Trwyddedau ystlumod
Rhaid i chi wneud cais am drwydded gan Cyfoeth Naturiol Cymru os ydych am wneud unrhyw waith sy'n effeithio ar rywogaeth sydd wedi ei gwarchod yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys:
- dosbarthu, maglu neu drin rhywogaethau a warchodir
- difrodi eu cynefinoedd, er enghraifft drwy adfer pwll neu adeiladu datblygiad tai
Gwarchodir yr holl rywogaethau ystlumod gan y gyfraith, gan gynnwys eu safleoedd bridio a'u mannau gorffwys.
Ystlumod a'r gyfraith
Mae'n anghyfreithlon gwneud y canlynol:
- dal, niweidio neu ladd ystlumod yn bwrpasol
- difrodi neu ddinistrio man bridio neu fan gorffwys
- rhwystro mynediad i'w mannau gorffwys neu glwydo
- meddu ar ystlumod byw neu farw, neu rannau ohonynt, eu cludo, eu gwerthu neu eu cyfnewid
- aflonyddu ar ystlum pan fo mewn strwythur, clwydfan neu fan diogel yn fwriadol neu'n ddi-hid
Efallai y byddwch yn gallu cael trwydded gennym at rai dibenion penodol os ydy’r gwaith rydych chi am ei wneud yn debygol o arwain at drosedd.
Achosion lle nad oes angen trwydded ystlumod
Nid oes angen trwydded ystlumod arnoch er mwyn:
- gofalu am ystlum anabl
- lladd ystlum sydd wedi’i anafu’n ddifrifol
- rhyddhau ystlum o ystafell fyw mewn tŷ
Cael gwybod a oes angen i chi gyflwyno cais am drwydded rhywogaethau a warchodir
Ystlumod yn fy nghartref
Pethau i'w gwneud os ydych yn bryderus am ystlumod yn eich eiddo
Gwneud cais am drwydded ystlumod
Os na allwch osgoi aflonyddu ar ystlumod na difrodi eu clwydfannau, gallwch gyflwyno cais am drwydded rhywogaeth ar-lein.
Gallwch wneud cais am drwydded ar gyfer ystod o wahanol weithgareddau. Ymhlith y mwyaf cyffredin mae:
- gwaith datblygu, seilwaith neu gynnal a chadw
- gwaith arolygu neu gadwraeth
- gwaith rheoli coetir
- meddu, cludo, gwerthu neu gyfnewid rhywogaethau byw neu farw
Cysylltu â ni
Gallwch gysylltu â ni am gymorth ar unrhyw adeg cyn neu yn ystod eich cais ar gyfer trwydded.