Coedwig Irfon - Pont Wen, ger Llanwrtyd

Beth sydd yma

Croeso

Mae Coedwig Irfon wedi’i leoli mewn rhan ddiarffordd a thawel o ganolbarth Cymru ond mae’n hawdd dod o hyd iddo.

Pont Wen yw ein prif faes parcio yng Nghoedwig Irfon.

Mae dau lwybr cerdded byr ar hyd Afon Irfon sy'n llifo i lawr o fynyddoedd Elenydd.

Mae’r ardal bicnic hardd ar lan yr afon wrth ymyl y maes parcio.

""

Llwybrau cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybrau.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded

Llwybr Afon Irfon

  • Gradd: Hawdd
  • Pellter: 1¼ milltir/1.9 cilometr (yno ac yn ôl)
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae gan y llwybr llinol hwn arwyneb o gerrig a rhai rhannau lle ceir cerrig rhydd. Mae yna fainc wrth yr afon ychydig cyn man lle byddwch yn troi i ddychwelyd.

Mae Llwybr Afon Irfon yn dilyn y llwybr ar lan Afon Irfon a thrwy amrywiaeth o goetiroedd cyn dychwelyd ar hyd yr un llwybr yn ôl i’r maes parcio.

Mwynhewch sŵn yr afon a chadwch lygad am y coed sbriws Sitca mawr gyda’u rhisgl cennog.

Llwybr Cwm Irfon

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 1¼ milltir/2.1 cilometr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae’r llwybr cylchol hwn yn dilyn yr un llwybr â Llwybr Afon Irfon ar lan yr afon ond mae’n troi oddi wrth yr afon pan ddaw’r wyneb caled i ben ac yn dringo trac caregog i ymuno â ffordd goedwig. Mae yna fainc ger yr afon.

Mae Llwybr Cwm Irfon yn dilyn y llwybr ar hyd glan Afon Irfon a thrwy amrywiaeth o goetiroedd.

Yna, mae’n dringo at drac uwch lle gallwch fwynhau golygfeydd o’r cwm a’r bryniau cyfagos wrth ddychwelyd i’r maes parcio.

Darganfod Coedwig Irfon

Pont Wen yw ein prif faes parcio yng Nghoedwig Irfon a dyma fan cychwyn y ddau lwybr cerdded ag arwyddbyst.

Cyn ichi gyrraedd maes parcio Pont Wen, byddwch yn mynd heibio i raeadrau a phwll lle bu ffermwyr unwaith yn golchi eu defaid cyn eu cneifio – edrychwch am ein harwydd sy’n dweud Pwll Golchi/Washpool a gallwch barcio yn y gilfan fach gyferbyn â’r arwydd hwn.

Hanner milltir ymhellach ar hyd y ffordd o faes parcio Pont Wen i gyfeiriad Abergwesyn, byddwch yn cyrraedd maes parcio ac ardal bicnic Pwll Bo.

""

Coedwig Genedlaethol Cymru

Mae Coedwig Irfon yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:

  • creu ardaloedd o goetir newydd
  • gwella coetiroedd presennol
  • adfer coetiroedd hynafol unigryw Cymru

Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.

Cau a dargyfeirio

Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.

Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.

Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae maes parcio Pont Wen yn 3 milltir i’r gogledd-orllewin o Lanwrtyd.

Mae yn Sir Powys.

Map Arolwg Ordnans

Mae Coedwig Irfon ar fap Explorer 187 yr Arolwg Ordnans (OS).

Cyfeirnodau grid yr OS:

  • maes parcio Pont Wen SN 856 507
  • maes parcio ac ardal bicnic Pwll Bo SN 852 513
  • Pwll Golchi SN 859 499

Cyfarwyddiadau

O’r A483 yn Llanwrtyd, dilynwch yr arwyddion ar gyfer Abergwesyn i fynd ar is-ffordd.

Dilynwch y ffordd hon am oddeutu 3 milltir ac ewch heibio cilfan barcio bach Pwll Golchi.

Ar ôl ½ milltir arall, mae mynedfa maes parcio Pont Wen ar y dde dros bont fechan.

Parhewch ar hyd y ffordd hon am ½ milltir i gyrraedd maes parcio ac ardal bicnic Pwll Bo.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Llanwrtyd.

Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Maes parcio

Gallwch barcio yno am ddim.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf