Mae mamaliaid bach, at ddibenion y dudalen hon, yn cynnwys llygod pengrwn, llygon, llygod, llygod mawr, gwahaddod a draenogod. Gallwch gael gwybodaeth am drwyddedau ar gyfer mamaliaid eraill ar y tudalennau canlynol:

Mae mamaliaid bach yn cynnwys pryfysorion, fel draenogod, gwahaddod a llygon, a chnofilod, fel llygod a llygod pengrwn. Nid yw pob rhywogaeth yn cael ei gwarchod, ac mae rhai rhywogaethau'n cael eu gwarchod yn fwy nag eraill.

Ni all y dudalen hon roi sylw i bob agwedd ar y gyfraith nac ecoleg mamaliaid, ond mae'n gyflwyniad i ddangos sut y gallwch chi helpu i warchod y rhywogaethau hyn.

Deddfwriaeth y DU

Mae Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd), 'y Ddeddf', yn rhestru sawl rhywogaeth o famaliaid ar Atodlen 6, sy'n gwahardd eu lladd neu eu cymryd mewn rhai ffyrdd. Maen nhw'n cynnwys y mamaliaid bach canlynol:

  • Draenog, Erinaceus europaeus
  • Llygon, Soricidae
  • Llygoden bengron y dŵr, Arvicola amphibius

Mae llygoden bengron y dŵr wedi'i rhestru ar Atodlen 5 y Ddeddf hefyd. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch 'Trwyddedau llygoden bengron y dŵr'.

Deddfwriaeth Ewropeaidd

Nid oes yr un o'r rhywogaethau sy'n cael sylw yma yn cael eu gwarchod dan Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 ('y Rheoliadau Cynefinoedd'). Mae'r pathew wedi'i restru ar atodlen 5 y Rheoliadau Cynefinoedd. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch 'Trwyddedau pathewod'.

Trwyddedau

Mae CNC yn rhoi trwyddedau dan y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad at ddibenion penodol, er mwyn i chi allu cyflawni rhai gweithgareddau heb dorri'r gyfraith. Gallwn roi trwyddedau at y dibenion canlynol:

  • Gwyddonol ac addysgol
  • Modrwyo neu farcio
  • Gwarchod anifeiliaid gwyllt neu blanhigion gwyllt, neu eu cyflwyno i ardaloedd arbennig
  • Gwarchod unrhyw gasgliad sŵolegol neu fotanegol
  • Ffotograffiaeth
  • Iechyd y cyhoedd neu ddiogelwch y cyhoedd
  • Atal clefyd rhag lledaenu
  • Atal difrod difrifol i gnydau, eiddo, pysgodfeydd ac ati

Ni allwn roi trwyddedau ar gyfer gwaith datblygu dan y ddeddfwriaeth hon.

Pwy all wneud cais am drwydded

Dysgwch pwy sy’n gallu gwneud cais ar gyfer trwydded rhywogaethau gwarchodedig

Gwneud cais am drwydded rhywogaethau a warchodir

Os nad oes modd i chi osgoi tarfu ar rhywogaethau a warchodir, neu ddifrodi eu safleoedd bridio a’u mannau gorffwys, gallwch wneud cais am drwydded am ystod o wahanol weithgareddau:

Cysylltu â ni

Gallwch gysylltu â ni am gymorth ar unrhyw adeg cyn neu yn ystod eich cais ar gyfer trwydded.

Diweddarwyd ddiwethaf