Y wiwer goch

Mae’r wiwer goch yn brin yng Nghymru. Mae’r prif boblogaethau ar Ynys Môn, yng nghoedwig Clocaenog ac yng nghanolbarth Cymru, ond fe’i gwelir mewn ambell fan arall hefyd. Mae’r wiwer goch dan fygythiad oherwydd y wiwer lwyd, sy’n lledaenu clefyd (firws brech y wiwer) ac yn cystadlu am yr un bwyd.

Mae Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd) yn rhoi gwarchodaeth lawn i wiwerod coch o dan Atodlen 5.

Mae’r canlynol yn droseddau yn achos rhywogaethau Atodlen 5:

  • Cymryd, lladd neu anafu’n fwriadol
  • Difa neu ddinistrio ei man cysgodi / llochesu’n fwriadol / ddi-hid
  • Tarfu ar y rhywogaeth yn ei man cysgodi / llochesu’n fwriadol / ddi-hid
  • Rhwystro mynediad at ei man cysgodi / llochesu’n fwriadol / ddi-hid
  • Gwerthu, neu gynnig / rhoi i’w gwerthu
  • Meddu

Mae’r wiwer goch hefyd wedi’i rhestru ar Atodlen 6, sy’n gwahardd rhai dulliau o ddal a lladd, sy’n cael eu rhestru yn Adran 11. Maen nhw’n cynnwys defnyddio’r canlynol:

  • Unrhyw drap neu fagl, dyfais electronig neu sylwedd gwenwynig / sy'n achosi i'r anifail gysgu
  • Unrhyw rwyd
  • Unrhyw arf awtomatig neu led-awtomatig
  • Unrhyw ddyfais ar gyfer goleuo targed / dyfais anelu
  • Unrhyw ddyfais dallu
  • Unrhyw nwy neu fwg
  • Unrhyw recordiad sain fel anifail denu
  • Unrhyw gerbyd mecanyddol

Os ydych chi'n gosod trapiau i ddal rhywogaethau sy'n bla (fel y wiwer lwyd), neu dan drwydded gan Cyfoeth Naturiol Cymru, dylech ddarllen y nodiadau canllaw canlynol: Trapio anifeiliaid Atodlen 5 ac Atodlen 6 yn ddamweiniol ac Adrannau Perthnasol Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.

Os ydych chi am gynnal arolygon / ymchwil ar wiwerod coch a fyddai'n golygu eich bod yn cyflawni troseddau dan y ddeddfwriaeth hon, rhaid i chi wneud cais am drwydded gan CNC.

Gwiwerod llwyd

Mae gwiwerod llwyd yn rhywogaeth sy'n peri pryder arbennig o dan y Deddfwriaeth Rhywogaethau Estron Goresgynnol.

Mae'n anghyfreithlon:

  • eu mewnforio
  • eu cadw
  • eu cludo
  • eu bridio
  • eu gwerthu neu eu cyfnewid
  • eu rhyddhau
  • gadael iddyn nhw ddianc i'r gwyllt

Rhaid i chi gael caniatâd y tirfeddiannwr i fynd ar ei dir i ddal gwiwerod llwyd. 

Os byddwch yn trapio gwiwer lwyd yn fyw, ni ddylech ei rhyddhau i'r gwyllt oni bai eich bod yn cael trwydded gennym ni yn gyntaf. Cysylltwch â ni'n uniongyrchol i gael cyngor.

Rhaid i chi ladd gwiwerod llwyd heb achosi iddynt ddioddef yn ddiangen (eu lladd heb greulondeb), gan ddefnyddio dulliau trapio neu saethu cymeradwy. Rhaid i chi fod yn gymwys i ddal a lladd gwiwerod llwyd.

Gall achosi niwed diangen i unrhyw anifail arwain at ddirwy neu garchar.

Os ydych yn trapio gwiwerod llwyd mewn ardal lle mae gwiwerod coch yn bresennol, rhaid i chi ddefnyddio trapiau byw yn unig. Rhaid i chi beidio â thrapio gwiwerod coch trwy gamgymeriad.

Dylech hefyd gynnal mesurau bioddiogelwch priodol i atal clefydau rhag lledaenu o wiwerod llwyd i wiwerod coch.

Pwy all wneud cais am drwydded

Dysgwch pwy sy’n gallu gwneud cais ar gyfer trwydded rhywogaethau gwarchodedig

Gwneud cais am drwydded rhywogaethau a warchodir

Os nad oes modd i chi osgoi tarfu ar rhywogaethau a warchodir, neu ddifrodi eu safleoedd bridio a’u mannau gorffwys, gallwch wneud cais am drwydded am ystod o wahanol weithgareddau:

Cysylltu â ni

Gallwch gysylltu â ni am gymorth ar unrhyw adeg cyn neu yn ystod eich cais ar gyfer trwydded.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf