Cronfa Ddŵr Alwen, ger Dinbych
Ewch ar droed neu ar feic o amgylch y gronfa ddŵr...
Mae dargyfeiriad ar waith ar lwybr amlddefnyddiwr Trot Bod Petryal.
Efallai y byddwn yn cau'r maes parcio a chyfleusterau eraill ar fyr rybudd wrth i ni wneud gwaith adfer oherwydd difrod yn sgil stormydd diweddar. Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan arwyddion neu staff lleol, gan gynnwys lle mae llwybrau wedi eu dargyfeirio neu eu cau, a byddwch yn wyliadwrus o'r perygl o goed neu ganghennau sy’n cwympo.
Mae Bod Petryal yn un o blith sawl maes parcio yng Nghoedwig Clocaenog, sef ardal enfawr o goetir, gweundir agored, ac afonydd.
Mae Bod Petryal wedi’i enwi ar ôl hen fwthyn y ciper, a arferai fod yn rhan o Ystad Pool Park.
Mae’r safle picnic tawel hwn, sydd wrth ochr llyn, yn cynnig llwybr cerdded byr a llwybr beicio, ac mae’n fan cychwyn delfrydol i gael blas ar y goedwig.
Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Mae’r daith gerdded fer hon yn mynd heibio coed enfawr, hen fwthyn y ciper, a’r llyn hardd.
Mae’r Llwybr Darganfod Anifeiliaid yn cychwyn ar yr un llwybr â Thaith Gerdded y Ceidwad.
Mae’r daflen Llwybr Pos Anifeiliaid yn rhoi cliwiau i helpu plant i ddod o hyd i’r anifeiliaid sy’n cuddio yn y coed - gallwch lwythwch gopi i lawr o waelod y dudalen hon.
Gall cerddwyr, beicwyr a marchogion defnyddio'r ffordd hon.
Ceir panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr – dylech ei ddarllen cyn cychwyn ar eich taith.
Mae arwyddbyst i’w cael o’r dechrau i’r diwedd ac maent wedi’u graddio’n ôl eu hanhawster.
Darganfod ystyr graddau llwybrau beicio mynydd.
Mae’r ffordd hon yn crwydro trwy’r goedwig ar ffyrdd y goedwig ac mae'n addas ar gyfer y teulu i gyd.
Chwiliwch am gnocell y coed wrth fwynhau picnic ar ymyl y llyn.
Mae Clocaenog yn goedwig gonwydd anferth sydd yr un maint â 10,000 o gaeau rygbi (100km2).
Mae ar ben deheuol Mynydd Hiraethog a chafodd ei phlannu gyntaf yn y 1930au gan y Comisiwn Coedwigaeth.
Er bod gwaith yn dal i ddigwydd yn y goedwig, mae bellach yn fan i bobl ei mwynhau ac yn gartref i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt.
Mae gwiwerod coch yn byw yng Nghoedwig Clocaenog ond mae gweld un yn dipyn o gamp gan eu bod yn symud dros ardaloedd eang ac yn greaduriaid eithaf swil.
Mae grugieir duon prin, sy’n adnabyddus am eu defodau paru trawiadol, yn byw ar gyrion y goedwig.
Yn ogystal â Bod Petryal, mae llwybrau ag arwyddbyst yn cychwyn o sawl maes parcio arall sy’n perthyn i Cyfoeth Naturiol Cymru yng Nghoedwig Clocaenog:
Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.
Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.
Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.
Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.
Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.
Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.
Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.
Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.
Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.
Rydym yn argymell eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau hyn neu’n defnyddio’r map Google isod lle mae pin yn nodi’r lleoliad.
Mae Bod Petryal 8 milltir i’r de-orllewin o Ruthun.
Cymerwch ffordd y B5105 o Ruthun i Gerrigydrudion.
Ewch drwy bentref Clawddnewydd ac, yn fuan ar ôl pasio maes parcio Boncyn Foel Bach, mae maes parcio Bod Petryal ar y chwith.
Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio yw SJ 036 512 (Explorer Map 264).
Y cod post yw LL15 2NN. Sylwer bod y cod post hwn yn cwmpasu ardal eang ac ni fydd yn mynd â chi yn uniongyrchol i’r fynedfa.
Y prif orsaf reilffordd agosaf yw Bwcle.
Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.
Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words
Mae’r maes parcio yn rhad ac am ddim.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.