Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Coed Moel Famau, ger yr Wyddgrug

Llwybrau drwy’r coed i gopa Moel Famau

Golygfa o Dŵr y Jiwbilî yng Nghoed Moel Famau

Beth sydd yma

Cyfleusterau hygyrch
Cŵn
Marchogaeth
Beicio mynydd
Parcio (hygyrch)
Parcio (codir tâl)
Picnic
Ardal Chwarae
Toiledau
Llwybr cerdded

Trosolwg

Mae Parc Gwledig Moel Famau yng nghalon Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd.

Gan godi i uchder o 554 metr (1,818 troedfedd), Moel Fama yw’r copa uchaf yng nghadwyn copaon Bryniau Clwyd.

Ar y copa ceir gweddillion Tŵr y Jiwbilî, cofadail eiconig y gellir ei weld o bob cyfeiriad; oddi yno, ceir golygfa anhygoel dros Ogledd Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr.

Gallwch gerdded drwy’r goedwig o faes parcio Coed Moel Famau i gopa Moel Fama.

Gallwch hefyd gerdded i gopa Moel Famau o faes parcio Bwlch Pen Barras.

Mae yna nifer o deithiau cerdded cylchol eraill, sy’n amrywio yn eu hyd, yn cychwyn o faes parcio Coed Moel Famau, a llwybr beicio mynydd, graddfa glas (gweddol anodd).

Ar gyfer yr ymwelwyr iau, ceir Trywydd Tracio ac ardal chwarae Nyth yr Hebog, sy’n boblogaidd gyda phlant.

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd

Mae Coed Moel Famau yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd (AHNE), ger tref Yr Wyddgrug.

AHNE yw ardal o gefn gwlad yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon a ddynodwyd fel ardal i’w gwarchod oherwydd gwerth sylweddol ei thirwedd.

Prif bwrpas statws AHNE yw gwarchod a gwella harddwch naturiol yr ardal – yn awr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae Bryniau Clwyd yn un o ddim ond wyth AHNE yng Nghymru.

Coetiroedd a choedwigoedd ym Mryniau Clwyd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n gofalu am nifer o goetiroedd a choedwigoedd yn AHNE Bryniau Clwyd.

Y coedwigoedd a’r coetiroedd isod yw mannau cychwyn y llwybrau a arwyddwyd ar gyfer cerddwyr, a llwybrau ceffyl ar gyfer marchogion a beicwyr, fel bod modd iddyn nhw fwynhau’r golygfeydd godidog:

  • Coed Moel Famau – y man cychwyn ar gyfer llwybrau drwy’r coed hyd at gopa Moel Fama, y copa uchaf y gadwyn o fryniau sy’n ffurfio Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd (gweler isod)
  • Bwlch Pen Barras – golygfeydd gwych o Ddyffryn Clwyd o’r maes parcio sy’n fan cychwyn ar gyfer pedair taith gerdded, yn cynnwys un i gopa Moel Fama
  • Coed Llangwyfan – teithiau cerdded gyda golygfeydd hyfryd o sawl bryngaer, yn ogystal â llwybr ceffyl sy’n boblogaidd gyda marchogion a beicwyr
  • Coed Nercwys – mae rhwydwaith dda o ffyrdd yn caniatáu mynediad ar droed, ar gefn ceffyl neu ar feic drwy’r coetir conifferaidd hwn

Yn ogystal, mae yna ddwy daith gerdded ar dir sy’n cael ei reoli gan Adnoddau Naturiol Cymru, ac sy’n cychwyn o Barc Gwledig Loggerheads. Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych sy’n gofalu am Barc Gwledig Loggerheads, ac mae’n fan delfrydol i ddod i wybod mwy am Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd.

Mae Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa yn rhedeg ar hyd holl Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd.

Llwybrau cerdded

Mae’r llwybrau cerdded i gyd wedi’u harwyddo ac yn cychwyn o’r maes parcio Coed Moel Fama.

Llwybr Hygyrch

0.21 milltir, 0.349 cilometr

Taith fer a ddeniadol sy'n igam-ogamu ar draws ac ar lan nant fechan. Arwyneb y llwybr mewn cyflwr da ond mae yna rhai graddiannau – os ddilynwch y llwybr yn null cloc yna mae’r graddiannau serth yn ddisgynnol.

Cylch Llarwydd

1½ milltir, 2.5 cilometr

Taith ar ffurf dolen yw Cylch Llarwydd, drwy goed hyfryd hyd at safle lle gellir mwynhau’r olygfa.

Cylch Tŵr y Jiwbilî

3½ milltir, 5.5 cilometr

Mae Cylch Tŵr y Jiwbilî yn dringo’n serth ond yn raddol at Dŵr y Jiwbilî ar gopa Moel Famau ac yn dychwelyd trwy goed cymysg a chefn gwlad agored. Moel Famau yw’r copa uchaf ym Mryniau Clwyd (554 metr/1,818 troedfedd) ac mae’n cynnig un o’r golygfeydd mwyaf ysblennydd yng Nghymru.

Gallwch hefyd gerdded i gopa Moel Fama o faes parcio Bwlch Pen Barras.

Taflen cerdded

Lawrlwytho’r taflen cerdded am fwy o wybodaeth.

Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy leaflet

Llwybr beicio mynydd

Mae’r llwybr beicio mynydd wedi’i arwyddo ac yn cychwyn o’r maes parcio.

Ewch i’n tudalen beicio mynydd am restr o’n holl lwybrau beicio mynydd, a gwybodaeth ynghylch graddio i’ch helpu i ddewis llwybr sy’n addas ar eich cyfer chi.

Cyn cychwyn ar eich taith, dylech hefyd ddarllen yr wybodaeth berthnasol sydd ar gael yn y safle.

Am ragor o wybodaeth am feicio mynydd yng Ngogledd Cymru, ewch i wefan Ride North Wales:

Cylch Mynydd Ffridd

12.2 cilometr, graddfa glas

Mae Llwybr Cylchol Mynydd Ffriddyn igam-ogamu drwy Goed Moel Fama, gan ddringo’n raddol i safle uchel ar ffin y coed, lle ceir golygfeydd ysblennydd dros Lannau Mersi a thu hwnt. Mae’r llwybr gwych yn ôl i lawr yn cael ei ddilyn gan ragor o lwybr ceffyl, ac yn croesi nant cyn dringo ffordd y goedwig yn ôl at y maes parcio. Gwyliwch rhag ofn bod cerddwyr ar y llwybr, gan fod yr adran hon yn cael ei defnyddio gan gerddwyr a marchogion fel ei gilydd. Mae’r llwybr hefyd yn fan cychwyn a man gorffen ar gyfer nifer o deithiau hirach ym mryniau Clwyd.

Gweithgareddau eraill

Llwybrau eraill

Yn ogystal â’r llwybrau eraill, mae yna lwybr sy’n mynd trwy goedardd sy’n cynnwys enghreifftiau o holl rywogaethau coed brodorol y Deyrnas Unedig.

Mae yna lwybr rhifedd i athrawon ei ddefnyddio gyda’u disgyblion, ac ardal ddosbarth awyr agored yng nghefn y goedardd.

Llwybr Traciwr y Goedwig

Hanner milltir, 0.8 cilometr

Mae’r Trywydd Tracio’n gosod her i blant ddyfalu pa ôl troed sy’n perthyn i ba anifail. I ddechrau, rhaid iddyn nhw chwilio am y plac pres, yna defnyddio creon i ddangos yr ôl troed ar eu map, cyn chwilio am gerflun o’r anifail yn y coed. Mae creonau a map i’w cael am ddim yng Nghanolfan Ymwelwyr Loggerheads, ac yn y fan gwerthu bwyd ym maes parcio Coed Moel Fama (pan fo ar agor).

Man chwarae

Mae man chwarae boblogaidd Nyth yr Hebog yn annog plant i ddysgu am amgylchedd y coetiroedd a’u harchwilio.

Mae’n addas ar gyfer plant rhwng 2 a 14 oed, ac yn cynnwys y canlynol:

  • Cedrwydden Gysglyd anferth i ddringo y tu mewn iddi
  • Clamp o Nyth yr Hebog i ddringo drosto a chropian drwyddo
  • Crud Aderyn i siglo y tu mewn iddo
  • Cadwyn y Cerrig i sblasio a phadlo ynddi

Gwybodaeth ynghylch hygyrchedd

Mae’r cyfleusterau’n cynnwys:

  • Llwybr Hygyrch
  • parcio ar gyfer yr anabl
  • toiledau ar gyfer yr anabl

Amserau agor

Mae’r toiledau ar agor rhwng 8 y bore a 6 yr hwyr (Hydref hyd Mawrth) a rhwng 8 y bore a 9 yr hwyr (Ebrill hyd Medi).

Sut i gyrraedd yma

Lawrlwythwch y map lleoliad.

Mae Coed Moel Fama dair milltir i’r de-orllewin o’r Wyddgrug, a cheir arwydd ffordd ar yr A494.

Codir tâl am barcio ar y safle.

Cyfarwyddiadau

O’r gogledd: cymerwch yr A494 o’r Wyddgrug trwy bentrefi Gwernymynydd a Loggerheads, nes cyrraedd y gyffordd sy’n dangos arwydd 'Parc Gwledig Moel Fama' ar y dde. Dilynwch y ffordd hon am filltir, ac mae’r maes parcio ar yr ochr dde.

O’r de: cymerwch yr A494 o Ruthun tuag at Yr Wyddgrug. Ar ôl mynd trwy bentref Llanferres, trowch i’r chwith ar y gyffordd sy’n dangos arwydd 'Parc Gwledig Moel Fama'. Dilynwch y ffordd hon am filltir, ac mae’r maes parcio ar yr ochr dde.

Cyfeirnod grid yr OS yw SJ 161 627.

Trwydded parcio blynyddol

Gallwch brynu trwydded parcio blynyddol i’w ddefnyddio yn y tri maes parcio canlynol:

  • Coed Moel Famau
  • Bwlch Pen Barras
  • Parc Gwledig Loggerheads

Cost y drwydded am flwyddyn yw £30 ac mae’n ddilys yn flynyddol tan ddiwedd mis Mawrth.

Lawr lwythwch a chwblhewch y ffurflen i wneud cais am drwydded.  Yna postiwch y ffurflen ynghyd â siec yn daladwy i Cyfoeth Naturiol Cymru, i’r cyfeiriad ar y ffurflen.

Yna byddwch yn derbyn cerdyn allwedd i agor yr atalfa ym maes parcio Coed Moel Famau a phàs i’w arddangos yn eich car ym meysydd parcio Bwlch Pen Barras a Pharc Gwledig Loggerheads.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, ffoniwch 0300 065 3000 (yn ystod oriau swyddfa) neu e-bostiwch geraint.jones@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Trafnidiaeth gyhoeddus

Mae’r orsaf drenau agosaf ym Mwcle.

Am fanylion ynghylch trafnidiaeth gyhoeddus, ewch i www.cymraeg.traveline.cymru

Cau a dargyfeirio

Sylwch:

  • Weithiau, rhaid inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er eich diogelwch tra byddwn yn mynd i’r afael â gwaith cynnal a chadw neu weithrediadau coedwig
  • O dro i dro, efallai y bydd yn rhaid inni gau safle mewn tywydd eithafol, fel gwyntoedd cryfion neu eira a rhew, oherwydd y perygl posibl i ymwelwyr a staff
  • Cofiwch ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a welwch ar y safle, a gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro sydd mewn grym

Darganfod mwy

Manylion cyswllt

Ffôn: 0300 065 3000

Ebost: ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Coedwigoedd Bryniau Clwyd Map lleoliad PDF [112.9 KB]
Parking Permit Form.pdf PDF [395.6 KB]
Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Llwybrau coedwigoedd PDF [6.8 MB]

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.