Trwyddedu Rhywogaethau morol a warchodir gan Ewrop
Mae morfilod, dolffiniaid a llamhidyddion (teulu’r morfilod); crwbanod y môr a’r stwrsiwn yn cael eu gwarchod o dan Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017, a elwir yn ‘Rheoliadau Cynefinoedd’. Y rheswm am hyn yw bod eu niferoedd wedi gostwng ledled dyfroedd Ewrop yn y degawdau diwethaf. Mae’r wybodaeth hon yn canolbwyntio ar drwyddedu Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop yng Nghymru ac nid yw’n adolygiad cynhwysfawr o ecoleg na’r gyfraith.
Mae dyfroedd Cymru’n cynnwys y rhywogaethau canlynol o blith teulu’r morfilod:
- Llamhidydd, Phocoena phocoena
- Dolffin trwyn potel, Tursiops truncatus
- Dolffin cyffredin, Delphinus delphis
- Dolffin Risso, Grampus griseus
- Morfil Pigfain, Balaenoptera acutorostrata
Rhywogaethau Morol eraill a Warchodir gan Ewrop a phum crwban y môr:
- Stwrsiwn, Acipenser sturio
- Crwban môr pendew, Caretta caretta
- Crwban môr gwyrdd, Chelonia mydas
- Crwban môr pendew Kemp, Lepidochelys kempii
- Crwban môr gwalchbig, Eretmochelys imbricata
- Crwban môr cefn-lledr, Dermochelys coriacea
Gall gweithgareddau amrywiol fel datblygiadau morol, gwaith ymchwil ac arolygu, cerbydau dŵr a hamdden effeithio ar deulu’r morfilod. Gweler y ddogfen Cod y Môr i gael gwybodaeth am sut i gynnal eich gwaith neu ddiddordebau hamdden heb dorri’r gyfraith.
Diweddariad i trwyddedu rhywogaethau morol alltraeth
O 30 Tachwedd 2017, cafodd y cyfrifoldeb am drwyddedu rhywogaethau a warchodir yn rhanbarth alltraeth Cymru dan Reoliadau Cynefinoedd a Rhywogaethau Morol Alltraeth 2017 ei drosglwyddo i Weinidogion Cymru. Daeth y trosglwyddiad swyddogaeth hwn i Weinidogion Cymru ar ôl ymrwymiad gan Lywodraeth y DU i ddatganoli rhagor o bwerau cadwraeth natur i Gymru.
Gwnaeth y Sefydliad Rheoli Morol roi trwyddedau rhywogaethau morol alltraeth yn flaenorol yn rhanbarth alltraeth Cymru; o 1 Ebrill 2018, mae'r cyfrifoldeb am weinyddu ceisiadau wedi cael ei drosglwyddo i Cyfoeth Naturiol Cymru, a fydd yn gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru.
Os ydych wedi cyflwyno cais i'r Sefydliad Rheoli Morol cyn 1 Ebrill 2018, caiff hwn ei benderfynu o hyd gan y Sefydliad Rheoli Morol. Unwaith y penderfynir ar y cais am drwydded, os oes unrhyw ôl-ofynion trwydded, megis monitro neu ryddhau amodau, Cyfoeth Naturiol Cymru fydd yn ystyried y rhain. Llywodraeth Cymru fyddai'n ymgymryd ag unrhyw waith gorfodi o ran trwydded rhywogaethau a warchodir.
Deddfwriaeth
Mae’r Rheoliadau Cynefinoedd yn datgan bod y canlynol yn drosedd:
- Dal, anafu neu ladd yn fwriadol unrhyw anifail gwyllt sy’n rhywogaeth a warchodir gan Ewrop
- Tarfu’n fwriadol ar unrhyw anifeiliaid gwyllt o’r cyfryw rywogaethau
- Cymryd neu ddifa’n fwriadol wyau anifail o’r fath, neu
- Difa neu ddinistrio safle bridio neu fan gorffwys anifail o’r fath
Mae tarfu’n cynnwys, ond nid yw wedi’i gyfyngu i, unrhyw darfu sy’n debygol:
- amharu ar eu gallu –
- i oroesi, bridio neu atgenhedlu, neu i fagu neu feithrin eu rhai bach, neu
- yn achos anifeiliaid rhywogaeth sy’n gaeafgysgu neu sy’n mudo, yn amharu ar eu gallu i wneud hynny
- effeithio’n sylweddol ar ddosbarthiad neu niferoedd y rhywogaeth y maen nhw’n perthyn iddo yn lleol
Bydd Defra a Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi dogfen ganllaw ar y cyd ar darfu, difa ar Rywogaethau Morol a Warchodir gan Ewrop.
Mae yna droseddau eraill yn ymwneud â meddu, cludo a gwerthu.
Trwyddedu
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi trwyddedau o dan Reoliad 55 y Rheoliadau Cynefinoedd fel y gallwch chi weithio o fewn y gyfraith. Rydym yn eu rhoi at ddibenion penodol a restrir yn y Rheoliadau, os ydych chi'n bodloni'r tri phrawf canlynol:
- mae diben y gwaith yn cyd-fynd ag un o'r dibenion sydd wedi'u rhestru yn y Rheoliadau Cynefinoedd (gweler isod)
- does yna ddim dewis arall boddhaol
- ni fydd y weithred a awdurdodir yn cael effaith niweidiol ar y gwaith o gynnal poblogaeth y rhywogaeth dan sylw ar statws cadwraethol ffafriol yn eu hystod naturiol
Dibenion trwyddedu
O dan y Rheoliadau Cynefinoedd, gellir rhoi trwyddedau ar gyfer cyfres benodol o ddibenion yn cynnwys:
- diogelu iechyd y cyhoedd neu ddiogelwch y cyhoedd neu unrhyw reswm hanfodol arall sydd o fudd cyhoeddus tra phwysig yn cynnwys rhesymau cymdeithasol neu economaidd eu natur a chanlyniadau buddiol sy’n bwysig iawn i’r amgylchedd (yn cynnwys datblygiadau)
- dibenion gwyddonol ac addysgol
- gosod modrwy neu nod
- gwarchod anifeiliaid gwyllt
Gwyddonol neu Addysgol
Byddwch angen trwydded i gymryd neu darfu ar Rywogaethau Morol a Warchodir gan Ewrop, er mwyn gwneud unrhyw waith ymchwil neu arolwg manwl, yn cynnwys tynnu lluniau. Gallwn roi trwyddedau ar gyfer dulliau arolygu mwy mewnwthiol yn cynnwys rhoi nod ar anifeiliaid neu gymryd samplau.
Pwy all wneud cais am drwydded
Sylwch fod y ffurflenni cais isod yn berthnasol i'r ardal forol ardraeth a'r ardal forol alltraeth.
Dysgwch pwy sy’n gallu gwneud cais ar gyfer trwydded rhywogaethau gwarchodedig
Datganiad Dull
Os ydych yn gwneud unrhyw waith datblygu, bydd angen i chi gwblhau datganiad dull. Mae'r datganiad dull yn rhan o'ch cais am drwydded:
Datganiad dull trwydded ddatblygu
Gwneud cais am drwydded rhywogaethau a warchodir
Os nad oes modd i chi osgoi tarfu ar rhywogaethau a warchodir, neu ddifrodi eu safleoedd bridio a’u mannau gorffwys, gallwch wneud cais am drwydded am ystod o wahanol weithgareddau:
- gwaith arolygu neu gadwraeth
- ffurflen gais Teulu’r Morfilod
- cais am drwydded i aflonyddu morol
- trwydded datblygu morol
- meddu ar rywogaethau a warchodir, eu cludo, eu gwerthu neu eu cyfnewid
Cysylltu â ni
Gallwch gysylltu â ni am gymorth ar unrhyw adeg cyn neu yn ystod eich cais ar gyfer trwydded.