hyd iddi os ydych yn yr ardal. Mae yna gymaint o wahanol gynefinoedd a rhywogaethau bywyd gwyllt yn y llecyn bychan, heddychlon hwn, ac mae’r coed byr yn rhoi naws hudol iddo.
Mae taith gerdded fechan yma gyda llwybr bordiau, sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn.
Mae Cors y Llyn yn Warchodfa Natur Genedlaethol.
Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn llefydd sydd â’r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.
Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.
Mae dros 100 o rywogaethau o blanhigion blodeuog wedi’u cofnodi yn y ddôl, gan gynnwys tegeirian brych y rhos, yr hesgen lwydlas, y cycyllog bach a’r ystrelwys.
Mae’r ddau fasn yn cynnal ystod eang o blanhigion sy’n hoff o asid, gyda digonedd o figwyn, grug, llugaeron, grug croesddail a’r gwlithlys pryfysol. Ar y cyrion, mae pocedi o lafn y bladur.
Mae gan y basn deheuol gymeriad unigryw ei hun: mae pinwydden yr Alban yn fychan iawn yma, steil Sgandinafaidd, oherwydd y mawn sy’n ddwrlawn.
Mae darn hirgul o goed bedw a ffen yn amgylchynu’r gors.
Edrychwch am y darnau pinc golau yn y ddôl –dyma flodau’r llefrith sydd yn un o’r blodau cyntaf i flodeuo yn gynnar iawn yn y gwanwyn.
Mae nifer o flodau’r gwanwyn yn dilyn yr arddangosfa gynnar hon, gan gynnwys tegeirian brych y rhos, fioled y gors ac ysgall y ddôl.
Mae’r ddôl ar ei gorau yn yr haf, gyda’r cyfoeth o flodau gwyllt yn denu’r gloÿnnod byw ar ddiwrnodau cynnes, llonydd.
Mae yna arddangosfa liwgar o fursennod a gweision neidr ger y pwll yn yr haf hefyd, gan gynnwys rhai mwy fel yr ymerawdwr a gwas neidr y de.
Os byddwch chi’n lwcus, efallai cewch chi’r fraint brin o weld hebog yr ehedydd, yn dal y pryfed yn yr awyr.
Edrychwch am y gwybedog brith, y tingoch a thelor y coed - y triawd sy’n ymweld â choetir derw Cymru dros yr haf.
Mae lliwiau llachar y mwsogl a’r cen yn ddigon i oleuo’r diwrnodau tywyllaf.
Gwrandewch yn astud am grawc y broga cyffredin wrth i chi gerdded heibio’r mannau gwlypaf.
Efallai cewch gipolwg ar froga neu amffibiad arall fel y llyffant cyffredin neu’r fadfall ddŵr balfog.
Mae’r adar sy’n ymweld â’r Warchodfa yn ystod y gaeaf yn cynnwys y cyffylog a’r gïach cyffredin.
Mae’r llwybr cerdded wedi’i arwyddo ac yn dechrau yn y maes parcio.
Awgrymir eich bod yn gwisgo esgidiau sy’n dal dŵr ar gyfer unrhyw ymweliad rhwng yr hydref a’r gwanwyn cynnar, gan fod dŵr yn gallu codi trwy’r llwybr bordiau.
Cerddwch ar y llwybrau a’r bordiau os gwelwch yn dda - mae yna fannau o ddŵr dwfn agored a phyllau dwfn ag ochrau serth sydd wedi’u gorchuddio â llystyfiant arnofiol.
¾ milltir, 1.2 cilomedr, hygyrch
Ychydig y tu draw i’r gât, mae’r llwybr yn dilyn dôl o flodau gwyllt ac yna’n mynd o amgylch pwll, lle gellir dod o hyd i fainc i allu mwynhau’r olygfa.
Mae’r llwybr bordiau yna’n troelli trwy’r coetir corsiog a heibio’r goedwig fach, cyn dod at lethr graddol sy’n eich arwain yn ôl i’r maes parcio.
Mae’r llwybrau’n wastad ac mae’n hawdd cael mynediad at y llwybrau sydd wedi’u gorchuddio â rhwyll a’r llwybr bordiau.
Mae seddi, a mannau pasio ar gael ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn.
Sylwch:
Mae Cors y Llyn 3½ milltir i’r gogledd-orllewin o Lanfair ym Muallt.
Mae parcio am ddim.
Dilynwch y A470 o Raeadr Gwy tuag at Lanfair ym Muallt. Yn syth ar ôl gyrru trwy bentref Y Bontnewydd ar Wy, trowch i’r dde gan ddilyn isffordd (yr hen A470 sy’n rhedeg cyfochr â’r A470 newydd i’r de tuag at Lanfair ym Muallt). Parhewch ar hyd y ffordd yma am oddeutu 1½ milltir, ewch dros bont gerrig a dilynwch y troad nesaf i’r dde gyferbyn â bwthyn gyda ffenestri ‘dormer’. Dilynwch y lôn gul hon am oddeutu ¼ milltir, gyrrwch yn ofalus trwy iard breifat ac anelwch am y gornel chwith bellaf lle mae’r lôn yn parhau allan o’r iard ac ymlaen i faes parcio Cors y Llyn.
Mae Cors y Llyn ar fap Arolwg Ordnans (AR) 200.
Cyfeirnod grid yr AO yw SO 016 556.
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Ffôn: 0300 065 3000
E-bost: ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.