Coedwig Dyfnant - Coed Pont Llogel, ger Y Trallwng

Beth sydd yma

Croeso

Coetir bach yw Pont Llogel, yng Nghoedwig Dyfnant.

Mae taith gerdded fer drwy’r coetir ar hyd Afon Efyrnwy.

Mae dwy daith gerdded hwy yn gadael o’r maes parcio ac mae Llwybr Cenedlaethol Glyndŵr yn mynd drwy Goedwig Dyfnant yma.

Mae’r maes parcio ac ardal bicnic yma wrth ochr hen bont gerrig ar gyrion pentrefan.

Llwybr cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded

Llwybr Pont Llogel

  • Gradd: Hawdd
  • Pellter: 1 filltir/1.6 cilomedr (yna ac yn ôl). 
  • Amser: 1 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Dychwelyd yr un ffordd neu allwch ddychwelyd ar hyd y llwybr uwch gyda rhannau serth a grisiau.

Mae Llwybr Pont Llogel yn daith gerdded gysgodol drwy goetir cymysg wrth ochr Afon Efyrnwy.

Mae’r llwybr llydan a gwastad yn dilyn glannau’r afon i fainc bren lle gallwch fwynhau sŵn y dŵr a’r adar.

Oddi yma, gallwch naill ai ddychwelyd yr un ffordd neu ddilyn y llwybr lefel uwch drwy goed derw os ydych yn fodlon mynd ar risiau a rhannau serth.

Mae golygfeydd o’r bryniau drwy’r coed, cyn i’r llwybr ostwng i lannau’r afon a dilyn y prif lwybr yn ôl i’r maes parcio.

Llwybrau cerdded eraill

Argymhellwn eich bod yn mynd â map Arolwg Ordnans neu lyfr tywys ynglŷn â theithiau cerdded i ddilyn y llwybrau hyn.

Llwybr Ann Griffiths

Mae’r daith gerdded hon yn coffáu emynwr enwog o’r 18fed ganrif.

Mae’n cychwyn o faes parcio Pont Llogel ac mae’n gorffen yn Hen Gapel John Hughes ym Mhontrobert.

Mae’r llwybr yn dilyn Afon Efyrnwy, gan gyflwyno amrywiaeth o dirweddau ac ymweld â llawer o’r mannau sy’n gysylltiedig â bywyd Ann Griffiths.

Mae’n 7 milltir/11 cilomedr bob ffordd a chaiff ei reoli gan Gyngor Sir Powys.

Llwybr Pererindod Melangell

Mae’r daith gerdded hon yn olrhain llwybr rhwng Dyffrynnoedd Efyrnwy a Thanat, llwybr sydd wedi'i droedio gan bererinion, chwarelwyr a phorthmyn yn y canrifoedd a aeth heibio.

Mae’n cychwyn dros y ffordd i faes parcio Pont Llogel ac mae’n gorffen yn Llangynog.

Mae’n daith gerdded heriol â rhannau hir o ddringo sy’n cysylltu gwaelodion y dyffrynnoedd â darnau enfawr o weundir agored.

Mae’n 15 milltir / 24 cilomedr bob ffordd a chaiff ei reoli gan Gyngor Sir Powys.

Llwybr Cenedlaethol Glyndŵr

Mae Llwybr Cenedlaethol Glyndŵr yn mynd drwy Goed Pont Llogel.

Ewch i wefan Llwybr Glyndŵr i gael rhagor o wybodaeth.

Coedwig Dyfnant

Mae Coed Pont Llogel yng Nghoedwig Dyfnant.

Mae Coedwig Dyfnant yn goedwig ucheldirol ar gyrion mynyddoedd Cambria yn union i’r de o Lyn Efyrnwy.

Mae’r goedwig yn cynnwys ardaloedd eang o gonwydd a llecynnau o goed collddail brodorol.

Mae’n adnabyddus am ei llwybrau marchogaeth a gyrru car a cheffyl ar draciau golygfaol.

  • Pen y Ffordd - man cychwyn llwybrau marchogaeth yr Enfys
  • Hendre - man cychwyn llwybrau gyrru cart a cheffyl yr Enfys
  • Coed Pont Llogel - taith gerdded hawdd ar llannau'r afon drwy goetir

Coedwig Genedlaethol Cymru

Mae Coedwig Dyfnant yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:

  • creu ardaloedd o goetir newydd
  • gwella coetiroedd presennol
  • adfer coetiroedd hynafol unigryw Cymru

Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.

Cau a dargyfeirio

Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.

Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.

Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Coed Pont Llogel 18 milltir i'r gorllewin o'r Trallwng.

Mae yn Sir Powys.

Map yr Arolwg Ordnans

Mae Coed Pont Llogel ar fap Explorer 239 yr Arolwg Ordnans (OS).

Cyfeirnod grid yr OS ar gyfer y maes parcio yw SJ 032 154.

Cyfarwyddiadau

O'r Trallwng, cymerwch yr A458 tuag at Ddolgellau.

Ar ôl 14½ milltir, ychydig wedi pentref Llangadfan, trowch i'r dde, gan ddilyn arwydd B4395.

Ar ôl 2 filltir, ewch heibio maes parcio Pen y Ffordd ac ar ôl 2 filltir arall i mewn â chi i bentref bach Pont Llogel.

Mae'r maes parcio ar y dde yn syth ar ôl y bont gerrig.

Cludiant cyhoeddus

Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw'r Trallwng.

Am fanylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.

Maes parcio

Mae parcio’n ddi-dâl.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf