Gwneud cais am drwydded rhywogaethau a warchodir

Rhaid i chi wneud cais am drwydded gan Cyfoeth Naturiol Cymru os ydych am wneud unrhyw waith sy'n effeithio ar rywogaeth sydd wedi ei gwarchod yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys:

  • dosbarthu, maglu neu drin rhywogaethau a warchodir
  • difrodi eu cynefinoedd, er enghraifft drwy adfer pwll neu adeiladu datblygiad tai

Efallai y bydd angen i chi ddangos bod y gwaith yn angenrheidiol ac nad oes ffordd arall i wneud y gwaith heb effeithio ar y rhywogaethau a warchodir.

Efallai y byddwn yn gwrthod cais am drwydded os nad yw'r gwaith yn angenrheidiol neu os nad yw'n cyfiawnhau'r niwed y gall ei achosi i'r rhywogaeth.

Gwneud cais am drwydded rhywogaethau a warchodir

Gwneud cais am drwydded ar gyfer y rhywogaethau a warchodir canlynol:

Sefyllfaoedd lle mae angen trwydded arnoch

Bydd angen trwydded arnoch er mwyn:

  • atal difrod i amaethyddiaeth, da byw, pysgodfeydd, eiddo neu archaeoleg gan rywogaethau gwarchodedig
  • diogelu iechyd a diogelwch y cyhoedd, megis dymchwel adeilad gwag anniogel sy'n gartref i glwydfan ystlumod
  • cynnal neu ddatblygu tir, er enghraifft troi ffermdir neu safle tir llwyd yn dai
  • atal clefydau ymhlith rhywogaethau
  • bod yn berchen ar rywogaethau a warchodir, eu gwerthu, eu harddangos neu eu cludo
  • cynnal arolwg am bresenoldeb bywyd gwyllt ar eich tir at ddibenion ymchwil wyddonol neu addysgol neu ar gyfer gwaith cadwraeth
  • addasu atig, ail-doi, addasu ysgubor (os oes clwydfan ystlumod yn yr adeilad)
  • cwympo neu deneuo coetir lle ceir coed sy’n cynnwys clwydfannau ystlumod neu sy’n cynnwys nythod gwiwerod coch
  • cwympo coed ar neu gerllaw daear mochyn daear
  • gwaith tir a fyddai’n effeithio ar bwll a chynefin amgylchynol a ddefnyddir gan fadfallod dŵr cribog
  • datblygiad tai newydd ar dir sy’n cynnwys daear mochyn daear
  • gwaith rheoli coetir neu waith arall ger safle bridio dyfrgwn neu glwydfan ystlumod, megis hen adeiladau, gwaith mwyngloddio
  • gwaith ar lannau afonydd a allai ddifrodi neu rwystro mynediad i wâl dyfrgwn neu aflonyddu ar ddyfrgwn tra byddant yn defnyddio’r wâl.
  • gwaith rheoli neu waith arall a allai gynnwys clwydfannau ystlumod, megis gwaith ar bontydd
  • ailbroffilio cyrsiau dŵr, cael gwared ar lystyfiant, neu waith arall a allai ddifrodi neu ddinistrio cynefin a ddefnyddir gan lygod pengrwn y dŵr
  • cael gwared ar goed, gwrychoedd, neu waith coedlannu mewn ardaloedd a ddefnyddir gan bathewod

Pan nad oes angen trwydded arnoch chi

Gallwch wneud gwaith heb drwydded os oes modd i chi drefnu eich gwaith mewn ffordd na fydd yn aflonyddu ar y rhywogaeth na'i chynefin na'i niweidio.

Nid oes angen trwydded dan yr amgylchiadau canlynol:

  • os ydych yn rheoli plâu megis llygod mawr a chwilod duon
  • os nad ydych yn bwriadu difrodi na dinistrio safle bridio na man gorffwys rhywogaethau a warchodir
  • os nad ydych yn bwriadu dal, lladd, niweidio nac aflonyddu ar rywogaethau a warchodir

Pwy all wneud cais am drwydded

Gallwch gyflwyno cais am drwydded os ydych chi'n 18+ oed Gallwch hefyd gyflwyno cais os ydych yn 16+ oed ac yn meddu ar gymwysterau neu wobrau trwyddedu bywyd gwyllt, neu os yw'r cais yn ymwneud â meddu ar rywogaethau a warchodir, eu cludo, eu gwerthu neu eu cyfnewid.

Mae'n rhaid i chi fod yn 16+ oed i weithredu fel asiant achrededig i drwyddedai.

Asiant achrededig yw unigolyn a enwir ar y drwydded sy'n gallu gweithredu ar ran y trwyddedai yn ei absenoldeb.

Mae’r ecolegydd enwebedig yn defnyddio’r ecolegydd cynorthwyol i weithio o dan ei oruchwyliaeth uniongyrchol.

Nid oes angen ichi enwebu ecolegydd cynorthwyol ar y ffurflen gais neu’r drwydded. Fodd bynnag, dylai'r ecolegydd enwebedig neu asiant achrededig gadw cofnod o'r holl gynorthwywyr sydd wedi gweithio o dan drwydded benodol, oherwydd gall y bydd angen iddynt ddarparu’r wybodaeth hon yn ddiweddarach.

Cysylltu â ni

Gallwch gysylltu â ni am gymorth ar unrhyw adeg yn ystod eich cais am drwydded.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf