Trwydded madfallod dŵr cribog
Rhaid i chi wneud cais am drwydded gan Cyfoeth Naturiol Cymru os ydych am wneud unrhyw waith sy'n effeithio ar rywogaeth sydd wedi ei gwarchod yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys:
- dosbarthu, maglu neu drin rhywogaethau a warchodir
- difrodi eu cynefinoedd, er enghraifft drwy adfer pwll neu adeiladu datblygiad tai
Mae madfallod dŵr cribog, gan gynnwys eu safleoedd bridio a'u mannau gorffwys, wedi’u diogelu gan y gyfraith.
Madfallod dŵr cribog a'r gyfraith
Mae yn erbyn y gyfraith:
- dal, anafu neu ladd madfallod dŵr cribog
- difrodi neu ddinistrio man bridio neu orffwys
- rhwystro mynediad i'w mannau gorffwys neu gysgodi
- meddu ar, cludo, gwerthu neu gyfnewid madfallod dŵr cribog byw neu farw
- cymryd wyau madfallod dŵr cribog
Mae’n bosibl y byddech yn gallu cael trwydded gennym ni at ddibenion penodol os mae’r gwaith yr ydych chi’n dymuno ei gwblhau’n debygol o gyflawni trosedd.
Pryd nad oes angen trwydded madfallod dŵr cribog arnoch
Gallwch weithio heb drwydded os gallwch:
- osgoi lladd neu anafu madfallod dŵr cribog
- osgoi dinistrio eu hwyau
- osgoi difrodi eu cynefin
- osgoi tarfu ar fadfallod sy’n bridio
Efallai y byddwch yn gallu amseru’r gwaith i osgoi cyfnodau sensitif, felly bydd angen i chi neilltuo amser i gynllunio ar gyfer hyn yn eich amserlen waith. Efallai y bydd angen i chi gael ecolegydd i'ch cynghori.
Pryd y bydd angen trwydded madfallod dŵr cribog arnoch
Mae madfallod dŵr cribog yn bridio mewn pyllau a chyrff dŵr eraill ond maent yn dibynnu ar gynefinoedd eraill drwy gydol y flwyddyn. Mae gweithgareddau sy'n gallu effeithio ar fadfallod dŵr cribog yn cynnwys:
- cynnal, adfer neu ddinistrio pyllau neu gyrff dŵr
- cyflwyno pysgod i byllau a ddefnyddir gan fadfallod dŵr cribog
- cael gwared ar lystyfiant, prysgwydd, a phentyrrau tocion a ddefnyddir gan fadfallod dŵr cribog
- cloddio a gwaith tir arall
- arolygon sy’n defnyddio tortshys, rhwydi neu drapiau
Rhoi gwybod am fadfallod dŵr cribog
Nid oes angen rhoi gwybod os byddwch yn gweld madfallod dŵr cribog. Rydym yn annog pobl i anfon manylion y bywyd gwyllt y byddant yn eu gweld at eu canolfan gofnodi leol.
Mae gan yr Ymddiriedolaeth Gwarchod Amffibiaid ac Ymlusgiaid wybodaeth i'ch helpu i adnabod y gwahanol rywogaethau o fadfallod.
Canlyniadau prawf eDNA ar gyfer trwyddedu madfallod dŵr cribog
Nawr byddwn yn derbyn canlyniadau prawf eDNA i ddangos tystiolaeth o, neu absenoldeb Madfallod Dŵr Cribog.
Gwneud cais am drwydded madfallod dŵr cribog
Os nad oes modd i chi osgoi tarfu ar fadfallod dŵr cribog, neu ddifrodi eu safleoedd bridio a’u mannau gorffwys, gallwch wneud cais am drwydded rhywogaeth.
Gallwch wneud cais am drwydded am ystod o wahanol weithgareddau, ac mae’r rhai mwyaf cyffredin yn cynnwys:
- gwaith datblygu, seilwaith neu gynnal a chadw
- gwaith arolygu neu gadwraeth
- gwaith rheoli coetir
- meddu ar rywogaethau a warchodir, eu cludo, eu gwerthu neu eu cyfnewid
Pryd i gysylltu â ni
Gallwch gysylltu â ni am gymorth ar unrhyw adeg cyn neu yn ystod y broses o ymgeisio am drwydded.