Alwen, ger Dinbych
Ewch ar droed neu ar feic o amgylch y gronfa ddŵr...
Coetir hynafol gyda llwybr cerdded glan afon a chuddfan gwylio bywyd gwyllt
Mae Coed y Fron Wyllt yn goetir heddychlon ym mhen dwyreiniol Coedwig Clocaenog.
Mae llawer ohono'n goetir hynafol sy'n golygu bod coetir yma o leiaf mor bell yn ôl â 1600.
Erbyn hyn mae'n gartref i lwybr cerdded cylch a chuddfan gwylio bywyd gwyllt sy'n edrych dros bwll.
Yn y gwanwyn mae'r llwybr drwy'r coetir yn llawn clychau'r gog a briallu ac mae arogl craf y geifr yn llenwi'r awyr.
Mae mainc bicnic hanner ffordd o amgylch y daith.
Nid yw'r llwybr cerdded cylchol o'r maes parcio wedi'i arwyddo ond mae tua 1½ milltir/2.5 cilometr o hyd.
Ewch am y guddfan bywyd gwyllt ger mynedfa'r maes parcio. Yna dilynwch y llwybr drwy'r coetir ar hyd yr afon. Mae'r llwybr yn mynd heibio mainc bicnic cyn croesi'r afon dros bompren bren. Mae'n dychwelyd ar hyd ffordd goedwig gyda chipolwg yma a thraw drwy'r coed a thros y bryniau cyfagos.
Mae Coed y Fron Wyllt dair milltir i'r gorllewin o Ruthun.
Mae parcio am ddim.
Cymerwch y B5105 o Ruthun i gyfeiriad Clawddnewydd. Ym mhentref Llanfwrog cymerwch y ffordd fach gyferbyn â'r dafarn i gyfeiriad Bontuchel. Ar ôl cyrraedd Bontuchel, cymerwch y troad cyntaf i'r chwith ac ar ôl ½ milltir, bydd maes parcio Coed y Fron Wyllt ar y chwith.
Mae Coed y Fron Wyllt ar fap Arolwg Ordnans (AR) 279, 293 neu 294.
Y cyfeirnod grid AR ar gyfer y maes parcio yw SJ 081 570.
Am mwy o wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Ffôn: 0300 065 3000
Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.