Trwyddedau moch daear
Mae'r gyfraith yn amddiffyn moch daear, gan gynnwys eu brochfeydd.
Efallai y byddwch yn gallu cael trwydded gennym ni neu Lywodraeth Cymru yn dibynnu ar y gweithgareddau yr ydych am ymgymryd â nhw.
Gallwch gael trwydded ar gyfer rhai gweithgareddau, er mwyn osgoi cyflawni troseddau.
Efallai y bydd angen i chi gyflogi ecolegydd i'ch helpu gyda'r gwaith hwn.
Moch daear a'r gyfraith
Mae yn erbyn y gyfraith i wneud y canlynol:
- lladd, anafu neu gymryd moch daear
- ceisio lladd, anafu neu gymryd moch daear
- meddu ar foch daear byw neu farw, neu rannau ohonynt
- cam-drin mochyn daear yn greulon
- difrodi neu ddinistrio brochfa moch daear neu unrhyw ran ohoni
- rhwystro mynediad i frochfa moch daear neu unrhyw fynediad iddi
- achosi i gi fynd i mewn i frochfa moch daear
- tarfu ar fochyn daear tra'i fod yn byw mewn brochfa
- gwerthu mochyn daear byw, neu ei gynnig i'w werthu
- marcio a modrwyo moch daear
Os cewch eich dyfarnu'n euog o gyflawni unrhyw un o'r troseddau uchod, gallech wynebu dirwy anghyfyngedig a hyd at chwe mis yn y carchar.
Pan fydd angen trwydded moch daear arnoch
Bydd angen i chi gael trwydded ar gyfer unrhyw weithgareddau sy'n effeithio ar foch daear. Gallwch wneud cais am drwydded gan CNC i wneud y canlynol:
- lladd neu gymryd moch daear neu ymyrryd â brochfeydd moch daear at ddibenion cadwraeth, gwyddonol neu addysgol
- meddu ar foch daear byw neu farw, neu rannau ohonynt
- mynd â moch daear i'w modrwyo neu eu marcio neu atodi tag cylch neu ddyfais farcio arall arnynt
- gwneud unrhyw waith datblygu a fyddai’n ymyrryd â brochfa moch daear (gweler y nodyn isod ynglŷn â diffiniad o ddatblygiad)
- cadw heneb mewn modd a fyddai'n ymyrryd â brochfa neu gynnal ymchwiliad archaeolegol a fyddai’n gwneud hyn
- ymchwilio i ddarganfod a oes trosedd wedi'i chyflawni
- casglu tystiolaeth ar gyfer treial llys
- rheoli llwynogod i amddiffyn anifeiliaid hela sydd wedi’u rhyddhau a bywyd gwyllt
Gallwch wneud cais i Lywodraeth Cymru am drwydded i wneud y canlynol:
- ymyrryd â brochfeydd moch daear ar gyfer unrhyw weithrediad amaethyddol neu goedwigaeth
- ymyrryd â brochfeydd moch daear ar gyfer unrhyw weithrediad i gynnal neu wella unrhyw gyrsiau dŵr neu waith draenio presennol
- ymyrryd â brochfeydd moch daear i adeiladu gwaith newydd ar gyfer draenio tir, gan gynnwys gwaith amddiffyn rhag dŵr môr neu ddŵr llanw
- lladd neu gymryd moch daear neu ymyrryd â'u brochfeydd er mwyn atal lledaeniad clefydau
- lladd neu gymryd moch daear neu ymyrryd â’u brochfeydd er mwyn atal difrod difrifol i dir, cnydau neu ddofednod neu unrhyw fath arall o eiddo
- rheoli llwynogod i warchod anifeiliaid hela mewn corlannau ac i ddiogelu da byw
Os oes angen gwneud gwaith i atal difrod difrifol i dir neu unrhyw fath arall o eiddo, gall Llywodraeth Cymru drwyddedu’r gwaith hwnnw. Gall cynghorwyr bywyd gwyllt Llywodraeth Cymru hefyd ymweld a rhoi cyngor ar y safle. Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch ag CNC neu Lywodraeth Cymru, a fydd yn gallu rhoi gwybod a ddylid cael trwydded.
Beth yw ystyr datblygiad?
Mae adran 55(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“Deddf 1990”) yn diffinio “datblygiad” fel a ganlyn:
“… gwneud gwaith adeiladu, peirianneg, mwyngloddio neu weithrediadau eraill yn y tir, arno, drosto neu oddi tano, neu wneud unrhyw newid sylweddol yn nefnydd unrhyw adeiladau neu dir arall.”
Gwaith nad yw'n ddatblygiad o dan y Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref
O dan Ddeddf 1990, mae gweithrediadau amrywiol wedi'u heithrio o'r diffiniad o ddatblygiad. Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol:
- gwneud ar dir o fewn ffiniau ffordd gan awdurdod priffyrdd unrhyw waith sydd ei angen i gynnal a chadw neu wella'r ffordd ond … heb gynnwys unrhyw waith a allai gael effeithiau andwyol sylweddol ar yr amgylchedd;
- awdurdod lleol neu ymgymerwyr statudol yn gwneud unrhyw waith at ddiben archwilio, atgyweirio neu adnewyddu unrhyw garthffosydd, prif bibellau, pibellau, ceblau neu gyfarpar arall, gan gynnwys torri wyneb unrhyw stryd neu dir arall at y diben hwnnw;
- dymchwel adeilad o unrhyw ddisgrifiad a bennir mewn cyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru i awdurdodau cynllunio lleol yn gyffredinol neu i awdurdod cynllunio lleol penodol.
Sylwer nad yw'r rhestr hon yn gynhwysol.
Efallai y byddwch yn gallu amseru gwaith i osgoi cyfnodau sensitif. Y ‘tymor caeedig’ ar gyfer moch daear yw pan fydd moch daear yn feichiog neu’n magu cenawon, sef rhwng mis Rhagfyr a diwedd mis Mehefin. Bydd angen i chi ganiatáu amser i gynllunio ar gyfer hyn yn eich amserlen waith.
Byddai CNC fel arfer yn rhoi trwyddedau i darfu ar foch daear neu ddifrodi neu ddinistrio brochfeydd rhwng 1 Gorffennaf a 30 Tachwedd mewn unrhyw flwyddyn.
Canllawiau i ddatblygwyr
Rydym yn cynnig canllaw sylfaenol i ddatblygwyr. Ni ddylech ddefnyddio'r canllaw hwn yn lle cyngor proffesiynol. Gall ein canllawiau i ddatblygwyr eich helpu i leihau'r effaith y mae eich gwaith yn ei chael ar unrhyw foch daear a'u brochfeydd o fewn eich datblygiad.
Gwneud cais am drwydded
Gwneud cais am drwydded i ymyrryd â brochfeydd moch daear at ddiben datblygiad
Rhoi gwybod am eich gweithredoedd o dan drwydded
Rhaid i chi adrodd am eich gweithredoedd bedair wythnos ar ôl i'ch trwydded ddod i ben.
Mae'n amod ar eich trwydded eich bod yn darparu adroddiad i ni yn dangos pa waith yr ydych wedi'i wneud. Os nad ydych wedi gwneud unrhyw waith, rhaid i chi lenwi'r ffurflen o hyd a'i hanfon atom. Rhaid i chi ddychwelyd y ffurflen atom o fewn pedair wythnos i ddyddiad dod i ben y drwydded.
Diwygio eich trwydded
Gallwch ofyn am newidiadau i'ch trwydded gan ddefnyddio'r ffurflenni perthnasol.
Ffurflen gais am ddiwygiad
Newid trwyddedai
Ffurflen newid ecolegydd
Cysylltwch â ni
Gallwch gysylltu â ni am gymorth ar unrhyw adeg cyn neu yn ystod eich cais am drwydded.