Beth sydd yma

Croeso

Mae maes parcio a safle picnic Y Bwa wedi’u henwi ar ôl hen fwa maen ysblennydd sy’n sefyll wrth ymyl y ffordd - roedd ar un adeg yn borth i Ystâd yr Hafod gerllaw.

Mae yma dri llwybr cerdded byr sy’n arwain drwy goed ffawydd enfawr gafodd eu plannu dros 200 mlynedd yn ôl gan Thomas Johnes a gynlluniodd blasty a thiroedd Hafod.

Mae golygfeydd eang o’r olygfan ar y Llwybr Panorama.

Mae byrddau picnic ar y llethr porfa wrth ymyl y maes parcio sy’n edrych dros y bwa.

Fe’i hadeiladwyd yn 1810 i nodi Jiwbili Aur Brenin Siôr III ac ar un adeg roedd y ffordd yn mynd oddi tano!

Llwybrau cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybrau.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Ffawydd Hynafol

  • Gradd: cymedrol
  • Pellter: ½ milltir/0.7 cilomedr
  • Amser: ¾ awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Taith gymharol gydag un ddringfa serth. Mae’r arwynebedd yn dda yn gyffredinol ond gall fod yn wlyb mewn mannau. Argymhellir eich bod yn dod ag esgidiau cerdded gyda gafael dda. Gofynnir am lefel gymharol o ffitrwydd ar gyfer y daith hon.

Ar y llwybr byr hwn cewch weld coed ffawydd anferth, 200 mlwydd oed, a blannwyd gan ddylunydd Stad yr Hafod, sef Thomas Johnes.

Llwybr Coetir y Bwa

  • Gradd: cymedrol
  • Pellter: 1 milltir/1.5 cilomedr
  • Amser: ¾ awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Taith gymharol gydag un ddringfa serth. Mae’r arwynebedd yn dda yn gyffredinol ond gall fod yn wlyb mewn mannau. Argymhellir eich bod yn dod ag esgidiau cerdded gyda gafael dda. Gofynnir am lefel gymharol o ffitrwydd ar gyfer y daith hon.

Mae Llwybr Coetir y Bwa yn ymlwybro’i ffordd i fyny'r bryn, gan fynd trwy sawl ardal o goed llydanddail.

Mae yma olygfeydd o’r bryniau cyfagos, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny lle cafodd y coed eu torri’n ddiweddar.

Llwybr y Panorama

  • Gradd: cymedrol
  • Pellter: 1¼ milltir/2.1 cilomedr
  • Amser: 1¼ awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Taith gymharol gyda nifer o ddringfeydd hir a disgyniadau serth. Bydd yr arwynebedd yn arw ac yn wlyb mewn mannau o bosibl. Argymhellir eich bod yn dod ag esgidiau cerdded gyda gafael dda. Gofynnir am lefel dda o ffitrwydd ar gyfer y daith hon.

Ar ôl ychydig o waith dringo serth drwy’r grug a’r llus, byddwch yn cyrraedd yr olygfan lle gwelwch fainc a golygfeydd panoramig dros y bryniau cyfagos - ar ddiwrnod clir gallwch weld Cadair Idris nifer o filltiroedd i ffwrdd ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Mae'r llwybr yn mynd yn ei flaen i lawr llethr serth ac yn dychwelyd i'r maes parcio trwy ardaloedd o goed ffawydd enfawr.

Taith Cambria

Mae'r llwybr pellter hir hwn (The Cambrian Way) yn croesi rhai o rannau uchaf a mwyaf gwyllt Cymru ar ei daith o'r arfordir yng Nghaerdydd i Gonwy.

Mae’r rhan rhwng Cwmystwyth a Phontarfynach yn mynd drwy’r goedwig yn y fan hon.

Dysgwch fwy am Daith Cambria.

Safle Darganfod Awyr Dywyll

Y Bwa yw un o’r lleoedd gorau yn lleol i weld y sêr ac mae wedi’i ddynodi’n Safle Darganfod Awyr Dywyll.

Mae’r Bwa wedi’i leoli ym Mynyddoedd Cambria, lle mae’r awyr dros nos ymhlith y rhai mwyaf tywyll yn Ewrop.

Mae Safleoedd Darganfod Awyr Dywyll:

  • i ffwrdd o’r gwaethaf o unrhyw lygredd golau lleol
  • yn fannau lle gellir gweld yr awyr yn glir
  • yn hygyrch i’r cyhoedd, gan gynnwys daear gadarn i gadeiriau olwyn, ac yn gyffredinol gellir mynd atynt drwy’r amser.

Darllenwch syniadau ynglŷn â rhyfeddu at yr awyr yn y nos ar wefan Partneriaeth Darganfod Awyr Dywyll y DU

Foto: Dafydd Wyn Morgan

Coedwig Genedlaethol Cymru

Mae'r Bwa yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:

  • creu ardaloedd o goetir newydd
  • gwella coetiroedd presennol
  • adfer coetiroedd hynafol unigryw Cymru

Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Sut i gyrraedd yma

Mae’r Bwa 13 milltir i'r de ddwyrain o Aberystwyth.

Cod post

Y cod post yw SY23 3JN.

Sylwer: efallai na fydd y cod post hwn yn eich arwain at y maes parcio os byddwch yn defnyddio sat nav neu ap llywio.

Rydym yn awgrymu eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau isod neu’n defnyddio’r Google map ar y dudalen hon lle ceir pin ar safle’r maes parcio.

Cyfarwyddiadau

Dilynwch yr A4120 o Aberystwyth i Bontarfynach, yna dilynwch ffordd B4574 i gyfeiriad Cwmystwyth.

Ar ôl 2 filltir, byddwch yn mynd heibio bwa maen ac mae’r maes parcio ar y chwith.

What3Words

Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.

Arolwg Ordnans

Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio yw SN 765 755 (Explorer Map 213).

Cludiant cyhoeddus

Y prif orsaf reilffordd agosaf yw Aberystwyth.

Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.

Parcio

Mae’r maes parcio yn rhad ac am ddim.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf