Cronfa Ddŵr Alwen, ger Dinbych
Ewch ar droed neu ar feic o amgylch y gronfa ddŵr...
Pen y Ffordd yw man cychwyn ar gyfer llwybrau marchogaeth yr Enfys yng Nghoedwig Dyfnant.
Mae Pen y Ffordd yn maes parcio pwrpasol.
Mae cyfleusterau yn cynnwys:
Mae bron i 100 milltir o lwybrau ar gael - pum llwybr marchogaeth ceffylau a thri llwybr car a cheffyl yng Ngoedwig Dyfnant.
Cafodd y llwybrau hyn, a elwir yn Llwybrau’r Enfys, eu datblygu mewn partneriaeth â Chymdeithas Marchogion a Gyrwyr Car a Cheffyl Dyfnant ac Efyrnwy.
Mae arwyddbyst ar bob llwybr sy’n amrywio o lwybrau trotian hamddenol i lwybrau 16 milltir heriol i farchogion mwy profiadol sydd eisiau marchogaeth am ddiwrnod cyfan.
I weld y manylion llawn a’r mapiau ewch i wefan Llwybrau’r Enfys.
Mae Pen y Ffordd yng Nghoedwig Dyfnant.
Mae Coedwig Dyfnant yn goedwig ucheldirol ar gyrion mynyddoedd Cambria yn union i’r de o Lyn Efyrnwy.
Mae’r goedwig yn cynnwys ardaloedd eang o gonwydd a llecynnau o goed collddail brodorol.
Mae’n adnabyddus am ei llwybrau marchogaeth a gyrru car a cheffyl ar draciau golygfaol.
Mae Coedwig Dyfnant yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:
Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.
Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.
Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.
Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.
Mae maes parcio Pen y Ffordd 16½ milltir i’r gorllewin o’r Trallwng.
Mae yn Sir Powys.
Mae Pen y Ffordd ar fap Explorer 239 yr Arolwg Ordnans (OS).
Cyfeirnod grid yr OS ar gyfer y maes parcio yw SJ 017 135.
O'r Trallwng, cymerwch yr A458 tuag at Ddolgellau.
Ar ôl 14½ milltir, ychydig wedi pentref Llangadfan, trowch i'r dde, gan ddilyn arwydd B4395.
Ar ôl 2 filltir, mae maes parcio Pen y Ffordd ar y chwith.
Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw'r Trallwng.
Am fanylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae parcio’n ddi-dâl.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.