Marchogaeth ceffylau

Marchogaeth yn ein coetiroedd

Mae llwybrau marchogaeth ag arwyddbyst a chyfleusterau ar gyfer marchogion yn rhai o’r coetiroedd a meysydd parcio a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae llawer o’r llwybrau marchogaeth wedi’u datblygu mewn partneriaeth â chymdeithasau lleol.

Caniateir marchogaeth hefyd ar lwybrau ceffylau a phob cilffordd.

Caniateir car a cheffyl ar gilffyrdd cyfyngedig a chilffyrdd sydd ar agor i bob math o draffig.

Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian

Mae llwybr marchogaeth ag arwyddbyst o faes parcio’r ganolfan ymwelwyr.

Mae’n dilyn llwybr cylchol drwy gymysgedd o ffyrdd coedwig, ffyrdd cyhoeddus a llwybrau.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Ganolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian.

Coedwig Clocaenog

Mae Trot Bod Petryal yn llwybr amlddefnyddiwr y gall marchogion ei ddefnyddio, yn ogystal á cherddwyr a beicwyr.

Mae’n cychwyn o faes parcio Cyfoeth Naturiol Cymru yn safle Bod Petryal yng Nghoedwig Clocaenog.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i Goedwig Clocaenog – Bod Petryal.

Coed Nercwys

Mae Llwybr Beicio Nercwys yn addas ar gyfer marchogion, cerddwyr a beicwyr.

Mae ganddo arwyddbyst fel y gall marchogion a beicwyr ddilyn y llwybr mewn cyfeiriad gwahanol i gerddwyr.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i Goed Nercwys.

Coedwig Crychan

Pedwar maes parcio Cyfoeth Naturiol Cymru yng Nghoedwig Crychan yw’r man cychwyn ar gyfer milltiroedd lawer o lwybrau ceffylau ar hyd ffyrdd coedwigaeth a hen draciau.

Mae yna hefyd lwybrau byr sy’n ymuno â Llwybr Epynt, llwybr ceffylau 50 milltir o hyd o amgylch terfynau ardal hyfforddiant milwrol Pontsenni.

Mae’r cyfleusterau ar gyfer marchogion yn ein meysydd parcio yn cynnwys corlannau a rheiliau rhwymo.

Mae meysydd parcio Halfway a Brynffo yn fwy addas ar gyfer bocsys ceffylau.

Ceir mynediad ar gyfer gyrwyr car a cheffyl ym maes parcio Brynffo.

Mae Cymdeithas Coedwig Crychan yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i hyrwyddo mynediad i Goedwig Crychan ar gyfer marchogion a defnyddwyr eraill.

Rhagor o wybodaeth

Dilynwch y dolenni isod i ddysgu mwy am ein meysydd parcio yng Nghoedwig Crychan:

I gael rhagor o wybodaeth am farchogaeth yng Nghoedwig Crychan, ewch i wefan Cymdeithas Coedwig Crychan.

Coedwig Dyfnant

Dau faes parcio Cyfoeth Naturiol Cymru yng Nghoedwig Dyfnant yw’r man cychwyn ar gyfer llwybrau marchogaeth yr Enfys.

Mae gan faes parcio Pen y Ffordd ddigon o le parcio ar gyfer cerbydau cludo ceffylau a cheir a chorlan.

Mae gan faes parcio Hendre gylch troi mawr, corlannau a rheiliau rhwymo.

Datblygwyd Llwybrau’r Enfys yng Nghoedwig Dyfnant mewn partneriaeth â Chymdeithas Marchogion a Gyrwyr Cart a Cheffyl Dyfnant ac Efyrnwy.

Rhagor o wybodaeth

Dilynwch y dolenni isod i ddysgu mwy am feysydd parcio yng Nghoedwig Dyfnant:

I gael rhagor o wybodaeth am farchogaeth yng Nghoedwig Dyfnant, ewch i wefan Llwybrau’r Enfys.

Coedwig Niwbwrch

Mae dau lwybr marchogaeth ag arwyddbyst yng Nghoedwig Niwbwrch.

Mae’r llwybrau’n dechrau o faes parcio Pen Cob.

Sylwch eich bod angen trwydded gan Cyfoeth Naturiol Cymru i farchogaeth yng Nghoedwig Niwbwrch.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Goedwig a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Niwbwrch.

Coedwig Pen-bre

Rheolir y llwybrau marchogaeth yng Nghoedwig Pen-bre gan Ymddiriedolaeth Cadwraeth Pen-bre.

Mae angen caniatâd arnoch i farchogaeth yng Nghoedwig Pen-bre.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Goedwig Pen-bre.

Cau a dargyfeirio llwybrau marchogaeth

Weithiau mae’n rhaid cau neu ddargyfeirio llwybrau wrth inni wneud gwaith cynnal a chadw neu waith coedwig neu am resymau eraill fel tywydd gwael.

Rydyn ni’n rhoi manylion am gau a dargyfeirio llwybrau beicio mynydd ar wefannau’r coetiroedd neu’r canolfannau ymwelwyr perthnasol.

Rydyn ni hefyd yn gosod arwyddion sy’n sôn am gau neu ddargyfeirio ar ddechrau pob llwybr.

Gofynnwn yn garedig i chi ddilyn yr holl arwyddion dargyfeirio a chyfarwyddiadau gan ein staff ar y safle er eich diogelwch eich hun.

Caniatâd ar gyfer digwyddiadau

Efallai y bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd cyn trefnu gweithgareddau ar y tir a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Dysgwch fwy am drefnu gweithgaredd neu ddigwyddiad.

Diweddarwyd ddiwethaf